05/12/2010

Llongyfarchiadau i Blaid Cymru ar y Mesur Iaith

Pe bai Cymru yn wlad annibynnol a'r gallu i greu ei ddeddfau ei hun heb ddylanwad y brawd mawr digon hawdd byddid cael cyfansoddiad yn dweud yn glir a diamwys mae'r Gymraeg yw iaith swyddogol Cymru neu fod y Gymraeg yn un o ieithoedd swyddogol Cymru. Ond o dan ddatganoli dydy'r rhyddid yna ddim gan y Cynulliad ysywaeth.

Mae'r setliad datganoli presennol parthed deddfu ar yr iaith yn gymhleth ac yn ddryslyd. Un o'r cymhlethdodau yw bod gan y Cynulliad cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yng Nghymru, ond heb gyfrifoldeb dros y Saesneg yng Nghymru nac ieithoedd cynhenid eraill megis iaith arwyddo nac ieithoedd tramor aml eu defnydd yng Nghymru. Mae hyn yn ei wneud yn anodd gwneud datganiad clir am statws y Gymraeg mewn cyd berthynas ag ieithoedd eraill ein gwlad mewn mesur iaith.

Mae Deddf Iaith 1993 yn ddeddf Brydeinig sydd ag oblygiadau ar gyfer cyrff cyhoeddus trwy wledydd Prydain. Mae'r ddeddf yn sicrhau bod cyrff megis yr Asiantaeth Trwydded Teledu (corff sydd heb ei ddatganoli ac sydd a'i brif ganolfan ym Mryste) yn cynnig gwasanaethau Cymraeg. Mae'n bwysig bod Mesur Iaith y Cynulliad ddim yn tanseilio deddf 1993 gyda datganiad penagored am statws y Gymraeg yng Nghymru a all rhoi achos i gyrff o'r fath cael eu rhyddhau o'u hoblygiadau ieithyddol.

Mae'n bwysig bod y Cynulliad yn datgan yn glir yn y Mesur Iaith hyd a lled statws y Gymraeg yn unol â hawliau'r Cynulliad i weithredu ar yr iaith; bydda ddatganiad penagored sydd yn caniatáu i lysoedd barn sy'n eistedd y tu allan i Gymru, neu hyd yn oed o fewn Cymru o dan farnwyr gwrth Gymraeg dyfarnu ystyr datganiad ar statws yr iaith yn drychineb.

Rwy'n credu bod Alun Ffred, Plaid Cymru a Llywodraeth clymblaid Cymru wedi gwneud eu gorau glas yn y Mesur arfaethedig i gael y statws gorau posibl i'r iaith o dan y setliad cyfredol. Y mae'r Blaid wedi datgan yn glir nad yw hynny yn ddigonol a'u bod am wella'r setliad er mwyn cryfhau statws yr iaith a chryfhau'r mesur ym mhen y rhawg.

Ar fater Mesur Iaith rwy'n wirioneddol credu bod Plaid Cymru wedi gwneud ei orau glas i gael y Mesur Iaith gorau sy'n bosibl o dan y setliad presennol, ac yr wyf, yn groes i fy arfer o fod yn snob wleidyddol, yn ei llongyfarch yn dwymgalon am wneud hynny.

Na! Dydy'r mesur ddim yn pob dim y dymunwn iddi fod, ond trwy gael mwy o rymoedd ieithyddol i'r Cynulliad mae ei wella, nid trwy feirniadu Ffred am ei gamp o lwyddo cael y Mesur gorau gellir ei ddisgwyl, o dan y drefn bresenol, o flaen y Cynulliad.

O a pheth arall, pan fo'r Rhyddfrydwyr Democrataidd wrth Gymreig yn beirniadu Plaid Cymru ar bolisi iaith, mae'n sicr bod Plaid Cymru wedi gwneud rhywbeth yn gywir, a thrist yw gweld Cenedlaetholwyr honiedig yn bwydo statws ieithyddol y blaid sy'n ymgyrchu ar gasineb i'r Gymraeg mewn ardaloedd megis Aberconwy a Cheredigion!

9 comments:

  1. Diolch am y sylwadau hyn, Alwyn. Wyt ti'n credu bod gwelliannau Bethan Jenkins ar statws a hawliau i'r Gymraeg yn tanseilio beth mae Alun Ffred yn ceisio'i ddiogeli?

    Efallai ei bod hi'n bryd newid Deddf 1993 - deddf newydd i sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn pob maes Prydeinig a Chymreig sy'n ymwneud â Chymru? Cyfieithwyr yn Nhŷ'r Cyffredin a gwasanaethau Cymraeg mewn pob llysgenhadaeth amdani, felly.

    ReplyDelete
  2. Mae gwelliant Bethan yn un sydd yn ceisio bod yn ôr glyfar, ac yn fwy peryglus na'r dymuniad am statws penagored a awgrymwyd gan Emyr Lewis a'i chynghreiriaid.

    Yn sicr mae angen newid Deddf Iaith 1993, ond yn Sansteffan mae'n rhaid ei newid, nid yn y Bae o dan y cyfansoddiad presennol.

    O dan ddeddf 1993 mae Llysgenhadon Prydain yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig trwy gyfrwng y Gymraeg yn barod. Ac ers 1993 mae ambell i bwyllgor Cymreig o'r Tŷ Cyffredin sy'n eistedd yn Sansteffan bellach yn caniatáu tystiolaeth Cymraeg wedi ei gyfieithu.

    ReplyDelete
  3. Anonymous8:54 pm

    Sut wyt ti'n gallu dweud fod y Dems Rhyddfrydol yn wrth Gymreig yng Ngheredigion ac Aberconwy? Beth yw dy reswm dros ddweud hyn?

    ReplyDelete
  4. Oherwydd bod y Rhyddfrydwyr yn y ddwy etholaeth yn ystod ymgyrch San Steffan gynharach eleni wedi cwrsio pleidlais mewnfudwyr gan ddefnyddio dadleuon hynod negyddol am Gymreictod.

    ReplyDelete
  5. Anonymous8:17 pm

    Mi wnes i geisio bostion rhywbeth am y dadleuon negyddol. Cefais broblem gyda'r cyfrifiadur felly nid wyf yn siwr os ges ti e'. Gelli di ddweud wrthyf neu fy nghyfeirio tuag at y wybodaeth yma am beth oeddynt yn dweud?

    ReplyDelete
  6. Anonymous11:57 am

    Pam na wnei di ymateb? Naill ai does yna ddim gwybodaeth ar gael, neu dwyt ti ddim yn gallu dweud? Diolch.

    ReplyDelete
  7. Yr wyf wedi ymateb i dy sylwadau.
    Mi glywais i gefnogwyr y Rhyddfrydwyr yn gwneud sylwadau wrth Gymreig wrth iddynt fy nghanfasio i yn Aberconwy lle rwy'n byw ac wrth wrando arnynt yn canfasio yn nhŷ fy nghefnder yng Ngheredigion!

    ReplyDelete
  8. Anonymous11:09 am

    Beth oeddynt yn dweud?

    ReplyDelete
  9. Anonymous8:23 pm

    Huh! Dim byd felly!

    ReplyDelete