27/04/2011

Darogan Diflas

Mae darogan etholiad yn rhan o'r gêm wleidyddol mae blogwyr gwleidyddol i fod i chwarae, mae'n bryd imi ddanfon fy nghyfraniad i i'r flogosffêr. Ond mae'n un diflas tu hwnt!

Mae modd i Lafur cipio Lanelli, ond rwy'n amheus os bydd yn digwydd.

Mae modd i'r Ceidwadwyr cipio Trefaldwyn a Phen y Bont, ond Na! Nid ydwyf yn disgwyl i'r un o'r ddau digwydd.

Mae modd i Ron Davies cipio Caerffili i'r Blaid! Boddi ar ymyl y lan bydd ei hanes mi dybiaf.

Mae 'na siawns i'r Ceidwadwyr neu i Lafur ddwyn Aberconwy gan y Blaid, ond rwy'n dawel hyderus y bydd y Blaid yn dal ei afael o drwch blewyn.

Yr unig newid mewn etholaeth rwy'n ei ddarogan yw i'r Blaid Lafur cipio Blaenau Gwent gan Lais y Bobl.

Os mae prin yw'r newid yn yr etholaethau, prin bydd y newid ar y rhestr hefyd. Yn y Gogledd mae'r gobaith am y newid rhestr yn uchaf. Os bydd newid (ac rwy'n amheus) credaf fod gan yr Annibynnwr Jason Weyman (hen foi da) gwell obaith o ddisodli'r Rhyddfrydwyr na sydd gan y BNP neu UKIP; ond rwy'n disgwyl gweld Aled yn y Senedd.

Gobeithion Plaid y Saeson sy'n bwyta Vegi Burgers o ennill sedd neu ddau ar restrau'r deheubarth - dim yw dim!

Fel y rhybuddiais, darogan diflas o ddim newid!

A dim newid Llywodraeth chwaith! Bydd y Lib Dems yn ysu clymbleidio a Llafur, ond bydd Llafur yn gwybod bod clymbleidio a'r Lib Dems, megis clymbleidio a'r ConDems ac yn wenwynig; a bydd y Bolshis asgell chwith ym Mhlaid Cymru yn mynnu Cymru'n Un #Dau ac yn ymwrthod ag unrhyw sniff at Enfys.

RHYBYDD
Cyn i neb mynd i'r bwci i roi'r ffamili alowans yr y ddarogan hon, dylid nodi mae dim ond unwaith mewn pum ymgais, ers sefydlu'r blog, y bûm yn agos at ddarogan pleidlais yn gywir!

2 comments:

  1. Anonymous9:21 am

    dwi'n meddwl dy fod yn reit agos ati yr Hen Rech.

    ReplyDelete
  2. Griff4:47 pm

    Llafur i gipio Blaenau Gwent (An), Gorllewin Caerfyrddin a Penfro (Tori) a Gogledd Caerdydd (Tori).

    Toriaid i gipio Sir Drefaldwyn.

    A dyna ni! Dwni'm pa effaith fysa hyn yn ei gael ar y seddi rhestr, dim lot swni'm yn feddwl. Sedd yma ac acw ella.

    Lot o Bleidwyr yn wir poeni ac yn taenu eu poendod o Lanelli a Aberconwy (dwy sedd fydd yn agos) i Geredigion a hyd yn oed Ynys Môn. Wrth wrando ar rei Pleidwyr mi fyset ti'n meddwl mai dim ond Rhodri Glyn a Dafydd El sydd yn saff!

    Allaim gweld y Libs yn enill yng Ngheredigion ar ol be ma nhw wedi ei wneud i fyfyrwyr ac yn y marn i ma diflaniad Peter Rogers yn newyddion da i'r Blaid, dim y drasiedi mae rhai yn ei ofni.

    ReplyDelete