20/02/2014

Nid TAW bia hi!

Mewn sylw ar ei flog mae Cai Larsen yn adrodd y gwirionedd noeth

Fel mae'r gyfradd pleidleisio yn syrthio mae perfformiad y Blaid yn gwella

Rhan o lwyddiant Plaid Cymru yn etholiadau cyntaf y Cynulliad oedd cael y bleidlais craidd allan mewn etholiad lle na fu llawer yn pleidleisio!

Rhan o fethiant Plaid Cymru yn ail etholiad y Cynulliad, a phob etholiad ers hynny, bu ceisio manteisio ar y ffaith bod Pleidleiswyr Plaid Cymru yn fwy tebygol o bleidleisio gan anwybyddu'r angen i ddwyn pleidleiswyr i'r achos.

Mae'r Blaid wedi gweithredu polisi o "taw bia hi" ers 1999. Yn ystod etholiad Cynulliad 2003, rhoddais hen boster o'r etholiad blaenorol yn fy ffenest i gefnogi Gareth Jones, cefais gŵys gan aelodau'r Blaid i’w dynnu i lawr gan ei fod yn "hybu etholiad" i etholwyr nad oeddynt yn debygol o bleidleisio / yn debygol o bleidleisio i blaid arall

Mae na rywbeth gyffredinol anghynnes mewn ymgyrch etholiadol sy'n bwriadol ceisio crebachu nifer y pleidleiswyr, mae na rhywbeth llawer mwy ffiaidd mewn etholiad sydd ddim yn lledaenu'r achos cenedlaethol er mwyn cynyddu'r gefnogaeth, gan ddiystyru canlyniad!

Cafodd Plaid Cymru ei canlyniadau gorau erioed yn y 1960au ar 70au, pan oedd y Blaid yn un swnllyd ar y diawl, yn styrbio pawb a phopeth efo cyrn pen car, yn cyhoeddi negeseuon nad oedd y cyfryngau prif lif am eu crybwyll!

Os am lwyddo yn etholiad Ewrop, Etholiad San Steffan, Etholiad y Bae, gwell na mud obeithio am dyrnowt isel yw bloeddio, mewn pob modd posibl ein cefnogaeth i achos ryddid ein gwlad a Phlaid Cymru.

Wedi'r cwbl mae'r ACHOS yn BWYSICACH na'r bleidlais! Ac, ar y cyfan mae'r Blaid wedi llwyddo mwy trwy floeddio na chau cêg!

12/02/2014

Chwip Din i'r Cynulliad

Roedd gwrando ar ddadl ar ddisgyblu plant ar Y Dydd yn y Cynulliad yn werth aros fynnu yn hwyr y nos ar ei gyfer. Roedd nifer o ddadleuon call yn cael eu gwneud o'r ddwy ochor. Rwy'n credu bod y Cynulliad wedi gwneud y penderfyniad cywir i beidio a chynnwys deddfwriaeth ar ddisgyblu plant fel cynffon i'r Mesur ar Wasanaeth Cymdeithasol. Ond yn wir obeithio bydd cynnig unigol ar y pwnc yn cael ei gyflwyno yn fuan.

Roeddwn yn cytuno, i raddau, efo rai o sylwadau Darren Millar a Byron Davies. Mae rhieni sydd yn curo eu plant mewn modd disgybledig yn rhieni cariadus sydd yn dymuno'r gorau ar gyfer eu plant. Ond heb fy mherswadio mae caniatáu iddynt i barhau i guro eu plant yw'r ffordd gorau iddynt barhau i fynegi'r gorau ar eu cyfer.

Rwy'n cofio adeg, yn ôl yn y chwedegau, pan ddaeth Taid a Nain acw jest ar ôl i mi cael chwip din gan Dad am ryw ddrwg weithrediad, a Taid yn ceisio fy nghysuro trwy ddisgrifio'r gosb y bydda fo di cael am yr un drosedd ar droad y ganrif cyn ddiwethaf - ei ddinoethi o flaen y teulu cyfan a chael ei guro â wialen bedw hyd fod gwaed yn llifo - roeddwn yn lwcus bod y byd wedi ei wareiddio i'r fath raddau mae llaw draws trowsus ym mhreifatrwydd stafell gwely cefais i!

Doedd fy Nhad ddim yn fwystfil anhrugarog am chwipio fy nhin yn y ffordd wnaeth, doedd fy Hen Daid ddim yn byrfert rhywiol am ddisgyblu ei fab mewn modd byddai'n sicr o'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhywiol pe bai'n digwydd heddiw. Roedd y ddau yn dadau cariadus a oedd yn gwneud yr hyn yr oeddynt yn credu oedd y gorau ar gyfer eu plant o fewn safonau eu hoes. Ond mae'r oes wedi newid. Dwi ddim yn bradychu Dad na'i amharchu trwy beidio chwipio tinau fy mhlant yn y modd cafodd fy nhin i'w chwipio ganddo ef - jest yn derbyn bod pethau'n wahanol a derbyn bod modd amgenach i ni ddangos ein cariad at blant.

Roedd un agwedd o'r ddadl yn peri pryder imi, cyfeiriodd sawl gyfrannydd i'r drafodaeth am greu troseddwyr o rieni - dadl gwan; yr hyn sydd yn peri gofid imi yw creu troseddwyr o blant!

Rwy'n ddigon hen i gofio dyddiau'r gansen yn cael ei ddefnyddio mewn ysgol (ar "blant" digon hen i bleidleisio - gan fod ambell AC wedi gofyn am oedran rhoi gorau i guro!) Rwy'n falch bod y gansen wedi ei wahardd, byddwn byth am weld ei ail gyflwyno - OND un o'r pryderon i mi pan oedd fy mhlant yn mynd trwy'r ysgol oedd clywed son am yr heddlu yn cael eu galw i'r ysgol ac achosion llys yn deillio, o ddigwyddiadau lle byddwn i wedi derbyn y gansen. Ar y cyfan rwy'n falch fy mod wedi cael cansen oedd yn brifo am wythnos yn hytrach na record droseddol bydda'n brifo am oes!

Rwy'n lled gytuno a'r bwriad i wahardd disgyblaeth gorfforol ar blant, cyn belled a chaf y sicrwydd mae'r rhiant, nid y wladwriaeth, bydd yn pennu’r gosb pan fo plentyn, wir yr, yn haeddu'r amgen i chwip din!

23/01/2014

Ofn y chwith i ddadlau yn erbyn mewnfudo


Mae pob Cymro sydd wedi edrych ar ffigyrau'r cyfrifiad o 1901 i 2011 yn gwybod be di'r broblem fwyaf sydd wedi peri loes i barhad yr Iaith Gymraeg - y mewnlifiad o Saeson i'r Gymru Cymraeg. Does dim dadl. Mae cwestiynau ymylol parthed trosglwyddiad iaith, adnoddau dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, sefydlu ysgolion Cymraeg i'r lleiafrif, cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned ac ati i gyd yn cael eu heffeithio gan y mewnlifiad. Onid aed ati i rwystro llif y mewnlifiad DOES dim dyfodol i'r Iaith Gymraeg.

Mae'r LDP's sy'n cael eu gorfodi ar bob cyngor yng Nghymru yn wahoddiad i ragor o Saeson i fwewnlifo i Gymru, mae adeiladu tai cymdeithasol na all aelod o'r gymdeithas gynhenid ei chaffael yn bwydo'r mewnlifiad.

Ond mae cwyno am fewnlifiad estron sydd yn distrywio ein hiaith a'n cymdeithasau yn right wing; rhywbeth sydd yn wrthyn i Chwith bondigrybwyll yr Achos Cenedlaethol Cymreig.

Y farn ar y stryd, boed gwell neu waeth, yw 'Bod Mewnfudwyr yn Ddistrywio ein Ddiwylliant', a 'Dylai Mewnfudwyr Dysgu ein Hiaith'

Yn hytrach na gwrthwynebu'r fath dadleuon fel cachu adain de - dylai’r mudiad cenedlaethol addasu dadl, sy'n cael ei gredu gan y mwyafrif, i ddadl genedlaetholgar dros Gymru a'r Gymraeg!

Rhaid i genedlaetholwyr dweud na! Digon yw digon - dim mwy o fewnfudo di angen o Loegr i Gymru a mynnu bod y rhai sy'n benderfynol o fudo i'r Fro Gymraeg yn cael eu gorfodi i ddysgu ein hiaith!

Os yw'n ddadl ddigonol dros Brydain a'r Saesneg, mae cystal dadl dros Gymru a'r Gymraeg!

16/01/2014

Danedd dodi ac annibyniaeth

Torais fy nanedd gosod mis Mawrth llynedd - amcangyfrif fy neintydd am rai newydd yw mis Hydref 2014.

Mae'r ffaith bod gan yr Alban gwell gyfle i gael annibyniaeth cyn bod modd i mi cael danedd gosod newydd yn adrodd cyfrolau am wasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru o dan reolaeth Plaid Lafur Carwyn Jones!