18/05/2017

Rhodri Morgan

Ar ddechrau Gorffennaf 2005, cynhaliwyd cynhadledd G8 yn Glenegles yr Alban. Bu tua 10,000 o heddlu arfog y DU a miloedd o Luoedd Diogelwch tramor yn amddiffyn y gwladweinwyr. 

Pythefnos yn ddiweddarach cynhaliwyd Sesiwn Fawr Dolgellau. Mi fûm yn sgwrsio efo Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, mewn ciw Siop Chips yn Nolgellau. Roeddwn yn teimlo mor falch o fod yn Gymro! Yn gallu trafod ansawdd bwyd a cherddoriaeth Cymraeg, mewn modd mor anffurfiol, gyda fy ngwladweinydd heb heddwas na swyddog diogelwch i’w gweld yn unlle.


Heddwch i lwch Rhodri Morgan, bydd colled fawr ar ei ôl.

15/10/2016

Diolch Dafydd

Fel un sydd wedi pleidleisio i Blaid Cymru ym mhob etholiad, lle fu ymgeisydd Plaid Cymru, ers imi ddyfod yn ddigon hen i bleidleisio, rwyf mor siomedig ag aelodau eraill o'r Blaid bod Dafydd Êl wedi ymadael a grŵp y Blaid yn y Cynulliad. Wedi dweud hynny rwyf hefyd yn siomedig efo rhai o'r sylwadau gwenwynig sydd yn cael ei wneud am Dafydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ei benderfyniad.

Eleni bydd Dafydd yn cyrraedd oed yr addewid; am 60 o'i 70 mlynedd mae o wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i Blaid Cymru; wrth iddo ymadael dylem ddiolch o galon iddo am ddiwrnod hir a da o waith.

Ydi, mae o wedi bod yn ddraenen yn ystlys y Blaid ar sawl achlysur yn ystod ei drigain mlynedd o wasanaeth, ond mae'r Blaid yr hyn ydyw heddiw o herwydd y ddraenen honno.

Yn ystod y gynhadledd gyntaf imi fynychu tua diwedd y 70au /dechrau'r 80au, bu cynnig gerbron gan y grŵp ieuenctid i gefnogi hawliau pobl hoyw; bu nifer o fawrion y Blaid (gan gynnwys asiant DET) yn bygwth ymadael a'r Blaid pe bai'r cynnig yn cael ei drafod (nid ei basio, ei DRAFOD); tynnwyd y cynnig, er lles y Blaid, penderfyniad a gondemniwyd gan DET; bellach mae'r Blaid yn cytuno a'i gyn annheyrngarwch parthed hawliau cyfartal.
Ym 1970, pan safodd DET dros y Blaid am y tro cyntaf, roedd yn blaid weddol geidwadol, Dafydd fu'r lladmerydd dros ei dynnu i'r chwith (penderfyniad nad oeddwn, ac nid ydwyf, yn cytuno a hi). Roedd Dafydd yn uchel ei groch yn cefnogi streic y glowyr, pan oedd mwyafrif y Blaid yn credu nad oedd yn bwnc cenedlaetholgar. Heb y symud i'r chwith a chefnogaeth i'r glowyr, byddai pobl fel Leanne Wood, Adam Price a llawer un arall yn aelodau Plaid Cymru heddiw?
Ym 1975, roedd Plaid Cymru yn gwrthwynebu aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, er bod Wigley eisoes o blaid Ewrop, Thomas fu'n bennaf gyfrifol am droi barn mwyafrif y Blaid tuag at Ewrop; DET yw "tad", yr holl ralïau "Cymru Annibynnol yn Ewrop" a gynhaliwyd dros y 3 mis diwethaf.

Beth bynnag eich barn wleidyddol am DET, gall neb amau na fu DET yn aelod etholaethol da yn San Steffan a'r Bae am gyfnod o dros 40 mlynedd. Mae Dafydd wedi gwasanaethu ei etholwyr, o bob plaid, yn driw a bod ei waith fel aelod etholaethol da wedi cryfhau brand y Blaid ar draws y cymunedau mewn sawl etholaeth, bellach.

Yn bersonol, bu Dafydd yn gyfaill ac yn fentor i mi. Y tro cyntaf i mi ei gyfarfod roeddwn yn aelod 15 oed, hyf, o'r Blaid Ryddfrydol. Mynychais un o'i gyfarfodydd cymhorthfa gyntaf i fynnu bod o'n dweud wrthyf, fel fy AS, am bopeth roedd o'n wneud yn y Senedd er mwyn imi gael ei herio yn yr etholiad nesaf, pan fyddwn yn ddigon hen i'w herio. Yn hytrach na chael y ffyc off roeddwn yn haeddu am fod yn gôc oen hunan tybus, rhoddodd cyngor imi fod rhaid i wleidydd Cymreig siarad Cymraeg, a rhoddodd cyfle imi drafod gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy Nghymraeg simsan ail iaith ar ddiwedd pob cymhorthfa yn Nolgellau. Oni bai amdano, byddai dim modd imi ysgrifennu'r pwt o gyfraniad hon i'r bologesffêr Gymraeg

Rwy'n rhannu'r siom, rwy'n brifo'n arw, wedi clywed am benderfyniad DET, ond rwy'n dal i ddiolch iddo am ei gyfraniad mawr.

13/09/2016

Comisiwn ffiniau - ymateb brysiog

Rwyf wedi cael golwg brysiog dros argymelliadau Comisiwn Ffiniau Cymru parthed etholaethau newydd Cymru.

Fel Plaid Cymru, rwy’n anghytuno a lleihau nifer ASau Cymru heb gryfhau pwerau Senedd Cymru yn sylweddol mwy na chynigwyd ym Mil Cymru neithiwr. Fel y Blaid Lafur rwy'n gweld hi'n hynod annemocrataidd i leihau nifer yr ASau tra fo niferoedd yr Arglwyddi yn cynyddu'n afreolaidd.

Ond y peth cyntaf imi sylwi wrth ddarllen yr argymhellion oedd bod nifer o'r enwau newydd ar etholaethau yn brifo'r glust, maen nhw o chwith!

I mi'r ffordd naturiol o drafod Cymru yw o Fôn i Fynwy, Gorllewin i Ddwyrain: Môn, Sir Gaernarfon, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Meirionnydd, Sir Drefaldwyn, Ceredigion, Sir Faesyfed, Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog, Sir Benfro, Morgannwg, Sir Fynwy

Caernarfon - Bangor -Llandudno - Rhyl

Bermo - Dolgellau - Machynlleth- y  Drenewydd ac ati

Mae enwau'r etholaethau newydd, bron yn gyfan, yn dechrau o'r ffin i'r Gorllewin  Colwyn & Chonwy, Gogledd Clwyd & Gwynedd, ac ati, sy'n brifo'r glust, ac yn awgrymu bod y Comisiwn Ffiniau wedi dechrau'r daith o anghenion y ffin a Lloegr i mewn i Gymru, yn hytrach nag o anghenion Cymru tuag at y ffin.

Mae comisiwn, sydd i fod yn ddiduedd, a Chymreig, wedi dewis creu ffiniau sy'n fwriadol yn clymu Cymru mwyfwy at Loegr.

13/08/2016

Addysg Gymraeg yn y Fro Gymraeg!

Mynychodd fy mhlant ysgolion a oedd i fod yn "ddwyieithog", cefais fy siomi'n ddirfawr efo eu hysgol gynradd; aethent yno fel Cymry Cymraeg uniaith, a dod allan fel Saeson uniaith. Roedd yr ysgol yn cael ei ddisgrifio gan Cyngor Conwy fel un naturiol ddwyieithog, roedd pob athro yn yr ysgol yn Gymry Cymraeg ond roedd y plantos ymysg lleiafrif bychan o gefndir Cymraeg, gan hynny cawsant addysg gynradd efo Welsh, chware teg  yn hytrach nag addysg ddwyieithog dderbyniol.

Er mwyn mynd i'r Ysgol Uwchradd Cymraeg bu'n rhaid iddynt fynd trwy ddau gyfnod o drochi, system a grewyd ar gyfer mewnfudwyr er mwyn eu cyfarwyddo ag addysg Gymraeg - o ysgol "naturiol ddwyieithog", ac o aelwyd Cymraeg!!!

Cyn edrych ar y nonsens, bod pob ysgol yng Nghymru yn "ddwyieithog" oherwydd deddf addysg fethedig o'r 1980au, rhaid edrych ar y ffug werthiant o addysg Gymraeg honedig yn y Fro Gymraeg.

Rhaid derbyn mae ysgolion Saesneg, i bob pwrpas, yw nifer o ysgolion naturiol dwyieithog yr hen Wynedd a rhai o gategori uwch yr hen Ddyfed!

Cyn carthu nonsens addysg honedig Cymraeg yn y Fro Gymraeg; does dim modd mynd rhagddi i gynnig addysg Cymraeg ystyriol i holl ysgolion Cymru.

16/04/2016

Cwestiwn Dyrys am Ymarfer Corff

Mae 'na Gampfa yng Nghyffordd Llandudno a gyflenwyd fel rhan o'r cytundeb i adeiladu safle Tesco; mi fyddai'n groes i'r gyfraith imi awgrymu bod elfen o lygredigaeth perthnasol rhwng y deupeth, gan hynny nid ydwyf am wneud y fath sylw, ond rwyf am holi a byddai cerdded o Lan Conwy i Tesco yn well i'r galon na thalu am awr yn y jim?


Cwestiwn Dyrys