Showing posts with label SOG Arlein. Show all posts
Showing posts with label SOG Arlein. Show all posts

16/12/2010

Pasbort Cymraeg i Wartheg Cymraeg!

Mi f没m yn gyd ddisgybl ysgol ag Alun Cae Coch (Alun Elidir rhaglen Ffermio S4C) roedd o ymysg fy nghyfeillion Cymraeg iaith gyntaf a rhoddodd cyfle imi ymarfer fy Nghymraeg trwsgl wrth imi geisio troi o fod yn Gymro di Gymraeg i fod yn Gymro Cymraeg hyderus. Ond mi gefais fy siomi yn arw gan Alun echdoe am ei ddiffyg ymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

Bu Ffermio yn dilyn hanes Alun yn gwerthu rhan o'i fuches ym Mart Dolgellau. Wedi'r gwerthu roedd rhaid iddo gofrestru'r gwerthiant ar wefan CTS online Saesneg yn 么l y rhaglen. O weld Alun yn cael ei orfodi i ddanfon y fath wybodaeth trwy'r Saesneg cododd fy ngwrychyn - cywilydd bod diwydiant mor Gymraeg a'r byd amaeth yn gorfodi Cymro mor Gymraeg ag Alun i ddefnyddio gwefan uniaith Saesneg -rhaid cwyno!

Yn rhyfedd iawn, o chwilio am y wefan CTS online cefais fy nanfon yn unionsyth i SOGar-Lein, sef fersiwn Cymraeg y rhaglen yr oedd Alun yn ei ddefnyddio; gwefan a oedd wedi nodi mae'r Gymraeg oedd fy newis o hanes ymweld 芒 safleoedd eraill Llywodraeth y DU ac wedi fy nanfon i'r porth Cymraeg yn awtomatig!

Mater unigol i Alun, am wn i, yw dewis neu beidio a dewis y Gymraeg fel iaith ei fusnes, ond piti bod rhaglen ar S4C heb nodi bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael, yn hytrach na dangos amaethwr Cymraeg yn ddewis yr opsiwn Saesneg yn hytrach na'r gwasanaeth Cymraeg.

Gwaeth peidio a rhoi gormod o bwys ar statws swyddogol a Mesur os nad yw Cymry triw am ddefnyddio'r Gymraeg sydd ar gael iddynt eisoes, ac os nad yw S4C, o bob sianel, am hybu argaeledd gwasanaethau Cymraeg yn ei ragleni!