Plaid Gristionogol - Pregethwr yn Cwyno
Mae pregethwr wedi danfon cwyn at y Comisiwn Etholiadol, gan honni fod plaid Gristionogol newydd yn bygwth y cyhoedd â thragwyddoldeb yn uffern os na fydda nhw'n pleidleisio trosti fis Mai.
Fe gafodd Plaid Gristionogol Cymru ei lawnsio ar Fawrth 1 eleni, ac mae hi eisioes wedi achosi dadl trwy ddweud y dylai Cymru fabwysiadu baner newydd oherwydd bod y ddraig yn cynrychioli'r diafol
Ond yn ôl Alwyn ap Huw, pregethwr cynorthwyol gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, mae'r blaid yn rhoi enw drwg i Gristionogion. Dyna pam ei fod wedi cwyno wrth y Comisiwn, meddai, yn ogystal â rhybuddio Cristionogion eraill rhag pleidleisio i'r blaid newydd heb astudio ei pholisïau yn ofalus.
"Mae'r ddeddf yn ddigon clir nad yw'n gyfreithlon bygwth pobl gyda chosb ar y ddaear neu yn y bywyd nesa' yn gyfnewid am beidio â phleidleisio drostyn nhw" meddai Alwyn ap Huw, sy'n byw yn nyffryn Conwy.
"Mae Plaid Gristionogol Cymru wedi dweud yn ddigon clir y bydd Cymru gyfan yn mynd i'r uffern oherwydd bod delwedd y diafol ar ein fflag. Fel Cristion, fydda'i byth y pleidleisio dros y rhain, a dwi'n gobeithio na fydd neb arall chwaith"
"Dydi Cristionogaeth y Blaid yma ddim yn nhraddodiad Cristionogaeth Cymru" meddai wedyn. "Un o gefnogwyr Ian Paisley ydi George Hargraves (un o arweinyddion y blaid) ac mae ei Gristionogaeth o'n debycach i hwnnw o dde eithafol America"
Yn ôl George Hargraves, mae'r ddraig goch ar fflag Cymru'n debyg i'r hon sy'n cael ei disgrifio yn Llyfr Datguddiad yn y Beibl - "a dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a saith coron ar ei phennau"
Mae'n dweud y dylai'r fflag gael ei chyfnewid am faner Dewi Sant, ac mae wedi lawnsio deiseb yn cefnogi hynny ar wefan y blaid.
Mae'r blaid yn gobeithio cynnig ymgeiswyr ym mhob rhanbarth yn etholiadau'r cynulliad ar Fai 3.
George Hargraves oedd awdur y gân ddisgo o'r 1980au "So Macho" a breindaliadau'r gân honno sydd yn ariannu'r blaid newydd.
Ond peidiwch â choelio pob dim a darllenwch yn y wasg. Byddai'r Hen Rech Flin byth yn cyfeirio at faner Cymru fel "fflag", a phregethwr gyda'r Eglwys Fethodistaidd ydwyf - Wesla hyd fêr fy esgyrn - nid aelod o'r Eglwys Bresbyteraidd.