16/09/2015

Y Blaid, Cenedlaetholdeb a Chorbyn

Gallwn ddeall pam bod cefnogwyr adain chwith Jeremy Corbyn yn y Blaid Lafur yn cannu'n groch am ei fuddugoliaeth yn etholiad yr arweinyddiaeth, mae'n buddugoliaeth i'r chwith, yn ddiamheuaeth, ond ni allaf ddeall pam bod rhai aelodau o Blaid Cymru mor frwd am ei fuddugoliaeth!

Am y 30 mlynedd diwethaf bu gan y Blaid polisi o geisio denu pleidleisiau o'r chwith i Lafur Tony Blair ac ati, polisi sydd wedi methu'n druenus, ac sydd bellach yn deilchion gydag arweinydd Llafur a all roi rhediad teg i Leanne Wood ar bolisïau sosialaidd.

Nid yw Jeremy Corbyn yn gefnogwr i genedlaetholdeb Cymreig, mae o'n wrthwynebydd i ddatganoli, ac mae ei agwedd at Gymru yn un a sylwadau George Thomas am the fastest run over the Severn Bridge neu sylw Blair Fuck Wales.

Mae agwedd adain chwith Corbyn mor ddi-hid am Gymru ac oedd adain dde ei ragflaenwyr!

O ran yr Achos Cenedlaethol, nid oes dim wedi newid drwy ethol Corbyn; mae de, canol a chwith Llafur mor wrthwynebus i genedlaetholdeb Cymreig heddiw a buasent erioed!

Yr wyf, bodd bynnag, yn croesawu etholiad Corbyn; oherwydd gallasai ei ethol dwyn perswâd ar Blaid Cymru i sylweddoli mae'r Achos Cenedlaethol yw ei brif nod, nid llenwi ryw wacter sosialaidd a adwyd ar ôl gan Lafur Cymru yn y 1970au!

16/08/2015

Ymddiheuro am y Steddfod

Mi fwynheais raglen y bardd Benjamin Zephaniah ar y BBC am yr Eisteddfod, fe wnaeth ambell i sylw ardderchog, megis mae adeiladwyr, a phlymwyr a phobl gyffredin yw mynychwyr yr Eisteddfod, nid y crach sydd yn mynychu gwyliau tebyg yn Lloegr - rhywbeth i'w gofio pan fo'r Blaid Lafur, yn cyhuddo'r Gymraeg o fod yn Iaith y Crachach, eto byth a gofyn am adolygiad, eto, i ehangder apêl yr Eisteddfod.

Un o'r elfennau o'r rhaglen nad oeddwn yn hoff ohoni oedd yr "ymddiheuriad" bron gan ambell i Gymro a ymddangosodd ar y rhaglen am sylfeini "ffug" yr eisteddfod. Mae pawb yn gwybod mae ffantasi dan ddylanwad cyffuriau Iolo Morgannwg yw'r orsedd a'i rhwysg, ond ffantasi a seiliwyd ar wirionedd. Roedd Iolo yn gelwyddgi penigamp, gofynnwch i unrhyw heddwas - mae'r celwydd anoddaf i'w gwrthbrofi yw'r un sydd â sail gwirionedd ynddi, mae sail wirioneddol yn hanes y Derwyddon ers dros 2,000 mlynedd, mae sail Cadeirio bardd ers 700 mlynedd, mae'r sail canu cerdd dant a chanu cynghanedd yn draddodiadau sy'n bod, heb angen ffug hanes iddynt.

Syr John Morris Jones, wrth gwrs, dechreuodd y traddodiad o ymddiheuro am yr Eisteddfod. Dyn a wrthododd cael ei Urddo i Orsedd y Beirdd, gan fod Gorsedd y Beirdd yn "ffug", ond dyn a dderbyniodd ei urddo'n Marchog, er gwaetha'r ffaith na fu'n marchogaeth ceffyl mewn rhyfel erioed! Ond dyn oedd yn digon bodlon torri holl reolau'r marchog i gynghreiriodd efo Lloyd George i sicrhau marwolaeth milwr, Hedd Wyn, er mwyn creu "ffug" propaganda Rhyfel Eisteddfod Penbedw!

Yr hyn sydd fwyaf chwerthinllyd am yr ymddiheuriad am ffug hanes yr Eisteddfod, yw clywed Huw Edwards, mab Hywel Teifi Edwards, yr awdurdod mwyaf ar hanes ffug rhwysg yr Eisteddfod, yn sylwebu ar hen hanes a thraddodiadau Agoriad Wladol y Senedd. Ni agorwyd y Senedd gyda rhwysg y "State Opening" cyn i'r Arglwydd Esher ail greu traddodiad ar gyfer y Brenin Edward VII ym 1901. Perthyn i'w gyfnod ef mae'r cau drws cyn cnoc y Rod Du, cadw'r prif chwip yn wystl ac ati, nid hen, hen hanes a thraddodiad. Lol botas o draddodiad sydd gan mlwydd yn iau na thraddodiad yr Eisteddfod fodern ydyw!

Ond pwy sy'n dal ymddiheuro?

17/06/2015

Achub Pantycelyn neu achub yr Iaith?

Mae gennyf pob parch dros y sawl sydd wrthi'n meddiannu Neuadd Pantycelyn ar hyn o bryd. Mae pob safiad dros yr iaith yn haeddu parch, ond mae gennyf bryderon enfawr am sail eu safiad.

Mi fûm yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod hynod ber yn nechrau'r 1980au ac yn breswylydd Neuadd JMJ y cyfnod, sef yr "Univerity Hall" cynt a sefydlwyd yn ystod taernasiad Victoria (symudodd JMJ drws nesaf i'r hen Neuadd Rathbone wedyn).

Roedd y neuadd, hyd yn oed yn yr 1980au, yn llety gwael. Roedd symud o dŷ cyngor lle'r oedd dau doiled (efo PST meddal) ac un bath i saith o honnom, i neuadd lle 'roedd coridor cyfan yn rhannu bath a geudy (efo papur IZAL caled) yn sylymio, hyd yn oed i hogyn fel fi! Yr Iôr a ŵyr be oedd barn fy nghyd fyfyrwyr o gefndiroedd mwy sedêt o'r lle!

Roedd fy nghyfnod byr yn JMJ yng nghyd fynd ag un allweddol yn hanes yr ymgyrch iaith, cyfnod brwydr y sianel, cyfnod elyniaeth Adfer a CIG, cyfnod MG, cyfnod UMCB v NUS ac ati, cyfnod Gwerin v Roc v Siwpergrwp yn y byd cerddorol, ac o fyw yn JMJ yr oeddwn yn teimlo fy mod yn byw yng nghanol berw brwydr dyfodol y genedl.

Wrth ymweld â chyfeillion ym Mhantycelyn, tebyg oedd eu llety a'u profiad hwy, ar y pryd. (Ar y pryd roedd myfyrwyr yn cael eu talu grant am eu myfyrdodau, bellach mae'n rhaid iddynt dalu am y fraint o fod yn efrydydd!)

Rwy'n fodlon derbyn bod Pantycelyn wedi ei uwchraddio ychydig ers y 1980au ond mae'n parhau yn debycach i brofiad y 1980au (a'r 1880au) na phrofiad y rhan fwyaf o fyfyrwyr Prydain sy'n byw mewn fflatiau en suit y 2010au.

Rwy'n gwybod am sawl berson ifanc Cymraeg ei iaith sydd wedi ymwrthod a Phantycelyn ac wedi dod yn rhan o brofiad Saesneg Pentref y Myfyrwyr ym Mhenglais; rhai sydd wedi dewis Prifysgolion yn Lloegr yn hytrach nag Aber, o herwydd y disgwyl iddynt breswylio ym Mhanty, o ddewis Aber.

Waeth i Achubwyr Pantycelyn derbyn bod disgwyliadau myfyrwyr am ddarpariaeth llety wedi newid ers y 1980au, y 1960au ac yn sicr ers y 1880au, do fe fu cyfraniad Pantycelyn, JMJ ac Univeristy Hall yn arbennig ym mharhad yr iaith, ond mae ceisio cadw sylfaen darpariaeth hen ffasiwn fel yr University Hall er mwn achub yr iaith megis dweud mai rhywbeth sy'n perthyn i'r 1880au yw'r Gymraeg!

Rhaid darparu'r safonau llety gorau i'r Cymry cyfoes er mwyn eu taenu i'n prifysgolion, yn anffodus dyw Pantycelyn, hen ffasiwn, dim yn cyflenwi'r fath darpariaeth bellach!