Y peth cyntaf imi gofio ei weld ar deledu erioed oedd cynhebrwng Winston Churchill ym 1965. Yn wir prynwyd y teledu cyntaf gan
fy nheulu yn unswydd ar gyfer ei wylio.
Nid Churchill oedd y prif weinidog cyntaf
i gael cynhebrwng Seremonïol / Gwladol, cafodd Dug Wellington un a William
Gladstone hefyd.
Rhwng marw Mr Churchill a Mrs Thatcher mae 6 o Brif
Weinidogion eraill y DU wedi marw Eden, MacMillan, Attlee, Wilson, Callahagn a
Heath a phob un wedi ymadael heb sploets gwladol /seremonïol. Sydd yn codi y
cwestiwn pam bod marwolaeth Thatcher yn cael ei thrin yn wahanol i farwolaethau ei rhagflaenwyr?
Yr ateb, mae'n debyg, yw dewis personol. Mae pob cyn Brif Weinidog yn cael nodi os ydyw am gael cynhebrwng mawr cenedlaethol. Ers 1965 yr unig un i ddweud ydwyf yw Mrs Thatcher, sydd yn adrodd cyfrolau am natur y ddynes. Nid y wlad sydd wedi penderfynu ei chofio gyda'r fath sploets ond Y Fi Fawr Hunanbwysig sy'n gwbl nodweddiadol o'i chymeriad hunanol. Mae'r ffaith bod y chwech arall wedi dweud na yn profi eu bod yn bobl llawer mwy diymhongar, nes at y bobl, ac yn fwy haeddiannol o barch na'r un sy'n cael ei choffau heddiw.