28/03/2011

Seisnigrwydd Undeb Credyd y Gogledd

Rwy'n rhannu siom Plaid Wrecsam a Blog Menai am Seisnigrwydd yr Undeb Credyd newydd ar gyfer Gogledd Cymru. Ond yn wahanol i fy nghyfeillion blogawl nid ydwyf am annog pobl i gysylltu â'r Undeb i gwyno.

Mudiadau cydweithredol, cyd-gymorth yw'r Undebau Credyd, maent wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth roi cymorth i rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig i reoli eu cyllidebau trwy gynnig benthyciadau fforddiadwy ac annog cynilo.

Mae llawer o lwyddiant yr Undebau Credyd yn perthyn i'r ffaith eu bod yn cael eu cynnal, ar y cyfan, gan wirfoddolwyr sy'n cynnig amser ac arbenigedd i'r achos.

Os am weld Cymreigio'r Undeb newydd yn y gogledd, gai awgrymu bod cefnogwyr y Gymraeg a'r mudiad Undebau Credyd yn cysylltu ag Undeb Credyd Gogledd Cymru, nid er mwyn cwyno, ond er mwyn cynnig cymorth ieithyddol iddynt!

4 comments:

  1. Fel un or rhai oedd yn gyfrifol am sefydlu Undeb Gredyd Heddlu Gogledd Cymru yn 1991 ac hefyd yn ysgrifennydd arni tan ei chyfuno i greu Undeb genedlaethol i'r Heddlu dwi ddim angen pregeth ar wirfoddoli!
    Wyt ti'n trio deud fod yna ddim Cymru Cymraeg yn ymwneud a UG Llechen a Chaledfryn. Hefyd mae nifer o ubdebau credyd yn cyflogi pobol a dim ond y byrddau rheoli sydd yn wirfoddolwyr bellach.

    ReplyDelete
  2. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn dda iawn (neu mi roeddan nhe) am gynhyrchu adnoddau dwyieithog. Diffyg sydd yn agweddau rheini sydd yn rhedeg Undebau Credyd tuag at yr iaith!

    ReplyDelete
  3. Mae'r un peth yn wir am CredCer, undeb credyd Ceredigion, yn anffodus. Mae fy mhartner wedi gwirfoddoli cyfieithu drostyn nhw, ac mae hi wedi wneud eitha lot o hynny, ond yn aml iawn, fyddai neb yn cysylltu â hi cyn iddyn nhw gyhoeddi rhywbeth arall uniaith Saesneg.

    Mi gaeais i'r cyfrif oedd 'da fi gyda nhw yn y diwedd, oherwydd i mi gael llond bol, ond o'n i'n gormod o gachgi ar y pryd i ddweud pam. Y broblem yw eu bod nhw i gyd yn bobl dda, sy'n gweithio am ddim i gyflwyno gwasanaeth gwerthfawr i bobl sy angen yr help ariannol: fel mae Plaid Gwersyllt yn ei ddweud, diffyg yn yr agwedd yw e, nid eu bod nhw'n wrth-Gymraeg. Mae gen i fyfyriwr ar hyn o bryd sy'n gweithio yn eu swyddfa yn Aberteifi, a dw i'n siwr nid fe yw'r unig un sy'n helpu gyda CredCer sy hefyd yn dysgu'r iaith, ond dydyn nhw ddim yn deall bod y gwedd hollol Seisnig maen nhw'n dangos i'r byd yn debyg i droi Cymry i ffwrdd.

    ReplyDelete
  4. 'Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gofyn am wirfoddolwyr i gyfieithu Alwyn - pob dim arall dan haul cofia.

    ReplyDelete