Rwyf wedi cael golwg brysiog dros argymelliadau Comisiwn Ffiniau Cymru parthed etholaethau newydd Cymru.
Fel Plaid Cymru, rwy’n anghytuno a lleihau nifer ASau Cymru heb gryfhau pwerau Senedd Cymru yn sylweddol mwy na chynigwyd ym Mil Cymru neithiwr. Fel y Blaid Lafur rwy'n gweld hi'n hynod annemocrataidd i leihau nifer yr ASau tra fo niferoedd yr Arglwyddi yn cynyddu'n afreolaidd.
Ond y peth cyntaf imi sylwi wrth ddarllen yr argymhellion oedd bod nifer o'r enwau newydd ar etholaethau yn brifo'r glust, maen nhw o chwith!
I mi'r ffordd naturiol o drafod Cymru yw o Fôn i Fynwy, Gorllewin i Ddwyrain: Môn, Sir Gaernarfon, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Meirionnydd, Sir Drefaldwyn, Ceredigion, Sir Faesyfed, Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog, Sir Benfro, Morgannwg, Sir Fynwy
Caernarfon - Bangor -Llandudno - Rhyl
Bermo - Dolgellau - Machynlleth- y Drenewydd ac ati
Mae enwau'r etholaethau newydd, bron yn gyfan, yn dechrau o'r ffin i'r Gorllewin Colwyn & Chonwy, Gogledd Clwyd & Gwynedd, ac ati, sy'n brifo'r glust, ac yn awgrymu bod y Comisiwn Ffiniau wedi dechrau'r daith o anghenion y ffin a Lloegr i mewn i Gymru, yn hytrach nag o anghenion Cymru tuag at y ffin.
Mae comisiwn, sydd i fod yn ddiduedd, a Chymreig, wedi dewis creu ffiniau sy'n fwriadol yn clymu Cymru mwyfwy at Loegr.