18/03/2011

Polau a Gwirioneddau

Un o'r pethau nad ydwyf yn hoffi am bolau piniwn, yw'r ffaith eu bod yn gallu dylanwadu ar wleidyddiaeth yn ogystal â mesur y tymheredd gwleidyddol.

Ar hyn o bryd mae'r polau piniwn yn awgrymu bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cac, yn colli cefnogwyr rhif y gwlith. Pe bawn i'n hanner feddwl bwrw pleidlais i'r Rhyddfrydwyr ym mis Mai, mae'r polau yn dweud wrthyf mae afradu pleidlais byddai hynny, gwell byddid mynd gyda hanner arall fy meddwl a phleidleisio Llafur (dyweder). Yn hynny o beth mae polau yn gallu bod yn broffwydoliaethau sy'n gwireddu eu darogan eu hunnain (self fulfilling prophecies).

Cyn i ITV Cymru dechrau ar ei chyfres o bolau YouGov misol tua dwy flynedd yn ôl, roedd polau piniwn Cymreig yn andros o brin ac yn uffernol o anghywir.

Chware teg i YouGov roedd ei phôl diweddaraf ar ganlyniad y refferendwm yn agos iawn i'r canlyniad o ran canran y bleidlais IE a Na, er yn bell iawn ohoni o ran faint y bleidlais:

YouGov IE 67% Canlyniad 63.5%
YouGov Na 33% Canlyniad 36.5%
YouGov faint y bleidlais 56% Canlyniad 35.2%

Mae hyn yn awgrymu bod polau Cymreig yn gwella, ond eto dim yn berffaith o bell ffordd. Fel y nodais uchod mae polau perffaith yn gallu effeithio yn andwyol ar wleidyddiaeth, mae polau amherffaith yn gallu bod yn fwy andwyol.

Yn y cyd-estyn yna mae post diweddar ar Political Betting yn hynod ddadlennol!

Dydy pôl ddim yn cael ei gynnal trwy ofyn i fil o bobl sut ydynt am bleidleisio ac yna'n cyhoeddi'r canlyniad noeth. Mae'r polwyr yn gofyn cwestiynau amgen er mwyn pwyso'r canlyniadau. Os yw deg y can't o'r boblogaeth yn ennill mwy na hyn a hyn, ond bod ugain y cant o'r ymatebwyr yn ennill mwy na'r swm priodol, bydd gwerth eu pleidlais yn cael eu pwyso fel hanner pleidlais, er enghraifft.

Mae'r ffigyrau heb eu pwyso, a'r rheswm am eu pwyso ar Political Betting yn achos o fraw i Blaid Cymru. Mae'n debyg mae sawl sy'n darllen y Daily Mirror yw un o'r cwestiynau. Ar ôl ffars y Welsh Mirror yn 1999, prin bydd y Pleidwyr bydd yn cefnogi'r rhecsyn.

Un o'r pethau sydd yn cynyddu pwysau'r Blaid yw diffyg panelwyr sy'n gefnogol o'r Blaid.

Nid ydwyf am geisio gwyro YouGov, ond byddwn yn awgrymu bod angen i lawer mwy o gefnogwyr Plaid Cymru i gofrestru a'r safle yn fuan, a'u bod yn nodi wrth ymuno eu bod yn ddarllenwyr brwd o'r Sun a'r Mirror.

Gellir gwneud cais i ymuno a'r panel trwy glecio YMA

1 comment:

  1. Anonymous8:42 pm

    Wyt ti'n ymweld a maes-e yn awr? Beth am ei roi fan 'ny. Dwi newydd gofrestri

    ReplyDelete