22/02/2010

Gohebu gwleidyddol diduedd

Ar Facebook mae yna ambell i grŵp megis Ban Jonathan Davies from Scottish rugby matches a Jonathan Davies is an irritatingly biased and squeaky prat, sydd wedi eu sefydlu gan Albanwyr a oedd yn anhapus efo'r ffordd yr oedd Jonathan yn dangos tuedd wrth sylwebu ar gêm rygbi Cymru v Yr Alban yr wythnos diwethaf.

Mae'r rhai sydd ddim yn hoffi Jonathan yn credu dyla gohebwyr y BBC bod yn gwbl ddiduedd.

I mi mae'r syniad o gael Cymro amlwg sydd wedi chware dros ei wlad yn cogio nad ydy o'n gefnogol i'w dim cenedlaethol yn hurt potas, bydda ddisgwyl iddo fod yn ddiduedd yn troi Jonathan o fod yn sylwebydd hwylus a brwdfrydig i un fflat, ffals a chelwyddog.

Mae'r un yn wir efo sylwebyddion gwleidyddol. Rwy'n gweld hi'n anodd coelio bod unigolyn sydd a digon o ddiddordeb yn y byd gwleidyddol i ddymuno gweithio fel gohebydd gwleidyddol yn un sydd heb farn wleidyddol unigol gref. O feddwl am rywun fel Karl Davies, dyn a safodd etholiad Sansteffan yn enw Plaid Cymru, cyn mynd i weithio fel gohebydd seneddol y BBC ac yna ymadael a'r Bîb i ddod yn brif weithredwr Plaid Cymru. Onid oedd y Gorfforaeth yn gofyn inni atal crediniaeth wrth ddisgwyl inni gogio bod Karl yn sylwebydd diduedd ?

Er bod gan Jonathan ei dueddiadau amlwg, wrth sylwebu ar gemau Cymru y mae o'n gallu fod yn wrthrychol ac yn feirniadol pan fo Cymru ddim yn chware cystal ag y gallasant, ac yr oedd Karl yr un mor wrthrychol wrth ohebu am weithgareddau seneddol Plaid Cymru.

Y broblem efo'r myth bod gohebwyr gwleidyddol yn ddiduedd yw ei fod yn gwahodd sylwadau fel yr un canlynol a ymddangosodd ar fy mlog Saesneg ddoe:

"Did you see their 'Politics Show' interviews today? Biased attack dog against Ieuan Wyn Jones but purring like kitty with Huw Irranca Davies. The sooner they have proper competition here the better."

Ydy'r feirniadaeth hon yn deg? Dwi ddim yn gwybod, gwelais i mo'r rhaglen, ond yn sicr mi fyddai'n llawer mwy onest pe bai'r yn BBC rhoi gwybod inni trwy ddweud be ydy tueddiadau gwleidyddol yr ohebydd dan sylw.

1 comment:

  1. Dim ond adloniant ysgafn yw rhaglenni gwleidyddol. Andrew Marr oedd y mwyaf doniol ddoe, gredaf i. Roedd raid iddyn nhw sôn am brif stori'r diwrnod, sef cyhuddiadau'r Observer am Gordon Brown, ond fe wnaethon nhw hynny cyn gyflymed ag oedd yn bosibl, cyn iddyn nhw wneud môr a mynydd o broblemau mân y Ceidwadwyr.

    Does dim pwynt cwyno bod y rhaglenni hyn yn dueddol, oherwydd bod pawb sy'n eu gwylio nhw'n gwybod bod yna lawer o sylwebaeth. Ac mae'r rhai sy'n eu gwylio'n aml yn gwybod pa fath o sylwebaeth i'w disgwyl hefyd. Llawer gwaeth yw cyhoeddi straeon fel newyddion ar eu gwefan nad ydyn nhw ddim ond ceisio dylanwadu ar bobl i gefnogi polisïau rhagfarnllyd y Blaid Lafur.

    ReplyDelete