Mae'n debyg bod dyfarnwyr pêl droed yr Alban am fynd ar streic bwrw'r Sul. Yn ôl adroddiadau yn wasg yr Alban mae Cymdeithas Pêl-droed yr Alban am dorri'r streic trwy gael dyfarnwyr o Gymru i fod yn scabs - mae'n amlwg nad yw'r SFA yn gyfarwydd â'r traddodiad Cymreig o ddilorni scabs, blaclegs a thorwyr streic fel bradwyr. Rwy'n mawr obeithio bod dyfarnwyr Cymru yn cofio eu hetifeddiaeth ac yn dweud wrth y Sgotiaid lle i stwffio eu pêl.
Trafodaeth/blogposts ddiddorol yn Saesneg gan cefnogwyr pel-droed o Gymru fan hyn:
ReplyDeletehttp://ffwtbol.co.uk/2010/11/23/scottish-refs-can-expect-no-support-from-their-welsh-counterparts
http://mirkobolesan.wordpress.com/2010/11/24/scottish-refs-dont-strike-work-to-rule-instead/