25/03/2011

Wêls Wân Tŵ - Dim Diolch!

Ar drothwy ei chynhadledd mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud wrth Golwg 360 ei fod yn annhebygol y bydden nhw’n gallu dod i gytundeb â’r Ceidwadwyr neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn Etholiadau’r Cynulliad.. Rwy'n methu deall pam!

Mater o farn yw pa mor onest oedd y Blaid ar y pryd, ond ar ôl etholiad 2007, roedd yna awgrym cryf bod modd creu clymblaid enfys gwrth-Lafur, yn cael ei harwain gan Blaid Cymru. Be sydd wedi newid ers hynny?

Yr ateb syml, wrth gwrs, yw mai'r Blaid Geidwadol, bellach, yn brif blaid, Llywodraeth San Steffan mewn clymblaid a thrydydd lliw'r enfys, sef y Democratiaid Rhyddfrydol. Byddwn yn tybio bod hynny yn rheswm o blaid ail adfer y posibilrwydd o glymblaid enfys! Wedi'r cwbl un o brif ddadleuon yr achos dros Gymru'n un oedd y byddai modd cael consesiynau o San Steffan, yn ogystal â chytundebau yn y Bae, o gynghreirio a phlaid llywodraeth Llundain.

Mae angen symudiadau o San Steffan o hyd ar Gymru os yw datganoli am esblygu, ac ar hyn o bryd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr yw'r rhai sy'n gallu cynnig y fath consesiynau, ac y maent y debycach o'u cynnig i Lywodraeth Enfys nag i Gymru'n Un #2!

Mae Ieuan yn cyfiawnhau ymwrthod a ddêl gyda'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr trwy ddweud Mae angen fformiwla ariannu deg i Gymru, ac yn sicr nid dyna y mae Fformiwla Barnett yn ei gynnig. Ond pa Gynghrair yn y Cynulliad sydd yn fwyaf tebygol o fynd i'r afael a'r fath achos; cynghrair a'r Blaid Lafur neu gynghrair a phleidiau Llywodraeth San Steffan?

Y gwir yw bod syniad yr Enfys wedi ei drechu yn 2007 gan chwith eithafol y Blaid, nad oeddent byth bythoedd am weld Plaid Cymru yn clymbleidio a Bwystfil Tinflewog y Blaid Ceidwadol o dan unrhyw amgylchiadau, a'r un bobl sydd y tu cefn i ddatganiad Ieuan Wyn nad oes gobaith i'r Blaid cytuno ag Enfys eto.

I mi'r Fwystfil Tinflewog yng Ngwleidyddiaeth Cymru, casawyr pob dim sydd yn dda yn ein traddodiad gwerinol Cymreig a Chymraeg, yw'r Blaid Lafur.

Mae Cymru wedi dioddef o dan ganrif o hegemoni Llafur a'i chasineb tuag at ein hiaith a'n cenedl, mi fyddwn wrth fy modd pe bai ei gafael unbenaethol ar ein gwlad yn cael ei thorri unwaith, os nid am fyth.

Rwy'n casáu’r Blaid Lafur a chas perffaith o herwydd bod y Blaid Lafur wedi dangos cas perffaith tuag at hunaniaeth Gymreig a'r Iaith Gymraeg am dros ganrif, ac y mae'n parhau i'w wneud.

Os mae bwriad Plaid Cymru yw ymladd yr etholiad ar bolisi o Wêls Wân Tŵ - a llyfu tin y fwystfil Llafur - bydd fy mhleidlais i yn y bin yn hytrach nag yn y post.

2 comments:

  1. Petai Cymru'n Un II yn sicrwydd swni ddim yn pleidleisio dros y Blaid chwaith. Dwi wir yn gobeithio na fydd hi. Mi fydd Plaid Cymru yn gwanychu ei hun o fynd i'r fath sefyllfa eto, ac yn y pen draw cenedlaetholdeb.

    ReplyDelete
  2. Alwyn - Y gwir yw bod syniad yr Enfys wedi ei drechu yn 2007 gan chwith eithafol y Blaid_ _ _

    'Hanes' dychmygol ydi hyn.

    Erthylwyd Clymblaid yr Enfys oherwydd i'r Lib Dems gael panic bach a phoeri'r dwmi allan o'r goets.

    ReplyDelete