Showing posts with label Peter Hain. Show all posts
Showing posts with label Peter Hain. Show all posts

11/02/2010

Peter Hain a'r Genhadaeth Dramor

Digon hawdd yw gwneud hwyl am sylwadau Peter Hain bod Cymru yn wlad weddol gyfoethog a'i gymhariaeth rhwng Cymru a Rwanda. Ar un lefel mae'r sylwadau yn gofyn am dynnu’r pî ohonynt, felly does dim beirniadaeth o'r rhai sydd wedi gwatwar Peter a'i sylwadau.

Ond ar lefel arall mae Hain yn gwneud sylw difrifol sydd yn un werth ei hystyried. Er gwaethaf cwynion parhaus am dlodi Cymru o gymharu â GDP gweddill gwledydd Prydain, pe bai Cymru yn wlad annibynnol mi fyddai'n parhau i fod ymysg gwledydd cyfoethoga’r byd, yn gyffyrddus ei le yn y chwarter uchaf.

Os yw person yng Nghymru yn colli ei iechyd, yn colli ei phartner, yn colli swydd ac yn gweld ei thŷ yn cael ei hadfeddiannu gan y banc "yn colli popeth", bydd hi'n parhau i allu byw bywyd cymharol rhwydd i'w phenwynni gyda chefnogaeth y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, budd-daliadau, cartrefi cymdeithasol ac ati. I filiynau o bobl yn y byd bydda colli un o'r pethau hyn yn arwain at farwolaeth.

Pan fo dyn yn son am drai economaidd, tlodi ac annhegwch cymdeithasol yng Nghymru mae'n bwysig bod dyn yn gweld y pethau hyn yng nghyd-destyn y byd ehangach weithiau, yn arbennig felly pan fo son am dorri cymorth i wledydd mwyaf difreintiedig y byd fel rhan o'r ymateb i'r dirwasgiad.

27/11/2009

Be' Petai Peter yn Gywir?

Mae'r blog Llafur Wales Home yn gofyn cwestiwn difyr parthed y cwyno am agwedd Peter Hain tuag at gynnal Refferendwm ar ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Hawdd yw cystwyo Dr Hain am fod yn negyddol ei agwedd tuag at ddatganoli ac am fynegi pwyll am amseru refferendwm. Ond beth petai o'n gywir?

Rwy'n gweld rhywbeth sylfaenol annemocrataidd yn agwedd Dr Hain. Os yw'n hollol eglur be fydd canlyniad refferendwm cyn ei gynnal, afraid yw cael refferendwm o gwbl. Does dim rhaid cynnal refferendwm ar gyfreithloni llofruddiaeth oherwydd bod barn y bobl ar y pwnc yn gwbl eglur heb bleidlais. Rhoddwyd y gorau i gynnal refferendwm pob 7 mlynedd ar yfed ar y Sul yng Nghymru pan ddaeth hi'n amlwg bod pobman yn y wlad am bleidleisio o blaid agor tafarnau ar y Sul. Gwirion yw gwario filiynau ar ofyn y cwestiwn os ydym yn gwbl sicr o'r ateb. Pwrpas refferendwm yw ymofyn barn yr etholwyr pan fo rhywfaint o ansicrwydd parthed eu barn.

Ond o gynnal refferendwm heb y sicrwydd o bleidlais Ie, y mae'n bwysig i ddatganolwyd a chenedlaetholwyr ystyried oblygiadau colli.

Yn bersonol nid ydwyf yn poeni yn ormodol am bleidlais negyddol. Dydy adran pedwar o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddim yn rhoi rhagor o bwerau i'r Cynulliad, dydy o ddim yn rhoi hawliau ddeddfu ychwanegol i'r Cynulliad chwaith, yr hyn y mae'n gwneud yw newid drefn argaeledd y pwerau ar hawliau deddfu sydd eisoes yn bodoli yn adran tri o'r ddeddf.

Y peth pwysicaf mae adran 4 yn ei wneud yw rhwystro esblygiad datganoli. Heb gynnal refferendwm ar adran 4 does dim modd i symud ymlaen i gam nesaf datganoli - sef sicrhau cyfartaledd a'r Alban neu Gogledd yr Iwerddon. O gynnal refferendwm bydd yr ymgyrchu am y cam nesaf yn cychwyn boed y canlyniad yn Ie neu yn Na.

O gael canlyniad negyddol bydd yr ymgyrch am y cam nesaf yn galetach, wrth gwrs, dyna pam y byddwyf yn pleidleisio Ie ac yn annog eraill i wneud yr un fath. Ond heb refferendwm, beth bynnag fo'r canlyniad, bydd yr ymgyrch honno ddim yn cychwyn. Dyna paham yr wyf o blaid cynal refferendwm mor fuan ac sydd modd hyd yn oed heb y sicrwydd o ganlyniad y mae Peter Hain yn dymuno.

06/11/2008

Twpsyn

Am ddyn mor addysgedig mae Peter Hain yn gallu dweud pethau gwirion.

Yn ôl rhifyn heddiw o'r Cylchgrawn Golwg fyddai Peter Hain ddim yn ymuno ag ymgyrch i gael hawliau deddfu llawn ar hyn o bryd. Mae o yn erbyn y syniad o gael refferendwm yn awr.

"Fyddwn i ddim yn ymuno ag ymgyrch Ie nawr, meddai, Rhaid bod yn siŵr o gefnogaeth yn gyntaf. Byddai'n hurt lansio ymgyrch mewn gwacter"

Twpsyn! Pwrpas ymgyrch yw gwneud yn siŵr o gefnogaeth, heb ymgyrch does dim modd cael y fath sicrwydd. Bydda greu ymgyrch "ie" i berswadio pobl am rinweddau hawliau deddfwriaethol ar ôl cael sicrwydd eu bod yn cefnogi hawliau deddfwriaethol braidd yn di bwrpas.