06/02/2010

Straight Talk Elfyn Llwyd

Mae'n sicr nad ydy'r rhaglen wleidyddol Straight Talk ar restr gwylio orfodol pawb.

I ddweud y gwir mae'n gallu bod yn rhaglen ddiflas tu hwnt ar adegau,gyda chyfweliadau dwys efo bobl fel gweinidog tramor Georgia ac ati.

Heddiw'r gwestai oedd Elfyn Llwyd!

Dydy'r rhaglen ddim ar gael ar i-Player o'r herwydd ei fod yn cael ei ail ddarlledu hyd dragwyddoldeb.

Dyma fanylion ei ai ail ddarllediadau:

Broadcasts
Sat 6 Feb 2010 04:30 BBC News Channel
Sat 6 Feb 2010 22:30 BBC News Channel
Sat 6 Feb 2010 23:25 BBC Parliament
Sun 7 Feb 2010 01:30 BBC News Channel
Sun 7 Feb 2010 22:30 BBC News Channel
Tue 9 Feb 2010 03:30 BBC News Channel

Dwi ddim yn gwybod sut mae Elfyn yn gwneud ar y rhaglen, digwydd clywed Andrew Brilo yn dweud diolch yn fawr a nos da i Elfyn rhyw pum munud yn ôl!

Siawns caf gyfle i ddal y rhaglen cyfan ryw ben, a thrafod ymatebion Elfyn mewn manylder!

1 comment:

  1. Anonymous2:24 pm

    Mae'r rhaglen ar iPlayer erbyn hyn, ac mi wnes i fwynhau. Roeddwn i'n meddwl bod Elfyn yn dod drosodd yn dda iawn - ymddangos yn rhesymol, yn feddylgar ac yn gwneud joban dda o jyglo'r 'party line' a dangos annibyniaeth barn.

    Mi wnaeth o ddweud yn blaen mai'r iaith a'r diwylliant oedd ei ysgogiad cyntaf mewn gwleidyddiaeth.

    Y cwestiwn anoddaf, fel y gellid disgwyl, oedd hwnnw am y codiad mewn pensiynau. I'w amddiffyn ei hun, soniodd am rywbeth nad o'n i wedi'i glywed o'r blaen, sef mai dim ond i bobl dros 80 oed y bydd y codiad yn digwydd. Newydd i mi, ond cop-out da.

    Roedd o wannaf wrth i Brilo'i holi am broblem Cymru o or-ddibyniaeth ar y sector cyhoeddus, ac mi roddodd Brilo'r broblem mewn catch-22 bach taclus. Roedd Elfyn yn amlwg yn cydnabod y broblem, ac yn dymuno mynd i'r afael a hi, ond wnaeth o ddim dweud sut yn union y byddai o'n taclo'r broblem.

    Rhaid canmol Andrew Neil - roedd o'n rhugl iawn wrth drafod Cymru, sydd yn faes anghyfarwydd iddo (ond efallai bod hynna'n dweud mwy am fy nisgwyliadau i o newyddiadurwyr y BBC...)

    Yn gyffredinol, roedd o'n gyfweliad diddorol ac roedd yn braf clywed Elfyn Llwyd yn siarad yn helaeth. Mae o'n ddyn da a byddai'n dda'i weld o yn y Cynulliad.

    ReplyDelete