10/01/2012

Pwy Maga Blant?

Rwy'n methu deall Gwleidyddiaeth Rhyw, boed o ran Cristionogion Selog, neu o ran yr Anffyddwyr Milwriaethus.

I mi mae rhyw yn hwyl, peth pleserus a dymunol!

Pan oeddwn yn laslanc roedd pleser ar gael rhwng llaw, cylchgrawn a phidlan unig.

Pan oeddwn yn fyfyriwr roedd cyd gwancio dros luniau budron yn hwyl. Roedd arbrofi rhywiol efo hogiau eraill yn hwyl fawr hefyd. Yr wyf wedi hen ymwrthod a rhagfarnau crefyddol sy'n honni bod fy mhrofiadau rhywiol glaslancaidd yn diffinio fy rhywioldeb! Ond mae hynny'n frad i'r lobi wrywgydiol! Nid ydwyf yn edifar am y fath brofiadau, nid ydwyf yn gofyn maddeuant nid ydwyf am eu gwadu - yr oeddynt yn bleserau pur, yn hwyl fawr!

Ond nid gwagio ceilliau neu wlychu pidlan yw wir ystyr profiad rhywiol!

Does dim profiad i'w gymharu â gweld plentyn yn cael ei eni, dim i gymharu â chlywed babi yn dweud y gair Dad am y to cyntaf, dim artaith sy'n brifo mwy na gollwng eich plentyn i'r byd mawr a phoeni na ddaw'n ôl, dim poen mwy na weld dy eilun yn laslanc, yn cyflawni'r un hen blydi camgymeriadau a chyflawnaist di yn ddeunaw oed (gan gynnwys yr ofn bod ei arbrofion am negyddu dy obeithion o fod yn Daid).

Sori am fod yn Homoffôb ond mae'n ymddangos i mi mae'r gwahaniaeth rhwng bod yn rhywiol a gwrywgydiol yw'r ofn o dderbyn y cyfrifoldeb o fagu'r genhedlaeth nesaf o Gymry, yr ofn o dderbyn y cyfrifoldeb am ganlyniadau naturiol y profiad rhywiol!

Mae canlyniad rhyw rhwng gwr a gwraig yn gallu magu oes o gyfrifoldebau!

Dymuno hwyl rywiol heb gyfrifoldeb yw cuddio tu nol i'r bathodyn hoyw!

32 comments:

  1. BoiCymraeg10:19 am

    Mae nifer fawr o barau heterorywiol yn dewis peidio a cael plant; ydyn nhw'n gwrthod cyfrifoldeb?

    Ac mae nifer o barau cyfunrywiol yn dewis mabwysiadu plant (neu roi genedigaeth i blant drwy 'surrogate'); onid ydyn nhw'n cymryd yr un cyfrifoldeb yr wyt ti'n sôn amdani?

    ReplyDelete
  2. Weithiau dyw fy Nghymraeg ddim yn ddigon da i fynegi'r hyn 'mod yn teimlo. Felly, ar hyn o bryd dwi'n methu ffeindio'r geiriau am ba mor 'fucking retarded' yw hyn.

    ReplyDelete
  3. Carys1:37 pm

    ma dy eiriau wedi tynnu deigryn. Sut all unrhywun feddwl athroniaeth mor gul a chas??

    Ma cyplau hoyw yn medru mabwysiadu erbyn hyn. Yn wir - y cwpwl cynta yng Nghymru newydd neud - dau aeold mwyaf blaenllaw 'Stonewall' sef elusen i bobl hoyw (sy'n brwydro yn erbyn barn pobl fel chithau). Ma cyplau hoyw wedi bod yn brwydro i fedru mabwysiadu ers blynyddoedd, boed yn gyplau gwrwaidd neu benywaidd. Ma sawl menyw hoyw hefyd yn dewis beichiogi yn naturiol drwy surrogate.

    Ma rhain yn bobl sydd eisiau clywed y gair 'mam neu 'dad'. Pobl sydd eisiau rhoi cariad a magwraeth da i'w plant - sawl yn medru rhoi gymaint mwy na lawer o bobl yn y wlad ma i'w plant. Ma nhw eisiau cyfrifoldeb. Eisiau magu cenhedlaeth arall.

    Mi wyt yn homoffob - a dyw hynny ddim yn beth i'w barchu nac i ymfalchio ynddo. Mae'n beth ma ysgolion, heddlu, llefydd gwaith, cartrefu yn ymladd yn ei erbyn.

    Y cwestiwn yw, pam dy fod ti am greu y fathodyn 'homoffob' yma i'w wisgo mor falch??

    Mae'n swnio ifi nad yw dy anturiaethau gyda Dynion wedi dod i'w terfyn - ti'n osgoi y gwirionedd gan ffurfio atgasedd at dy wir deimladau.

    Gweler y linc isod:

    http://www.psychologytoday.com/blog/the-big-questions/201106/homophobic-men-most-aroused-gay-male-porn

    ReplyDelete
  4. Anonymous2:42 pm

    Rwyt ti ddim yn homoffob, peidiwch gwrando ar y nonsens PC uchod, mae llawer iawn o be ti'n dweud yn wir a fi'n credu bod 95% o bobl yn cytuno a ti. Blog ardderchog.

    ReplyDelete
  5. Dw i ddim yn meddwl dy fod ti wedi ei deall hyn yn iawn, Alwyn.

    Mae pobol hoyw yn hoyw oherwydd bod eu hatyniad rhywiol at bobol o'r un rhyw a nhw yn gryfach na'u hatyniad rhywiol at bobol o'r rhyw arall.

    Dyw atyniad rhywiol ddim yn rywbeth y mae modd i rywun ei reoli. Fe fyddai nifer o gyplau hoyw wrth eu bodd yn cael plant, ac yn wir mae nifer yn mabwysiadu neu yn ffeindio mam i gario'u plentyn neu tad i'w beichiogi.

    Mae condom neu'r bilsen yn caniatau i ddyn gael rhyw gyda menyw heb iddi feichiogi. Felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr dadlau fod pobol yn troi at fod yn hoyw er mwyn atal-genhedlu, does dim angen.

    ReplyDelete
  6. BoiCymraegArall3:17 pm

    Mae hyn yn dwyn i gof yr hyn ddywedodd John Updike, y ffeminydd a'r hyrwyddwr hawliau hoyw nodedig hwnnw, mewn adolygiad o lyfr 'The Spell' gan Alan Hollinghurst wrth iddo gyfeirio at y gyfathrach wrywgydiol y nofel:

    'Nothing is at stake but self-gratification[…]Novels about heterosexual partnering, however frivolous and reducible to increments of selfishness, social accident, foolish overestimations, and inflamed phsyical detail, do involve the perpetuation of the species and the ancient, sacralized structures of the family.'

    Eniwe, mae dy safbwynt di, fel un Updike, (os nad yn fwriadol homoffobig, efallai) yn anghywir ac yn fwy na hynny, yn amharchus. Petawn i'n hoyw gan nad fy mod i eisiau atgenhedlu, mi fuaswn i wedi jest penderfynu peidio cael plant, yn hytrach na gorfod diodde' blynyddoedd anodd fy arddegau cynnar, y diffyg hawliau cydradd, y faith bod gafael llaw fy nghymar yn gyhoeddus o hyd yn weithred wleidyddol ac yn ddatganiad amlwg o fy nhueddiadau rhywiol i, yn hytrach na bod yn ystum gariadus ddi-nod. Rwyt ti'n siarad o safbwynt breintiedig heterorywiol, heb unrhyw ymwybyddiaeth o'r breintiau niferus ti'n cymryd yn ganiataol.

    Ac hyd yn oed petai ti'n gywir, beth sydd o'i le efo ffwcio dim ond ar gyfer pleser? Mae 'na ormod o bobol ar y blaned 'ma fel mai a llai a llai o adnoddau ar ein cyfer. Nid oes angen i bawb gael plant, ac fel ewythr i wyrion, mi dwi'n falch fod gennai ragduedd i beidio cael plant. Mae'n boen mawr i mi y bydd bywyd ar y blaned yma yn mynd yn gynyddol anoddach iddyn nhw na fuon nhw byth i mi neu fy rhieni.

    Ffordd natur o reoli poblogaeth ydi gwrywgydiaeth, ac mi rydw i'n hollol hapus bod ar flaen esblygiad dynol.

    ReplyDelete
  7. Dyma'r blogiad mwyaf digri i mi ei ddarllen ers tro byd.

    ReplyDelete
  8. Blydi hel Alwyn. Rwyt ti'n iawn am un peth o leiaf; nid wyt yn deall.

    Byddaf yn ymateb yn llawn ar fy mlog nes ymlaen.

    ReplyDelete
  9. Chris, os nad wyt yn teimlo bod dy Gymraeg yn ddigon da i fynegi dy ymateb yn y Gymraeg , mae croeso iti ei fynegi mewn unrhyw iaith arall yma. Diolch i anhysbys am y gefnogaeth, trist bod pawb arall yn rhan o'r gatholigiaeth geidwadol newydd, sy'n credu mai un farn uniongred gywir sy'n bodoli, a bod pawb sy'n gwyro oddi wrth y farn yna yn dioddef o salwch meddwl yn ffobig. Nid dadl, Carys, yw cyfeirio rhywun at farn seicolegydd, mae hynny mor ddi-ddadl ac yw offeiriad yn cyfeirio at adnod o'r Beibl a gweiddi heresi. Gwaeth byth, BoiCymraegArall yw ddyfynu nofelydd dinod anealladwy a gweiddi heresi

    Y gwirionedd naturiol diymwad yw'r ffaith bod gennym yr offer corfforol angenrheidiol i gael rhyw efo unrhyw un neu unrhyw beth y dymunwn gael rhyw efo, moesoldeb, normau cymdeithasol a phrofiadau bywyd sydd yn cyfyngu neu yn ehangu ein dewisiadau nid "natur". Mater o farn nid mater o natur yw i ba raddau dylid cyfyngu neu atal ehangder y profiad rhywiol!

    ReplyDelete
  10. Anonymous6:20 pm

    Dwi ddim o'r barn mai arwydd o salwch meddwl yw sylwadau Alwyn ap Huw (ond nid dyna mae'r gair "homoffobia" yn ei ymhlygu beth bynnag -- peidiwch â chwympo mewn i fagl yr "etymological fallacy": http://en.wikipedia.org/wiki/Etymological_fallacy).

    Mae'n edrych i mi, yn hytrach, nad ydy Alwyn ap Huw yn gwybod fawr o ddim am natur rhywioldeb dynol ac yn meddwl bod tynnu syniadau allan o'i dîn yn gywerth â cheisio deall tystiolaeth ymchwil gwyddonol.

    "Dymuno hwyl rywiol heb gyfrifoldeb yw cuddio tu nol i'r bathodyn hoyw!"

    Yn wir? A'r tystiolaeth am hyn...? (Ac dwi ddim yn meddwl stori am ddyn hoyw y clywoch chi amdano unwaith -- nid "data" 'mo ffurf luosog "anecdot").

    Mae bron pawb sy'n ceisio herio'r consensws yn darlunio'u hunain fel hereticiaid dewr. Dyna dactig pobl sydd yn gwthgyferbynu dysgu theori esblygiad mewn ysgolion. Ond mae na reswm pam mae'r consensws un ochri efo theori esblygiad: Mae'n fwy cywir o lawer. A dyna pam mae Alwyn ap Huw yn meddwl bod y consensws yn ei erbyn: Mae'r tystiolaeth o blaid y consensws, nid o'i blaid o.

    ReplyDelete
  11. Ddaru fi crinjo bore ma pan ddarllenais y blog ond wedi methu ymateb; ddim yn siwr be i ddeud ar wahan fy mod yn anghytuno mae mater o ddewis ydy rhywioldeb.

    ReplyDelete
  12. Dydy consensws sydd wedi ei dderbyn ar ôl ymgyrch gwleidyddol ddim yn gonsensws gwyddonol Gari. Ymgyrchoedd gwleidyddol mudiadau megis Stonewall sydd wedi arwain at y consensws cyffredinol rhyddfrydol tuag at wrywgydiaeth, nid ymchwil gwyddonol; cei di chwilio a chwilota yn holl lyfrau gwyddonol y byd ond ddoi di ddim ar hyd i un sydd yn gwadu bod gan bob dyn yr offer angenrheidiol i gael rhyw wrywgydiol; yr hyn sydd ar gael mewn trafodaethau gwyddonol yw papurau seicoleg a seicdreiddiad sydd yn ceisio egluro be sydd yn gyrru dyn i dderbyn neu ymwrthod a wahanol brofiadau rhywiol, hynny yw be sydd yn gyfrifol am eu "dewis"!

    ReplyDelete
  13. Dwi ddim yn siŵr os ydi sylwadau Alwyn uchod yn rhai homoffobig fel y cyfryw ... hyd yn oed os ydi o’n meddwl eu bod nhw (dwi’n amau ei fod yn cyfeirio at ei hun fel ’homoffôb’ â’i dafod yn ei foch braidd)! Dwi ddim yn synhwyro atgasedd ar ei ran ef (efallai fy mod yn anghywir) tuag at bobl hoyw, ac er mor ddwl ydi ei sylwadau ar un lefel dwi’n meddwl bod ei gyfeirio at farn seicolegydd yn ei gor-wneud hi braidd tydi. Calm down rŵan.
    Dwi ’di mwynhau’r blog yma ers blynyddoedd ac wedi cytuno efo Alwyn y rhan helaethaf o’r amser arno, ond fy argraff gref i o’r uchod ydi mair’ broblem yw nad ydi Alwyn yn be ydi bod yn hoyw! Ma’n bod yn ddwl ac yn anwybodus yma mae arna i ofn. Nid ’dewis’ mo’r peth (petai’n ddewis pwy ddewisai fod yn hoyw mewn difri, a bod yn rhan o grŵp sydd yn cael ei wahaniaethu yn ei erbyn yn fwy na’r rhan fwyaf o grwpiau eraill? ... Hyd yn oed, os ca’i fentro dweud, yn llai nag y mae’n amgyffred ei fod). Os ydi rhywun yn cael ei atynnu gan bobl o’r un rhyw wel, dyna ni wedyn de, mae’n hoyw neu’n ddeurywiol; ac os felly pam ymatal dy hun rhag cael dy atynnu gan bobl o’r un rhyw? Ti’n awgrymu er mwyn magu plant...
    Gall cyplau cyfunrywiol bellach fagu plant ac o ran hynny dwyt ti methu â chyhuddo pobl hoyw rhag osgoi’r ”cyfrifoldeb” felly. Dadl sy’n gwrth-ddweud ei hun braidd. Mae p’un a ddylai pobl hoyw gael mabwysiadu plant yn drafodaeth wahanol.
    Ac o ran cuddio ’tu ôl i fathodyn hoyw’ wel, dwi byth wedi clywed y ffasiwn beth yn fy myw! Dybiwn i fod lot mwy o bobl yn cuddio tu ôl i fathodyn ‘sdrêt’ yn anwir nac yn smalio bod yn hoyw ... yn enwedig er mwyn osgoi magu plant!

    ReplyDelete
  14. Anonymous7:11 pm

    Er dwi ddim yn cytuno o gwbwl gyda Sylwadau Alwyn,mae na nifer o bobl hunangyfiawn hefyd fydd yn sylwi ar y neges hwn yn dilyn stori golwg, wedyn arhoswch am y llif o ymosodiadau cas at rywun sydd ond yn mynegi barn fel petai, os braidd yn anghyfrifol ar yr un pryd.

    ReplyDelete
  15. Damnia dim ond hanner fy ymateb i Gary sydd wedi ei gludo!
    Dydy cyfeirio at y cam o ddefnyddio geiriau sydd yn diweddaru a "ffobig" mewn trafodaeth wleidyddol ddim yn ffug etimoleg. Ystyr ffobia yw ofn dirdynnol a chwbl afresymol o sefyllfaoedd cyffredin bywyd, mae phobia meddygol go iawn yn gyflwr iechyd meddwl difrifol. Wrth gwrs mae yna ddefnydd llai ffurfiol o'r term ffobia hefydd, gallasai unrhyw un sydd â phrofiad o'r byd iechyd meddwl yn gallu cadarnhau bod yna gwahaniaeth enfawr rhwng person sydd ddim yn hoff iawn o bryfed cop a rhywun sydd yn feddygol arachnoffobig, er bod yna duedd i ddefnyddio'r gair am y naill yn ogystal â'r llall, ond hyd yn oed yn yr ystyr anffurfiol mae ffobia yn awgrymu bod gan rywun barn sy'n seiliedig ar ofnau chwerthinllyd o od. Pan ddefnyddir geiriau "ffobig" mewn dadleuon defnyddir hwy er mwyn gwneud y sarhad bod barn nas cytunir a hi yn afresymol o od a gan hynny yn ddiwerth. Mae'n ffordd o gau drafodaeth i lawr does dim pwrpas trafod yr UE efo ti gan ei fod yn amlwg dy fod yn Iwroffôb er enghraifft. O ddefnyddio'r term homoffôb yn yr ystyr gwleidyddol pwy yw'r rhai homoffobig onid rhai o'r bobl heterorywiol uchod sydd yn gwadu bod ganddynt y gallu corfforol i gael rhyw efo dynion rhag ofn iddynt gael eu cyfrif fel "un o ohonynt hwy"?

    ReplyDelete
  16. I'r rhai sydd eisiau persbectif â thipyn bach mwy o dystiolaeth gwyddonol tu ôl iddo fo, dyma lle da i ddechrau:

    http://www.apa.org/helpcenter/sexual-orientation.aspx

    "cei di chwilio a chwilota yn holl lyfrau gwyddonol y byd ond ddoi di ddim ar hyd i un sydd yn gwadu bod gan bob dyn yr offer angenrheidiol i gael rhyw wrywgydiol"

    Be mae hyn i fod i olygu? Dwi'n cytuno'n llwyr bod gan bob dyn (sydd heb gael damwain annifyr) yr offer angenrheidiol i gael rhyw wrywgydiol, ond dwi'n methu deall sut mae hyn yn golygu bod gwrywgydiaeth yn ddewis a wneir gan bobl sydd ag ofn o dderbyn y cyfrifoldeb o fagu'r genhedlaeth nesaf.

    Beth, er enghraifft, am bobl hoyw mewn berthnasau hoyw sydd yn dewis magu plant? Mae llawer iawn ohonynt, ac dwi'n falch iawn bod gwleidyddiaeth wedi cadw i fyny mwy neu lai efo'r ymchwil gwyddonol sy'n dangos bod pobl hoyw yn gallu magu plant heb effaith negyddol ar y plant hynny.

    Dwi'n cytuno hefyd nad ydy profiadau rhywiol glaslancaidd yn diffinio rhywioldeb pobl. Ond pwy sydd o ddifri yn credu y maen nhw? Nid frad mo hynny i'r "lobi gwrywgydiol", ond strawman.

    Mae rhywoldeb pobl weithiau yn newid yn ystod eu bywydau (yn arbennig rhwng ieuenctid ac oeodlaeth). Ac mae'n debyg mai casgliad cymhleth o ffactorau sy'n penderfynu ac yn siapio rhywoldeb. Ond dydy hyn ddim yn meddwl o bell ffordd mai dewis ydy rhywoldeb mwyafrif helaeth pobl hoyw (neu bobl "sdrêt" neu "bi" chwaith).

    ReplyDelete
  17. Dwi'n cytuno, gyda llaw, bod y morffem "ffobig" fel arfer yn awgrymu ofn afresymol. Serch hynny, dwi'n meddwl bod y gair "homoffobia" wedi datblygu i feddwl rhywbeth arall i ran helaeth o'r pobl sy'n ei defnyddio: Cywerthydd ym maes rhywoldeb i'r gair "hiliaeth" ydyw. Hynny ydy, pan mae pobl yn galw pobl arall yn homoffobig heddiw, mae nhw fel arfer yn ceisio cyfleu bod y pobl hynny â rhagfarnau di-sail yn erbyn pobl hoyw. Mae'n anffodus nad oes gair gwell ar gael.

    Beth bynnag, dwi ddim yn meddwl mai homoffobia yw'r gair iawn am eich honiadau chi beth bynnag mae pobl yn meddwl wrth y gair. Yn hytrach, dwi'n meddwl eich bod chi ond yn camddeall testun cymhleth iawn. Ond mae pawb yn camddeall pethau o bryd i'w gilydd.

    Gyda llaw, nid Gary yw fy enw.

    ReplyDelete
  18. Anonymous8:32 pm

    Rwtch gwrth- hoyw!

    ReplyDelete
  19. Anonymous9:42 pm

    "Halio" yw'r gair Cymraeg, nid 'gwancio'!

    A minnau'n byw yn Nolgellau gwn mai "halio" a ddefnyddir yno ar lafar gwlad hefyd.

    ReplyDelete
  20. Ystyr y gair gwanc yw dymuno rhywbeth yn ysol (craving yn ôl Cysgeir), ee mae gen i wanc am hufen ia i bwdin heno. Y gair Cymraeg yma ar ei ffurf dreigliedig, mae'n debyg, yw ffynhonnell y "rheg" Saesneg, a dyna'r gair yr wyf i yn fwyaf gyfarwydd â'i glywed ymysg hogiau Dolgellau.

    Fel mae'n digwydd cefais fy nwrdio ar fy mlog Saesneg peth amser yn ôl gan gyfieithwyr a Chymreigwyr am awgrymu mae "wank away zone" oedd cyfieithiad Saesneg o arwydd Cymraeg yn hysbysu "parth halio ymaith". Does dim modd plesio pawb wrth regi yn y Gymraeg, nag oes?

    ReplyDelete
  21. Mae'n anodd dyfynnu o gylchgronau academaidd ar flog gan fod gormod ohonynt yn codi crocbris am gael gweld mwy na rhagymadrodd i'w papurau, ac mae'r mwyafrif yn gythreulig o anodd ei deall gan bobl heb arbenigedd yn eu maes.

    Mae Psychology Today yn bapur poblogaidd sy'n trafod darganfyddiadau ym maes seicoleg mewn iaith gyffredin, megis yr erthygl yma sy'n ateb y pwynt mae HoR yn codi parthed paham bod pobl yn "dewis" bod yn gyfunrywiol.

    Rwy'n methu yn fy myw cofio ym mha gylchgrawn y darllenais yr ymchwil, ond rwy'n 99% yn sicr imi weld adroddiad yn un o'r cylchgronau seicdreiddiad bod mwy na thri chwarter o'r sawl sy'n ymweld â gwefannau pornograffig gwrywgydiol yn ddynion sy'n "syth" ym mhob agwedd o'u bywydau rhywiol ar wahân i'w ffantasiâu ar-lein, yr wyf hefyd wedi gweld ymchwil sy'n awgrymu bod y mwyafrif llethol o ddynion sy'n edrych ar bornograffi heterorywiol yn llygadu offer a pherfformiad y dyn yn hytrach na'r ddynes. Ar QI ychydig wythnosau yn ôl (rwy'n gwybod nad yw yn ffynhonnell ddibynadwy) fe awgrymodd Stephen Fry bod yna ymchwil sydd yn profi bod merched yn dueddol o edrych ar eraill yn eu llygaid tra fo dynion yn edrych ar lygaid a phen y goes wrth gwrdd â dyn, menyw ac anifail, sydd yn awgrymu mai gwrywgydiaeth neu deurywioldeb yw'r "norm" ddynol ond ein bod yn "ddewis" cyfun rhywioldeb er mwyn planta. Dadl sydd o chwith i fy nadl i, bod pobl yn ddewis bod yn wrywgydiol, hwyrach, ond dadl sy'n cefnogi fy honiad mae dewis ydyw a phlanta sydd wraidd y dewis!

    ReplyDelete
  22. Mae'r blog 'ma llawn gwallau.

    1. "Pwy faga blant" yw'r ymadrodd cywir.

    2. Nid oes cysylltiad amlwg rhwng 'wank' a'r gair Cymraeg 'gwancus'. Mae'n cael ei nodi gan eiriaduron fel 'whank' yn y 1940au ac yn fwy tebygol o fod yn dafodiaeth leol wedi ei ledu gan ddynion ifanc yn y fyddin neu awyrlu adeg y rhyfel - rhai oedd i ffwrdd o'i gwragedd/partneriaid am amser hir.

    3. Mae'n hawdd cymeryd 'ffeithiau' rwyt ti wedi dysgu ar gwis teledu allan o'i gyd-destun i godi dyn gwellt arall, ond nid yw'r astudiaeth ar le mae dynion/merched yn 'edrych' yn dweud dim am rywioldeb.

    Fe allwn i gymeryd astudiaeth arall o 2007 (Rupp & Wallen, 2007) i wrthbrofi hyn. Mae hyn dangos pan mae dynion a menywod heterorywiol yn edrych ar gyfres o luniau noeth o bobl eraill o'r rhyw arall, mae'r ddau ryw yn edrych ar y gwyneb a'r organau rhywiol. Mae'r dynion yn treulio mwy o amser ar wyneb y fenyw.

    Yn ddiddorol, wrth edrych ar luniau o'r un rhyw, mae gan fenywod fwy o ddiddordeb mewn cyrff menywod arall ac yn cael fwy o deimladau rhywiol o wneud hynny na dynion yn edrych ar ddynion noeth. Ydi hynny'n profi fod merched i gyd yn lesbiaid yn y bôn?

    Na, mae'n fwy tebygol fod merched yn llawer mwy cyffyrddus wrth edrych ar gyrff merched eraill a wedi cael eu codi mewn diwylliant o hynny. Mae'r gwrthwyneb yn wir am ddynion, yn sicr.

    Mae unrhyw ymgais i gymeryd profiad unigolyn i roi sail i ryw theori fawr o rywioldeb fel wyt ti'n gwneud yma, yn siwr o fethu.

    ReplyDelete
  23. Dwi'n hapus derbyn y posibilrwydd bod gan y mwyafrif o bobl y gallu i ddatblygu teimladau rhywiol tuag at bobl o'r un rhyw ac hefyd tuag at bobl o'r rhyw cyferbynol (er bod angen mwy o ymchwil i ddangos hynny'n derfynol).

    Ond dyma'r problem. Dach chi'n siarad fel petai dau bosibilrwydd yn unig sy'n bodoli: unai fod pobl hoyw heb y "peirianwaith" ffisiolegol i deimlo'n rhywiol am ferched, neu fod nhw'n dewis eu rhywioldeb.

    Ond ffug ddicotomi ydy hyn. Dwi'n hollol siwr bod na rai pobl deurywiol sydd yn syml yn dewis cyfyngu un ochor o'u rhywioldeb. Ond achos lleiafrifol yw hyn. Mae rhywoldeb yn fwy gymhleth na hynny. Beth, er enghraifft, am rôl diwylliant, neu brofiad, neu fagwraeth? Mae rhain i gyd yn rymoedd ag effaith gyfyngiadol ar brosesau ffisiolegol, ac sydd yn wahanol i "ddewis".

    Beth am y posibilrwydd (mwy na bosibilrwydd) bod rhywioldeb yn amrywio yn ei gryfder? Bod pawb (neu'r mwyafrif) yn gallu teimlo'n rhywiol am ddynion a merched, ond bod well gan y mwyafrif un neu'r llall?

    Beth am y posibilrwydd (eto, mwy na bosibilrwydd) bod na fwy i berthynas rywiol na ryw? Bod teimladau serch a chysondeb hefyd yn amrywio?

    Dwi'n siwr bod dewis yn chwarae ei ran, ond rhan cymharol fach ydyw, mewn sioe sy'n llawn o gymeriadau eraill.

    Mewn geiriau un o'm hoff grysau-t: "I think you'll find it's a bit more complicated than that."

    ReplyDelete
  24. Bobl annwyl, roeddwn yn feddwl fy mod i'n Hen Rech Flin, ond mae blinder rhai o'ch ymatebion yn gwneud imi deimlo fy mod mor hoyw ac ydoedd Alun Mabon yn ei ddydd!

    Ydy tarddiad gair gwir yr yn werth dwy fwled ynfytyn?

    Gyda llaw fi a nododd yn gyntaf bod sylwadau'r Br Fry ar ei raglen deledu hurt yn ffynhonnell annibynadwy!

    ReplyDelete
  25. Meddai garicgymro

    Beth am y posibilrwydd (mwy na bosibilrwydd) bod rhywioldeb yn amrywio yn ei gryfder? Bod pawb (neu'r mwyafrif) yn gallu teimlo'n rhywiol am ddynion a merched, ond bod well gan y mwyafrif un neu'r llall?

    Beth am y posibilrwydd (eto, mwy na bosibilrwydd) bod na fwy i berthynas rywiol na ryw? Bod teimladau serch a chysondeb hefyd yn amrywio?


    Diolch garicgymro am fynegi'r pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud mew geiriau llawer mwy cyfaddawdol a gwleidyddol cywir na wnes i!

    ReplyDelete
  26. Beth am y pobl hoyw sy'n magu plant a phobl syth sydd ddim? Yr unig dyn galwodd bradwr arno am droi gefn ar ei ymddygiad hoywaidd pan yn laslanc oedd Portillo wnaeth bod yn rhan o lywodraeth homoffobig.

    ReplyDelete
  27. Does dim yn y post gwreiddiol sydd yn awgrymu bod pobl sydd yn magu plant mewn perthynas gyfunrywiol yn ddiffygiol mewn unrhyw fodd.

    Fel mae eraill yn nodi mae pobl gyfunrywiol yn cael plant trwy fabwysiad, mae sawl plentyn wedi ei fagu gan fam neu dad sydd wedi gwahanu oddi wrth gyn cymar heterorywiol ac wedi mynd i mewn i berthynas cyfunrywiol, mae Pobl y Cwm wedi egluro defnydd y Turkey Baster mewn modd rhy graffig i'w hail adrodd yma!

    Ond y gwir meddygol cywir plaen yw mai'r unig fodd i blentyn cael ei greu yn naturiol yw trwy gyfathrach rhwng un dyn ac un gwraig. Mae'n ffaith mor amlwg cywir rwy'n methu deall pam bod rhai o'r uchod yn cael eu trôns mewn cymaint o dwist i anghytuno a'r fath osodiad!

    ReplyDelete
  28. Anonymous1:38 pm

    Pwy faga blant
    Hyd y gwela’ i hunanoldeb hunanfoddhaus sy’n nodweddi dy gyfraniad diweddara i dy flog ynghyd a dôs go helaeth o sentiment anghynnes. Cyfnod o wagio dy geilliau, wancio ac yna ysgwyddo’r cyfrifoldeb o fod yn riant. Yn hyn i gyd ‘does ‘na’r un gair am gariad nac am garu. Ai llestr esgor yn unig oedd dy wraig? Ac am y gobaith o fod yn daid … geiriau Hedd Wyn druan na chafodd fod yn dad nac yn daid a ddaw i’r côf “Nid does gennym hawl ar y sêr, na’r lleuad hiraethus chwaith …”

    ReplyDelete
  29. "Diolch garicgymro am fynegi'r pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud mew geiriau llawer mwy cyfaddawdol a gwleidyddol cywir na wnes i!"

    Croeso, ond mae gwahaniaeth arwyddocaol rhwng yr hyn a ddwedais i a'r hyn a ddwedoch chi. Ac dydy'r gwahaniaeth ddim yn berwi lawr i gywirdeb gwleidyddol! Nid ddweud yr un beth mewn geiriau gwahanol ydym. Dydy'r honiad bod pobl hoyw yn dewis eu rhywoldeb er mwyn osgoi cyfrifoldeb am fagu plant yn syml ddim yn canlyn o'r hyn a ddwedais i. Dwi ddim hyd yn oed yn siwr o ble mae'r honiad yn gallu canlyn! Mae angen deall hyn er mwyn deall pam mae pobl yn ymateb mor flin.

    Ond, hefyd, mae'n ddrwg gen i gyfranu at greu mynydd allan o bridd gwadd (dwi'n siwr bod na ffordd frodorol Gymraeg o ddweud hynny, ond dwi wedi bod allan o Gymru am rhy hir...). Un cysur i chi: Mae'n debyg eich bod chi wedi llwyddo i atynnu cynulleidfa newydd i'ch blog:)

    ReplyDelete
  30. Mae'n debyg eich bod chi wedi llwyddo i atynnu cynulleidfa newydd i'ch blog:
    garicgymroJan 11, 2012 06:33 AM

    I'r gwrthwyneb. Pe bawn am wneud sylw er mwyn cael sylw, byddwn wedi gwneud y sylw yn y Saesneg. Y rheswm pam bod y post yma yn y Gymraeg yw gan ei fod yn ymateb i flog arall yn y Gymraeg. Sef Blog Dylan

    Pe bawn i 'mond wedi gwneud fy symiau yn gywir gallaswn wedi cael miloedd o hitiau yn y fain yn hytrach na'r degau yn Iaith y Nefoedd!

    Rwy'n falch bod y fath gontrofersi wedi creu sylw annisgwyl i fy myfyrdodau, ond annisgwyl yn hytrach na bwriadol bu'r sylw.

    I ddweud y gwir yn onest rwyf wedi dweud pethau llawer mwy dadleuol yma yn y gorffennol heb gael namyn un sylw! Dyna natur y bwystfil blogio!

    ReplyDelete
  31. Anonymous2:17 pm

    Dwi'n cytuno a thi sort of. Yn fy mhrofiad i mae nifer o bobol hoyw hefyd yn bobol hunanol ac felly fe ellid dod i gredu fod bod yn hoyw yn ddewis achos ei fod yn golygu rhyw heb gyfrifoldeb. Wedi deud hynny dwi'n nabod nifer o bobol gyfunrhywiol sydd yn cael rhyw ond wedi penderfynu peidio cael plant, felly eto yn mwynhau rhyw heb y cyfrifoldeb ac mae nhw'n tueddu i fod yn hunanol hefyd. Dwi ddim yn credu mae dewis ymwybodol yw rhywioldeb ond dwi ddim chwaith yn credu dy fod ti'n cael dy eni yn hoyw neu beidio, dwi'n credu y gallai pawb fynd naill ffordd neu'r llall yn dibynnu ar lawer o ffactorau. Fyddwn i'n dweud, felly fod pobol sydd yn hunanol yn cael eu denu at fywyd hoyw, ac mewn ffordd felly dwi'n rhannol gytuno a thi.

    ReplyDelete