Pe bawn yn gyd aelod o Gyngor Conwy a Ronnie Hughes, pe bawn yn gyd weithiwr ag ef yn y Blaid Lafur, mi fyddwn yn flin - yn flin iawn - am ei daflen hysbysebu ddiweddaraf:
Mae Ronnie yn hawlio ei fod wedi cyflawni gwyrthiau, fel unigolyn, heb gymorth neb. Y fo a fo'n unig sy'n gyfrifol am bwll nofio newydd Llandudno, am Venue Cymru, am Ganolfan Glastir ac am wariant o £27 miliwn o arian Ewrop yn y sir.
Doedd dim mewnbwn gan yr AS cyfredol (Llafur), gan yr ACau (Plaid a Llafur) yr ASEau (gan gynnwys y rhai Llafur). Afraid oedd cefnogaeth ei gyd gynghorwyr o'r Blaid Lafur a'u cymbleidwyr o'r pleidiau eraill a'r annibynwyr, dibwys oedd cyfraniad swyddogion y cyngor. Ronnie oedd ar flaen y gad a FO yw awdur pob daioni a daeth i ran Aberconwy ers dwy fil pum cant o flynyddoedd!
Fel dywedodd rhyw ffilosoffydd rhywbryd, i weithio allan be fydd o'n gwneud yn y dyfodol rhaid edrych ar yr hyn a wnaeth yn ei orffennol. Megis rhoi ei hun o flaen ei gefnogwyr (gan ei fod mor hunan pwysig) ag iddynt awgrymu ei ddiarddel o'r Blaid Lafur.
Rwyf wedi nodi eisoes ar fy mlogiau bod ymgyrch y Telegraph ac eraill o bortreadu gwleidyddion fel pobl Fi, Fi, Fi yn peryglu democratiaeth, mae'r rhan fwyaf o wleidyddion, o bob plaid, yn bobl sydd am lwyddo ar ran eu hetholwyr, os ydy Ronnie yn un ohonynt pam o paham y mae o'n cyhoeddi pamffled Fi,Fi,Fi
Gyda llaw (sori am y mwysair) mae I've done it! I'm doing it! I will do it! yn swnio fel cyffesiad laslanc hurt i Offeiriad Pabyddol parthed pechod Onan!