22/08/2011

Addysg Gymraeg Dwyieithog

Dydy Cymru ddim yn wlad ddwyieithog - mae'n wlad efo dwy iaith. Mae tua chwarter ohonom yn gallu'r ddwy iaith (yr ydym yn ddwyieithog), ond mae tua thri chwarter ohonom yn uniaith Saesneg. Mae'r tri chwarter sydd yn uniaith Saesneg yn gallu byw eu bywydau trwy eu un iaith. Does dim modd i berson dwyieithog dewis iaith, mae'n rhaid iddo neu iddi ddefnyddio'r ddwy - nid oes unrhyw gyfartaledd. Saesneg yw'r unig iaith hanfodol yng Nghymru heddiw. Gellir byw bywyd cyflawn heb y Gymraeg, does dim modd byw bywyd cyflawn heb y Saesneg.

Mae ysgolion honedig dwyieithog yn ficrocosm o'r twyll bod Cymru yn wlad ddwyieithog. Mae modd i ddisgyblion mynd trwy gyfnod addysg 3 i 19 ym mhob un o ysgolion dwyieithog Cymru, gan gynnwys rhai naturiol dwyieithog Gwynedd, heb dderbyn namyn mwy nag ambell i leson bach yn Welsh. Does dim modd i'r un plentyn mewn ysgol ddwyieithog fondigrybwyll derbyn yr un safon o addysg Gymraeg ag sydd ar gael mewn ysgolion Penodedig Cymraeg; mae'n rhaid i bob disgybl mewn ysgol ddwyieithog cyfaddawdu a derbyn rhywfaint o'i addysg trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae diffyg ysgolion penodedig Gymraeg yn y Fro Gymraeg, a'r myth bod ysgolion Y Fro yn naturiol ddwyieithog yn gwneud niwed i'r iaith. Pwynt yr wyf wedi ei rhefru amdano ers deng mlynedd ar hugain heb fawr o gefnogaeth; rwy'n falch o weld rhywfaint o gefnogaeth yn dod o du blog Plaid Wrecsam a Blog Bnanw bellach!

Y broblem i addysg Gymraeg yn y Fro yw y byddai 90%, os nad mwy, o rieni yn dewis addysg Gymraeg cyflawn i'w plantos. Byddai 10% yn swnllyd gâs yn ei wrthwynebu, a byddid delio efo'r 10% yn creu problemau a phrotestiadau gwleidyddol i Wynedd, i Fôn, i Geredigion ac i Gaerfyrddin nad ydynt am eu hwynebu, gan fyddai'r gwrthwynebwyr casaf ymysg yr etholwyr sydd wedi ymddeol yn di blant i'r Fro!

Yr unig ffordd o achub yr iaith yw dweud naw wfft i'r protestwyr a sicrhau bod mwyafrif yr ysgolion yn y Fro yn ysgolion Cymraeg go iawn, yn hytrach nag ysgolion ffug dwyieithog sy'n lladd yr iaith.

7 comments:

  1. Anonymous4:43 am

    Rwy'n cytuno 100% mae creu ysgolion Cymraeg i'r lleiafrif yn Gwent yn hawdd. Mae creu ysgolion Saesneg i'r lleiafrif yn Gwynedd yn anodd! Wyt ti eisiau ysgolion Saesneg yn Gwynedd?

    ReplyDelete
  2. Mi fyddai'n well gennyf gweld Ysgol Tywyn, er enghraifft, yn Ysgol Ffug Dwyieithog i Feirionnydd, Gorllewin Maldwyn a Gogledd Ceredigion a chaniatáu i ysgolion Dolgellau, Machynlleth ac Aberystwyth i fod yn Ysgolion Cymraeg go iawn.

    Byddid "aberthu" Tywyn i'r gyfundrefn o ffug addysg "Gymraeg", yn hynny o beth, yn werth chweil!

    ReplyDelete
  3. Cytuno'n llwyr o rhan y trefn presennol ynglyn ag ysgolion ddwyieithog, h.y. ei fod nhw'n neud niwed i'r iaith yn ei chadarnleoedd. Fel rhywun sydd wedi fynychu ysgolion "naturiol ddwyieithog" yn Wynedd, fedrai ddeud yn gadarn nad oes ffasiwn ysgol yn bodoli, doedd athrawon yr ysgolion y fynychais yn y gorffennol ddim yn neud unrhyw ymdrech i sicrhau bod y plant o cartrefi Saesneg yn ddod yn rhugl yn y Gymraeg, ac felly mae'r iaith yn dioddfa. Felly mae angen ysgolion penodedig Cymraeg, NID ysgolion "dwyieithog" yn y Fro gan mai'r Cymry Cymraeg yn unig sydd yn ddod yn ddwyieithog, a nid holl ddisgyblion yr ysgol.

    ReplyDelete
  4. Yn gwmws allwn i ddim wedi ei rhoi hi'n well fy hunan, ti di neud degwaith gwell job i'w weud yn blwmp ac yn blaen nag y beth wnes i.

    Bydda i'n drist bob tro tra'n clywed am ysgol benodedig newydd yng Nghymoedd y de. (Hapus i'r iaith yn yr ardal honno ydw, ond os na wnawn ni'r un peth o fewn y Fro, Colli'r iaith fyddwn ni).

    Beth yw'r ots am ysgolion Cymraeg, heb diriogaeth lle y gellid defnyddio'r Gymraeg bob dydd (ys - Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Sir Fôn) Dyle fod system Gaeltacht yn bodoli yng Nghymru lle mae'r ardaloedd sydd a dros 50% yn siarad yr iaith yn mabwysiadu polisi cyhoeddus uniaith.

    Arwyddion Cymraeg uniaith, cynghorau'n gweithredu'n uniaith Gymraeg, sicrhau bod pawb o fewn y sector cyhoeddus yn yr ardaloedd hyn.

    Beth yw'r pwynt cael swyddfa bost yn 'Grangetown' lle y siarada'r postfeistres Gymraeg tra nôl yn Llandeilo neu Lambed, maent yn uniaith Saesneg?

    Dim ond trwy wneud y Gymraeg yn hanfodol yn y Fro fel iaith na ellir byw hebddo fydd dyfodol y Gymraeg yn ddiogel. Dwli llwyr yw'r syniad yma o 'ddwyieithrwydd' ffug sydd yn uniongyrchol lladd ar yr iaith.

    A fydd yr hyn a soniais amdano uchod yn digwydd yng Nghymru? Dim siawns! Pam? Am nad oes gan ein gwleidyddion asgwrn cefn i frwydro achos y Cymry, maent o hyd yn ofni pechu'r lleiafrif swnllyd sydd yn byw yn y Fro, cyn wneud rhywbeth er lles y Cymry cynhenid a'r iaith.

    ReplyDelete
  5. Emlyn Uwch Cych1:06 pm

    Nawr, mae Alwyn ac Adam ar lleill yn llygad eu lle. Cytuno 100%, ayyb.

    Y trafferth yw hyn: rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n iawn, ond oes un onhonon ni'n fodlon tynnu'r bys mas i wneud rhywbeth amdano fe? Mae cwyno ar flog HRF yn un peth, mae gweithredu'n gwbl gwahanol.

    Yng nghyfarfod blynyddol llywodraethwyr ysgol fy mhlant y llynedd, mi ofynais a fedren nhw fabwysiadu polisi o addysgu'n uniaith drwy'r Gymraeg. Yr ateb cwta oddi wrth y llywodraethwyr (sy'n Gymry bob un) oedd na, roedden nhw'n berffaith hapus gyda'r gyfundrefn "ddwyieithog". Ych.

    Mae'r Gymraeg bob amser yn cael eu hesgeuluso pan fydd mewnfudwyr yn mynnu "tegwch" i'w plant. Beth am degwch i'r brodorion? Ydyn ni'n fodlon gwneud unrhywbeth amdano fe ar ôl y 30 mlynedd mae Alwyn yn son amdanynt?

    Emlyn Uwch Cych

    ReplyDelete
  6. Dwi newydd wedi blogio ar fy mhrofiad i o system addysg "ddwyieithog" Cyngor Gwynedd os oes gen pobl ddifordeb: http://blogygog11.blogspot.com/

    ReplyDelete
  7. Rwy'n cytuno 100% mae creu ysgolion Cymraeg i'r lleiafrif yn Gwent yn hawdd. Mae creu ysgolion Saesneg i'r lleiafrif yn Ngwynedd yn anodd!

    Rhaid cytuno. Mae creu ysgolion Saesneg i'r lleiafrif yn Ngwynedd yn anodd! Rwyf eisoes yn difaru fy newisiadau!

    Ond er mwyn addysg Gymraeg yng Ngwynedd mae'n dewis bydd raid i'w gwneud rhywsut!

    ReplyDelete