23/05/2011

Protestio fel Sosialwyr v protestio fel Cenedlaetholwyr

Yn ystod cyfnod yr etholiad diwethaf fe gafodd Llafur llwyddiant yng Nghymru trwy addo amddiffyn Cymru rhag toriadau'r Torïaid. Fel slogan etholiadol fe lwyddodd. Fel addewid roedd o'n gelwydd dan din nad oes modd i Lafur ei wireddu!

Mae gan Llywodraeth yr Alban llawer, lawer mwy o bwerau na sydd gan Llywodraeth Cymru. Mae gan Llywodraeth yr Alban mwyafrif clir sy'n gwrthwynebu clymblaid Llundain. Ond mae Lywodraeth yr Alban yn cydnabod nad oes ganddi'r gallu i amddiffyn yr Alban rhag rhaib San Steffan!

Yr unig fodd i amddiffyn yr Alban yw trwy annibyniaeth rhag San Steffan.

Pob tro bydd yr SNP yn llwyddo i amddiffyn yr Alban, bydd yn llwyddiant i'r SNP, pob tro bydd yr SNP yn methu amddiffyn yr Alban bydd yn achos dros annibyniaeth!

Yng Nghymru cawn Llafur yn cwyno, heb wneud yr achos cenedlaethol, a Phlaid Cymru yn gyd brotestio ag unoliaethwyr yn erbyn hyn a hyn o safbwynt y chwith yn hytrach nag o safbwynt yr achos cenedlaethol.

Bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r toriadau, ar y cyd a Llafur a mudiadau'r chwith. Yn cefnogi Undebau Llafur, na fydd yn cefnogi’r Blaid yn ôl; yn chwysu gwaed yn erbyn pob drwg bydd Clymblaid San Steffan yn taflu at Gymru ond yn gwneud hynny gan anghofio'r achos cenedlaethol.!

Dydy sefyll ysgwydd at ysgwydd a gweithwyr Swyddfa Pasbort Casnewydd a'r amgylcheddwyr sy'n gwrthwynebu ehangu Bodelwyddan ddim yn ddigon dda!

Os ydym am wrthwynebu cau'r swyddfa neu ehangu'r pentref mae'n rhaid inni wneud hynny o safbwynt cenedlaethol pur os ydym am ehangu'r achos Cenedlaethol!

O safbwynt Prydeinig mae cau Swyddfa Pasbort Casnewydd ac ehangu Bodelwyddan i greu tai i Saeson yn gwneud sens!

Yr unig wrthwynebiad call i'r naill neu'r llall yw’r amddiffyniad cenedlaethol; amddiffyniad nad yw'n cael ei wneud gan genedlaetholwyr hyd yn hyn.

1 comment:

  1. Pwyntiau diddorol iawn a chytunaf yn enwedig parthed sefyll ochr yn ochr dros sosialaeth yn hytrach na Chenedlaetholdeb. Dwi'n sosialydd ond yn genedlaetholwr yn gyntaf. Yn rhy rydym fel Cymry wedi esgeuluso'n hachos Genedlaethol er budd sosialaeth gwan sydd heb wneud dim. Oni'n són am geiriau Gwynfor yn dweud plaid y Werin yw Plaid Cymru nid oes arni label gwleidyddol. Yn ei gyfnod e roedd hynny'n wir ond nawr, Plaid Sosialaidd yw Plaid Cymru cyn ei bod hi'n Blaid Genedlaethol. Angen newid hyn

    ReplyDelete