Pan welais yr erthygl ddiweddaraf yn un o bapurau mawr Lloegr gan un sydd â hir hanes o ddilorni'r Cymry a'r Gymraeg, roeddwn yn ffromi. Mi ysgrifennais blogbost gandryll yn ei gondemnio ond ar ôl cael paned, mi benderfynais beidio a'i phostio. Pam rhoi cyhoeddusrwydd i goc oen?
Mae awduron yr ymosodiadau mileinig ar y Gymraeg yn ymosod yn unswydd er mwyn cael ymateb. Mae ymateb yn codi gwerthiant ac yn codi cliciau ar wefan (mae cliciau yn codi gwerth hysbys). Mae'n debyg bod y Daily Mail, bellach, wedi disodli'r Daily Mirror fel y papur dyddiol sy'n gwerthu mwyaf yng Nghymru gan ddiffyg arian i brynu papur yn yr ardaloedd diwydiannol a'r mewnlifiad o deip arbennig o Sais i gefn gwlad. Mae'n gwneud sens i bapur o'r fath creu rhwyg gymdeithasol. Mae'r papur eisoes wedi denu cefnogwyr un ochr y ddadl, mae taflu olew ar fflam y ddadl yn sicr o ddenu darllenwyr amgen o'r ochr arall sydd am wrthymosod.
Crëwyd y Welsh Mirror yn unswydd er mwyn cefnogi'r Blaid Lafur wedi datganoli. Roedd y papur yn gwerthu'n lled dda - ymysg cenedlaetholwyr a oedd yn ei brynu er mwyn ei gasáu - ond prin oedd ei gwerthiant ymysg cefnogwyr y Blaid Lafur!
Mae'r Daily Post a'r Western Mail wedi hen ddeall mae'r ffordd gorau o werthu papurau i'r Cymry yw drwy eu corddi un dydd a'u cefnogi'r dwthwn nesaf. Mae Golwg360, hyd yn oed wedi gweld mae'r ffordd gorau i gael clic yw trwy gael Cymro dinesig, megis Cris Dafis i gondemnio barn Gari Dym Cefn Gwlad ar bopeth o'r Ffermwyr Ifanc i Draw Cerdd Dant er mwyn creu anghydfod ac ymateb!
Ar ôl yr ymosodiad cyn ddiwethaf gan Roger Lewis ar Gymru, y Cymry a'r Gymraeg awgrymodd Chris Bryant AS Wales is at its best when it is triumphantly insouciant about criticism ac mae #Welshtaliban ar Drydar wedi bod yn triumphantly insouciant parthed yr ymosodiad diweddaraf; yn wir yr wyf wedi torri bol dan chwerthin am sylwadau parthed Salim Ali, y Penrhywkhyber Pass; Nain Elen = cod am 9/11 ac ati ac ati, ond fel dywedodd T Glynne Davies Y Chwerthin Sydd Mor Drist - gan fod y chwerthin yn ymateb sydd yn tynnu sylw at yr erthygl piser!
Roedd Nain yn arfer awgrymu mae'r ffordd gorau i ddelio efo bwli oedd ei anwybyddu, mae'r Parch Martin Niemöller yn awgrymu mae'r gwrthwyneb sy'n wir.
Mae'n anodd, mae ymateb yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r contiaid, mae gwrthod ymateb yn rhoi rhwydd hynt iddynt.
Mae'n cyfyng-gyngor sydd y tu hwnt i fy nirnad i!
Sut dylid ymateb?