08/07/2014

Y Parchedig Dr Hen Rech Flin?

Yn ôl yn y 1980au mi fûm yn fyfyriwr yn adran Diwinyddol Prifysgol Bangor. Yr oeddwn yn ymgeisydd am weinidogaeth yr Eglwys Fethodistaidd (Weslead ar lawr gwlad). Ar y pryd doedd gan Yr Eglwys Fethodistaidd dim modd i roi addysg Gymraeg i'w cyw weinidogion, gan hynny defnyddiwyd fi fel arbrawf gan y Parch O E Evans (Gweinidog Wesla, un o athrawon Prifysgol Bangor a phrif olygydd y BCN) gan gythruddo un o fawrion adran Diwinyddol Bangor, y Parch Dr R Tudur Jones (un oedd yn gweld Arminiaeth a Seisnigrwydd y Wesleaid yn wrthyn) gan fy ngadel i fel gwystl yng nghanol dadl ddau o fawrion Crefydd Cymru.

Doedd dim modd imi ennill y frwydr, gan mae cownter oeddwn yng nghanol eu gêm. Tudur enillodd y frwydr, gan imi ddechrau dioddef o ffitiau epilepsi aflywodraethus tra yn y Brifysgol, rwy'n dal i ddioddef o'r un aflwydd. Roedd Tudur yn honni mae medd-dod yn hytrach nag afiechyd oedd yn gyfrifol am fy "ffitiau" a chefais fy niarddel o'r Brifysgol o herwydd ei enwadaeth ffiaidd, yn hytrach na dim arall.

Wedi cael fy nghicio allan o Brifysgol Bangor mi ymgofrestrais ag Ysgol Nyrsio Gwynedd, wedi imi golli dim ond un ddarlith heb eglurhad, ymchwiliwyd i'r achos a chanfuwyd yr Epilepsi.

Yn fy nicter yn erbyn Y Brifysgol, Owen a Tudur mi ddefnyddiais fy nghyflog fel cyw nyrs i "brynu" graddau DD ac ordeiniad fel gweinidog o Brifysgol Llwyth Brodorol Annibynnol yn yr UDA. Mae'n debyg bod y llwyth yn gallu gwerthu'r fath raddau yn gyfreithiol o dan ddeddfwriaeth yr UDA a chytundebau efo Gwledydd Prydain; gan hynny y mae gennyf perffaith hawl i ddefnyddio'r teitl Y Parchedig Doctor a ddyfarnwyd imi ganddynt!

Cyn i'r tystysgrifau cyrraedd 'roeddwn wedi dechrau mwynhau fy ngyrfa fel nyrs ac wedi rhoi'r gorau i fy nicter yn erbyn cachwrs yr eglwys a'r coleg, a gan hynny nid ydwyf erioed wedi defnyddio'r graddau a brynais.

Ond wedi gweld sut mae arian, bellach, yn bwysicach na dim byd arall ym myd addysg Ynysoedd Prydain, onid ydy fy ngradd DD cyfwerth ag unrhyw radd a thalwyd amdani ym Mhrydain?

3 comments:

  1. Anonymous5:51 pm

    Beth yn union oedd yr arbrawf ? Yr oeddwn yn adnabod R. Tudur Jones, ac yn gwybod pwy oedd O. E. Evans. Yr oedd Dr Tudur yn un o gewri'r ugeinfed ganrif, ond mae dylanwad eu gulni enwadol yn parhau ar anghydffurfiaeth Cymru.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae'r Parchedig Dr Owen E Evans dal ar dir y byw; roedd o'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Y Bermo ychydig flynyddoedd yn hyn na fy mam; tybiwn felly ei fod yng nghanol / tynnu at ddiwedd ei wythdegau. Bu cyfraniad Owie Evans at fywyd sifil a chrefyddol Cymru yn enfawr er, ar y cyfan, yn y cefndir heb dynnu gormod o sylw ato'i hyn. Bu cyfraniad Dr Tudur i fywyd cymdeithasol Cymru yn enfawr hefyd ond yn llawer mwy cyhoeddus nag un Owie, ac yn llawer mwy cymhleth.

      Pan oedd brodyr megis Dr Martin Lloyd Jones, Gordon MacDonald ac Ifan Mason Jones yn tynnu'r elfen Efengylaidd allan o'r enwadau traddodiadol Cymraeg, Tudur (bron yn unswydd) bu'n gyfrifol am gadw'r achos yn fyw tu ferwn i'r enwadau. Oni bai bod Tudur wedi cadw traed Gwynfor ar y ddaear pan oedd ei ben yn y cymylau; bydda lwyddiant 1966 (a phob dim a ddeilliodd o '66 megis y Cynulliad) heb ddigwydd. Ond ar y llaw arall roedd penstiffder ac anoddefgarwch Tudur yn gallu creu problemau i'r achos crefydd ac achos y genedl hefyd.

      Do, fe wnes i gwympo allan efo Owie a Tudur blynyddoedd maith yn ôl, cefndir i paham fy mod wedi prynu graddau o hysbysebion Private Eye oedd cyfeirio at y cwympo allan; prif bwynt y post oedd holi am werth graddau mae'n rhaid talu £9,000+ amdanynt bellach o gymharu â'r graddau brynais i 35 mlynedd yn ôl.

      Delete
    2. Newydd cael gwybod nad yw Owie Evans dal ar dir y byw, ei bod wedi marw yn 2009 http://www.bmdsonline.co.uk/30925173?s_source=tmnw_dapo

      Delete