06/04/2011

Disunited Anti-Welsh Llafur

Pan waelais i'r poster United and Welsh ar FlogMenai am y tro cyntaf, fy nheimlad oedd un o ddicter a chenfigen.

Dyma boster gan grŵp all-bleidiol yn awgrymu sut i bleidleisio yn dactegol er mwyn sicrhau nad yw Llafur yn cael goruchafiaeth ar wleidyddiaeth Cymru eto eleni. Pam fod copi (dienw) wedi ei ddanfon i FlogMenai ond nid i mi ffor ff... sec?

Pe bawn wedi cael yr e-bost di enw a dderbyniwyd gan FlogMenai, mi fyddwn wedi llyncu'r abwyd ac wedi ei gyhoeddi fel ymgyrch go iawn a oedd yn llawn haeddu ei gefnogi.

Y mae'n gwbl amlwg, bellach, mae bwriad danfon y post at FlogMenai, yn unig, o flogwyr Cymru oedd er mwyn i Cai llyncu'r abwyd a chyhoeddi ei gefnogaeth llwyraf i'r ymgyrch o bleidleisio i'r Ceidwadwyr mewn sawl etholaeth. Diolch byth, fe welodd Cai gwendidau'r ddadl, a'i chondemnio.

Pe bai Cai wedi llyncu'r abwyd mi fyddai'r Blaid Lafur wedi cynhaeafu'r ffaith bod prif blogiwr y Blaid wedi cefnogi'r fath gachu - heb ots dyna oedd y bwriad; hwyrach bod y bwriad yn fwy eithafol byth sef ceisio gorfodi'r Blaid i ddiarddel Cai o'u restr o gefnogwyr blogiawl - neu wneud prif blogiwr Plaid Cymru yn embaras i'r Blaid!

Diolch byth eu bod wedi methu!

Caru neu gasáu BlogMenai, mae ei gyfraniad i fyd blogio yn y Gymraeg yn un enfawr. Mae ymgais y Blaid Lafur i'w danseilio mewn ffordd dan din, yn hytrach na chreu blog Llafur Cymraeg o safon i ddadlau yn ei erbyn yn adrodd cyfrolau am eu hagwedd tuag at yr Iaith Gymraeg!

Ond os ydy adran triciau budron y Blaid Lafur am hysbysu nad oes ganddynt obaith yng Ngorllewin Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin, Caerffili, Glyn Nedd, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Bro Morgannwg, Gwyr, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd, Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Abertawe - pa hawl sydd gyda fi i anghytuno a'u hasesiad?

3 comments:

  1. Anonymous9:45 am

    Dwi'n cytuno efo United and Welsh. Gwneud lot o sens i fi.

    ReplyDelete
  2. Anonymous11:50 am

    Dwi ddim yn meddwl mai dyma sut digwyddodd pethau. Mae'n gwbl amlwg nad crewr y poster yw crewr y wefan. Ac nid yn ddienw y gyrrwyd y poster at Cai, ond gan rywun o safbwynt nid gwrthBleidiol. Hynny ydi, mae ymgyrch jeniwin y tu ôl i'r poster - un y baswn i'n ei chefnogi.

    Crewyd y wefan yn unswydd er mwyn 'hostio' copi o'r poster. Gwelodd rhywun o fewn y Blaid Lafur gyfle i gysylltu'r Blaid â'r ymgyrch, a chreu'r wefan yn unswydd er mwyn ei chofrestru i swyddfa Ieuan Wyn Jones.

    Mae hyn yn rhan o ymgais gyson gan Lafur i greu'r argraff fod y Blaid a'r Ceidwadwyr yn y gwely gyda'i gilydd. Roedd y cyfrif twitter ffug benwythnos cynhadledd y Blaid yn rhan o'r un ymgais amrwd.

    Mae yna sgandal fawr yn fan hyn, dwi'n teimlo: bwydwyd y wybodaeth yma'n uniongyrchol i Chris Bryant, a wnaeth yr honiad yn Nhŷ'r Cyffredin mai swyddfa IWJ sy'n gyfrifol am y poster. Roedd hyn oll wedi ei gynllunio. Ydan ni i fod i gredu i Chris Bryant wedi digwydd dod ar draws y wefan yma a gwirio'r manylion cofrestru? Mae'r holl beth yn drewi.

    ReplyDelete
  3. Diolch Alwyn.

    Er nad oes gen i syniad pwy anfonodd y poster ataf, mae gen i le da i gredu bod dy gyfranwr anhysbys yn gywir i ddweud nad oedd gan hwnnw ddim oll i'w wneud efo'r tric bach Llafuraidd.

    Rhywun welodd ei boster ar fy mlog i a'i gopio.

    ReplyDelete