15/01/2015

Je ne suis pas Charlie


Rwy'n teimlo'n anghynnes parthed rhan o'r naratif sydd wedi codi ers yr erchyllterau yn Ffrainc yr wythnos diwethaf.

Yr wyf, yn ddiamheuaeth, yn cefnogi rhyddid barn a hawl newyddiadurwyr / sylwebwyr / blogwyr (hyd yn oed) i sarhau unrhyw gredo, ond dyw cefnogi rhyddid barn ddim yn gyfystyr a gorfod sarhau!

Y cyhuddiad o lwfrdra, ildio i derfysgaeth, diffyg cefnogaeth i achos ryddid ac ati sy'n cael ei daflu at y sawl sy'n gwrthod ail gyhoeddi cartwnau Charlie Hebdo sydd yn fy mhoeni. Os mae ofn, yn unig, yw'r rheswm dros beidio cyhoeddi - digon teg; ond fel y mae rhyddid yn rhoi imi'r hawl i sarhau, mae hefyd yn rhoi imi'r hawl i barchu. Ac os yw papur yn dewis peidio ail gyhoeddi'r cartwnau ar sail parch (yn hytrach nag ofn) rhaid amddiffyn eu hawl hwy gymaint, os nad fwy, a hawl y sawl sydd am ail gyhoeddi'r cartwnau sarhaus.

Nid gwendid yw dweud Rwy'n parchu dy ffydd a dy hawl i arddel y ffydd honno, ac nid ydwyf am dy sarhau o'i herwydd, ond cryfder yn erbyn y sawl sy'n camddefnyddio rhyddid fel moes am yr uniongrededd cyfoes!