Wele’n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a’i dal o don i don.
Hwyrach nad oes fawr o sail hanesyddol pur i hanes Madog ab Owain Gwynedd yn canfod America (ac yn bwysicach byth yn cofio lle 'roedd o'r ail waith), ond mae myth Madog yn rhan bwysig o hanes a diwylliant Cymru a'r Amerig.
Madog oedd hawl y Brenhinoedd Tuduraidd (etifeddion Owain Gwynedd) i Ogledd yr America, heb yr hawl yna galasa hanes America a Phrydain 'di bod yn dra gwahanol. Dychmyga'r Amerig heb ei chyn hanes Prydeinig neu'r Ymerodraeth Brydeinig pe na bai Gogledd yr Amerig wedi bod yn rhan ohono!
Ym 1953 gosodwyd plac i gofio am Madog ym Mobile Bay, Alabama, lle tybiwyd y glaniodd Madog. Yn anffodus mae'r Plac wedi ei dynnu o na yn niweddar oherwydd bod y safle, Fort Morgan (a enwyd ar 么l Gymro), yn safle o bwys hanes milwrol yr UDA.
Mae Cymdeithas Cymry Alabama am i'r plac cael ei roi yn 么l yn ei le. Mae 'na ddeiseb ar lein i gefnogi eu hymgyrch. Manylion pellach yma:
Cymdeithas Cymry Alabama
27/03/2008
22/03/2008
Y Blaid Boblogaidd
Mae rhywun yn swyddfa Plaid Cymru, sydd heb ddim byd gwell i'w gwneud mae'n debyg, wedi bod yn cadw cyfrif o faint o ymddangosiadau teledu mae aelodau o'r Cynulliad wedi eu gwneud ers mis Mai diwethaf. Dyma’r Siart:
Rhodri Morgan: 211
Ieuan Wyn Jones: 188
Elin Jones: 73
Rhodri Glyn Thomas: 59
Edwina Hart: 55
Jane Hutt: 35
Jane Davidson: 27
Carwyn Jones: 24
Brian Gibbons: 22
Andrew Davies: 16
Arwydd o lwyddiant y Blaid, medd llefarydd, yw'r ffaith bod gweinidogion Plaid Cymru ar y brig. Byddid disgwyl i'r Prif weinidog a'i ddirprwy bod yn y safle cyntaf a'r ail safle. Ond cyn clochdar bod Elin Wyn Jones yn y trydydd safle a Rhodri Glyn yn y bedwaredd mae'n rhaid cofio pam bod nhw mor "boblogaidd". Yn achos Elin dau drychineb ym maes amaeth sy'n gyfrifol: clefyd y tafod glas a chlyw’r traed a'r genau. Bu Rhodri ar y bocs yn amddiffyn nifer o benderfyniadau anffodus megis gorfod talu miliynau i achub Canolfan y Mileniwm ac amddiffyn y ffaith bod y llywodraeth wedi torri addewid parthed papur dyddiol.
Nid da yw pob ymddangosiad ar y sgrin fach!

21/03/2008
Atgyfodi Cymru Annibynol?
Wrth fynd trwy hen bapurau cyn eu rhoi i'r bin ailgylchu does ar draws llythyr yn y Daily Post dyddiedig Dydd Llun Mawrth 17 2008. Llythyr a methais ei ddarllen ar y diwrnod.
Mae'r llythyr yn un gan W Jones, Nantperis yn gofyn am bobl i gynnig eu henwau fel ymgeiswyr i Blaid Cymru Annibynnol / WIP i sefyll yn wardiau Tremadog, Bethel, Aberdaron, Morfa Nefyn, Nant Llanystumdwy a Llanrug.
Roeddwn yn credu bod CA/IWP wedi hen farw bellach - ydy'r llythyrwr yma o ddifri bod y blaid wedi ei hatgyfodi ac yn chwilio am ymgeiswyr go iawn? Ynteu j么c neu dric dan din sydd yma er mwyn corddi dipyn mewn wardiau lle mae Llais Pobl Gwynedd yn bwriadu sefyll?

Subscribe to:
Posts (Atom)