16/05/2007

Yr Arwr Tartan

Wrth i'r Alban dechrau ar un o gyfnodau mwyaf cynhyrfus yn ei hanes ers 300 mlynedd, bydd diddordeb sicr ym mysg cenedlaetholwyr Cymru yn hynt a hanes gwleidyddol y wlad.

Ar y cyfan rwy'n credu bod blogio Cymreig yn dipyn gwell na blogio yr Alban (ond hwyrach bod gennyf ragfarn). Mae yna un blog sy'n sefyll pen ac ysgwydd uwchlaw'r gweddill sef cynnig yr Arwr Tartan. Mae'n werth pigo draw i ddarllen ei fyfyrdodau yn rheolaidd os am gadw bys ar bỳls cenedlaetholdeb cyffroes ein cefndryd Celtaidd.

Mae ei gynnig diweddaraf yn cynnwys fideo o araith derbyn y brif weinidogaeth gan Alex Salmond.

Y Brif Weinidog Salmond

Llongyfarchiadau calonnog i Alex Salmond ar gael ei ddyrchafu yn Brif Weinidog yr Alban. Bydd gwaith caled a rhwystredig o'i flaen wrth iddo geisio rheoli'r Alban heb fwyafrif ac yn wyneb gwrthwynebiad Blaid Lafur sy'n credu bod yr un hawl dwyfol ganddi i reoli'r Alban ac sydd ganddi i reoli yng Nghymru.

Mae Alex Salmond yn ddyn craf ac yn ddyn galluog. Rwy'n sicr y bydd yn llwyddo i weddnewid gwleidyddiaeth a chymdeithas yr Alban er gwaethaf pob rhwystr. Pob hwyl iddo yn y gwaith.

13/05/2007

12/05/2007

Nonsens Wigley a Ryder

Mae yna lwyth o lol wedi ei ysgrifennu ar y we ac mewn ambell i gylchgrawn a phapur newyddion dros y dyddiau diwethaf parthed Dafydd Wigley. Yn ddi-os mae'r hanesion yma yn bwydo'r sawl sy'n dymuno dim ond drwg i'r Blaid. Maent yn creu rhwyg lle nad oes rhwyg yn bod ac yn creu drwgdeimlad di angen ymysg rhengoedd y Blaid.

Pe bai Dafydd Wigley, fel unigolyn, a Phlaid Cymru fel corff wedi dymuno'r sicrwydd o weld Wigley yn dychwelyd i'r Bae, roedd nifer o ffyrdd amgen i sicrhau hynny na'i roi ar restr y Gogledd.

Roedd Owen John Thomas wedi nodi ei fod am ymddeol o'i sedd yng Nghanol De Cymru, doedd dim i rwystro Wigley rhag ymgeisio am y slot gwag yno. Roedd Janet Davies wedi nodi ei bod hi am ymddeol hefyd; pe bai dymuniad i wneud eithriad arbennig i reolau'r Blaid ar ferched yn bennaf i hwyluso dychweliad Wigley De Orllewin Cymru byddai'r rhanbarth orau i wneud y fath eithriad. Pe bai Wigley wedi cynnig am sedd etholaethol Aberconwy mi fyddai wedi bod yn sicr o'r enwebiad ac mi fyddai Gareth Jones wedi ildio ei ymgeisyddiaeth, o blaid Wigley, yn gwbl di rwgnach. Mwy o gambl, ond un llai na'r rhestr, byddid petai Wigley wedi sefyll yn etholaeth Gorllewin Clwyd.

Nid sicrhau ethol Wigley oedd y bwriad. Ar ôl trychinebau 2003 a 2005 roedd yna ofn gwirioneddol yn y Blaid bod posibl i Ieuan Wyn colli ei sedd ym Môn. Pe bai hyn wedi digwydd mi fydda'r Blaid, wedi ei gwanychu gan y canlyniad, yn rhwygo ei hun i wendid mwy byth wrth geisio ethol arweinydd newydd. Ond pe bai Wigley yn cael ei ethol fel gwobr gysur am golli Môn bydda dim rhaid cael ffrae arweinyddol - bydda Wigley wedi ei dderbyn fel arweinydd naturiol.

Wrth gwrs, pe bai Wigley wedi dewis un o'r ffurf amgenach a saffach i gael ei ail ethol mi fyddai yno 'run fath i arwain y Blaid pe bai trychineb ym Môn. Roedd reswm syml pam na aed ar hyd y trywydd yna. Pe bai'r Blaid wedi cael etholiad gwael i ganolig a sicrhau dychweliad Ieuan o drwch blewyn a Wigley hefyd, bydda ymgecru arweinyddol wedi dechrau ta waeth. Yn wir pe bai Wigley wedi ei ethol bydda'r baw a'r sen sy'n cael ei anelu at Janet Rider druan, dynes sydd wedi rhoi diwrnod da o waith i'r achos cenedlaethol, yn cael ei anelu at IWJ a bydda Blaid Cymru yn yr un twll ag ydy'r Democratiaid Rhyddfrydol heddiw.

English: Miserable Old Fart: The Wigley and Ryder Nonsense

Cysylltiadau:
Llais y Sais - Blog Vaughan - Blamerbell - Labour Mark - Sanddef - Peter Black AC - Cymru Mark - Brit Nat Watch

09/05/2007

Rhyfedd o fyd

Mae'r blogosffer Cymreig yn fyw efo sylwadau am ddyfodol annisglair Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Ei bechod: bod ei blaid yn yr union un sefyllfa o ran nifer y seddi a chanran y bleidlais ag ydoedd ym 1999.

Mae pawb yn clodfori llwyddiant Ieuan Wyn Jones, arweinydd y Blaid am gael etholiad gwych. Ond mae pleidlais y Blaid wedi mynd i lawr o tua 6% ers 1999 ac mae gan y Blaid 4 AC yn llai na 1999.

Pe bai'r Blaid wedi aros yn wastad am yr 8 mlynedd diwethaf a fyddai Ieuan mewn trwbl eleni?

05/05/2007

Llongyfarchiadau i Mebyon Kernow

Nid yr SNP oedd yr unig blaid genedlaethol i ennill mwy o seddi na Llafur yn etholiadau dydd Iau, fe gyflawnodd Mebyon Kernow yr un gamp yn etholiadau dosbarth Cernyw. Pedwar cynghorydd Llafur a etholwyd trwy'r cyfan o'r wlad o'i gymharu â saith i MK. Yn wir cafodd MK fwy o seddi yng Nghernyw na chafodd UKIP yn Lloegr.

Mae'r manylion llawn i'w gweld yn y sylwadau i fy mhost Saesneg YMA
Diolch i Mike Chappell o http://www.cornishnotenglish.com am rannu'r newyddion da.

04/05/2007

LLongyfarchiadau Mohamed

Cam bwysig iawn ymlaen i wleidyddiaeth Cymru oedd ethol Mohamed Ashgar, ac yn rhyddhad o'r siom o weld y ffug Gristion "Americanaidd" Daren Millar yn curo Gorllewin Clwyd

LLongyfarchiadau i Gareth a Dylan

Dim yn ganlyniad syfrdanol o annisgwyl, ond diolch amdani. Llongyfarchiadau haeddiannol i Gareth am ennill, ond piti bod Dylan heb ei ddewis yn ymgeisydd drws nesaf. Bydda Dylan yn llawer mwy o affaelid i'r Cynulliad na'r ffug Gristion homotrepid sydd wedi ei ethol yno yn ôl y tebyg.

Callia Dewi Llwyd!

Llongyfarchiadau I Alun Ffred

Mae Dewi yn ymddiheuro am wneud cam ag etholwyr Dwyfor Meirion gyda'r "esgus" bod y canlyniad dim yn annisgwyl. Mae canlyniad DET yn syfrdanol o anisgwyl ac yn un hanesyddol. Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw blaid ar wahân i'r Blaid Lafur i gael mwyafrif i'w bwyso yn hytrach na'i gyfrif. Y tro cyntaf i blaid, arwahan i'r Blaid Lafur ennill y mwyafrif sicraf yng Nghymru ers canrif. Canlyniad anhygoel. Cam bwysig i'r Blaid - a hanes yn cael ei greu yng ngwleidyddiaeth Cymru

Sylwadau Etholiadaol 3

Straeon od o'r Alban..

Llong wedi suddo ac wedi colli blychau pleidleisiau.

Rhywun wedi ymosod ar orsaf pleidleisio efo clwb golff ac wedi rhwygo'r orsaf pleidleisio yn rhacs.

Tua mil o bleidleisiau gwasarn ym mhob etholaeth i gymharu â thua 100 ym mhob etholaeth Gymreig.

Yw mae Cymru'n boring ar adegau!!

Llongyfarchiadau i Ieuan Wyn am gadw Môn, yr oeddwn, wir yr yn poeni am yr etholaeth yma - da yw gweld bod Ieuan wedi cynyddu ei fwyafrif!

Hwreeeeeeeeeeeeee! I Helen Mary

Buddigoliaeth anhygoel o fawr i HMJ. O ystyried ei mwyafrif a phwyso'r fot ym Meirion a oes mood i'r Blaid cadw sedd ar rhestr y Canolbarth hefyd?

Wigley a Salmond

Siomedigaeth yn etholaethau Maldwyn, Gorllewin Abertawe a Chwm Cynnon - pob un yn llefydd dylid bod o fewn gafael Y Blaid ar noson dda ond y Blaid yn colli tir ym mhob un - sy'n peryglu ambell i sedd ranbarthol.

Dim hwyl i Martin, Vote Eaglestone get Wigley heb weithio. A chawn Wigley? Annhebygol yn ôl y canlyniadau sydd wedi dod o'r Gogledd hyd yn hyn

MAE ALEX SALMOND NEWYDD EI ETHOL

Pob Parch i'r Ymgeiswyr (a'r Blogwyr)

Rhag cywilydd i ohebydd y BBC yn awgrymu bod blogwyr yn negyddol. Rwy'n gobeithio bod fy mlog innau wedi bod yn gadarnhaol trwy gydol yr ymgyrch. Yn sicr dweud pethau da am wleidyddiaeth Cymru oedd fy mwriad wrth gychwyn fy mlog.

Mae'n amlwg bod gennyf fy rhagfarnau, ond o ddweud hynny yr wyf yn credu bod Cymru yn ffodus o'u gweledyddion. Yma yn Aberconwy yr wyf wedi bod yn driw fy nghefnogaeth i Gareth Jones, os ydy Gareth yn colli bydd Dylan neu Euron yn aelodau clodwiw o'r Senedd.

Mae'n rhaid i bobl Cymru dod dros y rhagfarn hurt bod pob gwleidydd a'i big yn y pwdin am resymau personol. Mae pob unigolyn sy'n derbyn yr her o sefyll etholiad yn unigolyn dewr ac yn unigolyn sy'n teimlo bod ganddo neu ganddi gyfraniad i wneud i wleidyddiaeth Cymru. Mae'n hen bryd inni eu parchu.

Mae democratiaeth yn gysyniad pwysig, mae'r rhan fwyaf o'n ymgeiswyr yn ategu at ddemocratiaeth. O'u plaid neu yn eu herbyn, dylid ymfalchïo yn eu cyfraniad, a DIOLCH IDDYNT am eu cyfraniad i hyrwyddo'r broses ddemocrataidd.

Llongyfarchiadau i Trish

Llongyfarchiadau i Trish Law, roeddwn yn disgwyl iddi ei cholli mae'n rhaid dweud

Sylwadau Etholiadaol 2

Mae'n debyg bod yr ymgeisyddion Llais y Bobl / Annibynol wedi caniatau i'r Blaid Lafur cadw Islwyn a Chaerffili. Prawf o'r ffaith o'r canlyniad (nid "Conspiracy Theory felly Dewi!!!!)

SNP newydd enill eu sedd cyntaf

Mae'r SNP newydd enill eu sedd cyntaf ar ol curo Llafur yng Ngorllewin Dundee. Swing o 16% i'r cenedlaetholwyr. Llongyfarchiadau i'r MSP newydd

Sylwadau Etholiadol

Mae'n edrych yn debyg bod Gareth wedi ennill Aberconwy yn hawdd (da iawn) a noson ddrwg i'r Blaid yng Ngorllewin Clwyd.

Ceidwadwyr wedi cipio Preseli Penfro, a'r Blaid wedi curo Christine Gwyther.

Siôn bod y Blaid yn bryderus ym Môn.

Trish Law wedi caw B. Gwent

Jack MacConell, Prif Weinidog yr Alban wedi cadw ei sedd. Swing o 6.9% o Lafur i'r SNP - edrych yn dda. (Yn ôl y son mae llong yn cario rhaid pleidleisiau o'r un o'r ynysoedd wedi suddo ac mae'r pleidleisiau wedi eu colli!)

Os ydy'r sion sy'n cyraedd y BBC yn gywir a oes posibilrwydd na fydd gan Llafur mwyafrif o'r seddi etholaethol?

Christine Gwyther yn saff medd y BBC bellach!

03/05/2007

Prysurdeb ym Mae Colwyn

Rwyf newydd fod i godi'r plantos o gymdeithas ieuenctid sy'n cael ei gynnal gyferbyn ag un o orsafoedd pleidleisio Bae Colwyn (etholaeth Gorllewin Clwyd). Yn ystod y chwarter awr yr oeddwn yn disgwyl yno aeth degau o bobl heibio i fwrw pleidlais. Nid ydwyf yn cofio gweld gorsaf pleidleisio mor brysur ers etholiadau cyffredinol y 1970au.

Galw i mewn i fwrw fy mhleidlais yng Nglan Conwy (Aberconwy) dim ond fi a'r wraig oedd yno a llai na chwarter y bleidlais wedi ei fwrw hyd yn hyn yn ôl y swyddogion.

Os ydy’r ddwy orsaf yma yn adlewyrchu sut mae'r bleidlais yn mynd yn y ddwy etholaeth mae'n edrych yn debyg y bydd pleidlais uchel yng Ngorllewin Clwyd bydd yn fanteisiol i Alun Pugh mi dybiaf, ond pleidlais isel yn Aberconwy bydd yn fanteisiol i Gareth Jones.

Y We a'r Etholiad

Gan fod yr ymgyrch etholiadol wedi tynnu at ei derfyn bydd y blogiau gwleidyddol mewn rhyw fath o limbo am yr 20ain awr nesaf. Prin fydd fawr o sylwadau i'w gwneud hyd y dadansoddi yn oriau man bore dydd Gwener. Yn ystod y cyfnod yma hoffwn ofyn cwestiwn yn hytrach na gwneud sylw.

Pa ddylanwad mae'r we wedi cael ar yr etholiad yma?

Yn ddi-os mae 'na llawer iawn fwy o weithgaredd ar y we wedi bod eleni nag oedd hyd yn oed dwy flynedd yn ôl yn ystod etholiadau San Steffan 2005. Mae tua 35 o flogiau Cymreig wedi bod yn ymdrin â'r etholiad yng Nghymru yn unig. Mae defnydd eang wedi ei wneud o YouTube ac, yn ôl y son (er na dderbyniais i 'run ) mae e-byst wedi eu danfon gan rai ymgeiswyr i'w hetholwyr. Ond ydy o wedi cael unrhyw effaith ymarferol ar yr etholiad a'i chanlyniadau?

Oes yna bleidlais wedi ei hennill neu ei golli gan y gweithgaredd ar y we?

Ydy'r we yn cael effaith mwy subtle, yn cynorthwyo'r rhai gweithgar i finiogi dadl neu i fenthyg ymateb gan wefan wrth ymgyrchu yn y cigfyd?

Ydy'r we yn gwneud niwed? Bod y rhai gweithgar yn credu eu bod wedi gwneud eu dyletswydd trwy flogio neu greu fideo YouTube ac yn defnyddio hynny fel esgus tros beidio curo drysau, llenwi amlenni ac ati?

02/05/2007

Annwyd Gwleidyddol

Rhaid ymddiheuro i ddarllenwyr rheolaidd am y diffyg post ers nos Sul. Rwyf wedi bod yn dioddef o ddos trwm o'r annwyd, ac wedi bod yn teimlo fath a rhecsyn o'r herwydd a heb ddiddordeb mewn dim ond teimlo hunan dosturi.

Rwy'n ansicr pwy i feio am fy afiechyd, ond mae'n rhaid beio rhywun. Rwy bron yn sicr mae canfasiwr afiach Rhyddfrydol rhy ryddfrydig efo'i germau a rhoddodd yr annwyd imi - rhyw gynllwyn dan din i sicrhau bod cefnogwyr y pleidiau eraill yn rhy swp sâl i bleidleisio dydd Iau nesaf. Ar y llaw arall pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi rhoi cyllid digonol i Uned Ymchwil yr Annwyd yng Nghaerdydd bydda foddion digonol ar gael i'r cyflwr erbyn hyn.

Rwy'n gobeithio y byddwyf wedi gwella digon erbyn nos Iau/ bore Gwener i chware rhan yn ymgyrch blogio'r etholiad Blamerbell a'r BBC.