11/01/2009

Dathlu Darwin

Mae yna fanteision o gael dy eni ar ddechrau blwyddyn a chyhoeddi dy waith pwysicaf ar ddiwedd dy 50fed flwyddyn o oed. Rwyt yn cael blwyddyn gyfan o ddathlu wedi canrif, canrif a hanner a dwy ganrif!

Ganwyd Charles Darwin ar 12ef Chwefror 2009, gan hynny yr ydym yn dathlu dwy ganrif ei eni. Chyhoeddwyd ei waith mawr On the Origin of Spceies ym mis Tachwedd 1859, cant a hanner o flynyddoedd yn ôl - achos dathliad dwbl ac achos dathliad blwyddyn gyfan!

Yn anffodus bydd y dathliadau yn codi'r hen grachen am Esblygiad v Creadigaeth, eto byth.

Gan ei fod yn wybyddus i ddarllenwyr rheolaidd y blog fy mod yn Gristion, ac yn aelod eitha' ceidwadol o'r Eglwys Fethodistaidd, waeth imi ddatgan fy marn rŵan am y ddadl, cyn bod eraill yn adeiladu dynion o wellt i ddadlau yn erbyn yr hyn y maent yn tybio fy mod yn credu.

Y gwir blaen yw nad ydwyf yn gwybod!

Yr wyf yn derbyn y Beibl fel Gair Duw sydd yn datgan gwirioneddau diymwad am berthynas Duw a dyn, a gan hynny yr wyf yn derbyn bod ei neges yn eirwir. Yr wyf yr un mor sicr nad yw'r Beibl yn werslyfr gwyddonol. Pwrpas y Beibl yw datgan natur Duw a'i berthynas a dynion.

Mae hanes Johna a'r morfil yn enghraifft pur o hyn. Os cafodd Jonah ei lyncu gan forfil yn llythrennol neu yn ddamhegol mae'r "neges" yn y stori yn aros yr un fath, dibwys braidd yw dadlau am ei eirwiredd.

Yn hanesion y creu mae Duw yn rhoi cyfrifoldeb inni i warchod y ddaear y mae o wedi rhoi i'n gofal. Trwy ailgylchu ein gwasarn a diffodd ein goleuadau stand by yr ydym yn derbyn y cyfrifoldeb dwys yma.

Ond pam?

Mae'n debyg bod gwartheg yn torri gwynt yn achosi llawer o niwed i'r parth O - ond a ydy'r fuwch sy'n rhechan yn poeni?

Nac ydi!

Os nad ydym yn ddim byd ond cynnyrch esblygiad, fel y fuwch, pam ein bod ni'n poeni tra fo'r fuwch, sydd ar fai, yn gwbl di hud? Tybiwn i mae'r ateb yw oherwydd bod gennym gyfrifoldeb uwch. Rwy'n ddeall pam bod Duw yn rhoi'r cyfrifoldeb yna inni - ond be di esgus esblygiad am wneud imi boeni am gynyrch pen ol anifail arall?

Pan oeddwn tua 17 oed mi geisiais ddarllen On the Origin of Spceies, dim ond dwy bennod llwyddais i'w ddarllen cyn rhoi'r gorau arni, rhaid cydnabod bod yr holl gysyniad yr oedd Darwin yn ceisio ei drafod y tu hwnt i'm ddirnad i.

Mi wyliais raglen deledu ar hanes y gwcw yn gynharach heddiw. Rhaglen llawn damcaniaethau ar esblygiad yr aderyn twyllodrus nad oeddwn yn eu deall o gwbl. Roeddwn yn ddeall sut oedd cyfanwaith twyll y gwcw yn gweithio, ond yn methu deall sut yr oedd modd i'r system datblygu / esblygu. Roedd yna nifer o gamau angenrheidiol i'r twyll gweithio, camau gan y tad, y fam, y cyw a'r adar maeth. Pe bai un cam ar goll bydda'r holl gynllun yn methu - so sut oedd y fath system wedi datblygu / esblygu cam wrth gam? Y dryswch mwyaf i mi oedd sut oedd cyw'r gwcw, a oedd wedi ei fagu gan rieni maeth, yn gwybod sut i ymddwyn fel cwcw a chreu'r un twyll er mwyn ei etifedd y flwyddyn nesaf - heb addysg gan gwcw arall! Anhygoel!

Fel y nodais eisoes nid ydwyf yn wrthwynebus i'r syniad o esblygiad. Rwy'n ddigon bodlon cydnabod nad oes gennyf ddigon o wybodaeth i ddatgan barn o'i blaid nac yn ei herbyn, rwy'n gweld o'n bwnc na allaf cael gafael arni. Yn yr un modd ac ydwyf yn ddigon bodlon derbyn nad ydwyf yn wyddonydd roced nac yn llawfeddyg yr ymennydd.

O ddweud hynny dwi ddim yn dwpsyn! Rwy'n ddigon galluog i gydnabod yr hyn rwy'n gwybod a'r hyn nad ydwyf yn ei ddeall. Ydy pawb sy'n pledio achos Darwin yn gallu dweud, a llaw ar galon, eu bod yn ddeall pob dim am gysyniad Esblygiad?

Rwy'n gwybod, trwy ffydd, bod yr Arglwydd Iesu Grist yn Waredwr imi. Peth chwerthinllyd i nifer o'r rhai sydd yn pledio achos Darwin yn ystod cyfnod y dathliad. Ond tybed faint o'r dathlwyr sydd yn ddeall esblygiad yn iawn, a pha faint sydd ddim ond yn derbyn eu cred ym mhenarglwyddiaeth damcamiaeth Darwin trwy ffydd?

No comments:

Post a Comment