15/01/2015
Je ne suis pas Charlie
Rwy'n teimlo'n anghynnes parthed rhan o'r naratif sydd wedi codi ers yr erchyllterau yn Ffrainc yr wythnos diwethaf.
Yr wyf, yn ddiamheuaeth, yn cefnogi rhyddid barn a hawl newyddiadurwyr / sylwebwyr / blogwyr (hyd yn oed) i sarhau unrhyw gredo, ond dyw cefnogi rhyddid barn ddim yn gyfystyr a gorfod sarhau!
Y cyhuddiad o lwfrdra, ildio i derfysgaeth, diffyg cefnogaeth i achos ryddid ac ati sy'n cael ei daflu at y sawl sy'n gwrthod ail gyhoeddi cartwnau Charlie Hebdo sydd yn fy mhoeni. Os mae ofn, yn unig, yw'r rheswm dros beidio cyhoeddi - digon teg; ond fel y mae rhyddid yn rhoi imi'r hawl i sarhau, mae hefyd yn rhoi imi'r hawl i barchu. Ac os yw papur yn dewis peidio ail gyhoeddi'r cartwnau ar sail parch (yn hytrach nag ofn) rhaid amddiffyn eu hawl hwy gymaint, os nad fwy, a hawl y sawl sydd am ail gyhoeddi'r cartwnau sarhaus.
Nid gwendid yw dweud Rwy'n parchu dy ffydd a dy hawl i arddel y ffydd honno, ac nid ydwyf am dy sarhau o'i herwydd, ond cryfder yn erbyn y sawl sy'n camddefnyddio rhyddid fel moes am yr uniongrededd cyfoes!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
O Alwyn, dwi'n anabeithio'n llwyr gyda chi! Fi ydw Charlie. Doedd dim Mohammed yn dyn braf iawn. Priododd e ferch o naw oedd. Magwch os gwelwch yn dda! Oedd hawl arna bobl Charlie hebdo I fyw. Mae hawl gyda chi I anghytuno gyda nhw wirth gwrs. Ond cofiwch. sarhadodd Mohammed a Abu Bakr paganiaid a Iddewon a Gristionogaidd. Gweudodd Abu Bakr i Pagan,''Sugnwch ar y clitoris o ech duwes''. Oedd mohammed yn presenol. Doedd e ddim yn cwyno.
ReplyDeleteMae drwg iawn gyda fi achos don i ddim yn gallu ysgrifennu yn dda o gwbl yn Nghymraeg. Lladodd Mohammed llawer o bobl yn ol y Mwslimaidd felly pam bothran am y dyn drwg iawn fel hyn. Sai'n eisiau i sarhadu chi wrth gwrs neu person neis, hanesyddol neu yn byw heddiw.
Dwi'n teiml trist achos mae Nghymraeg i yn wael iawn, ond dwi'n tybio allwch chi'n deal beth dwi'n trio weud,
Hwyl Fawr
Marianne o'r Fenni