Wedi dychwelyd o fy nhaith i wlad bell mi glywaf fod prosiect Gwynt y Môr i osod 160 o drybini gwynt ar arfordir Llandudno wedi ei basio a bydd y gwaith yn cychwyn cyn pen y flwyddyn nesaf.
Croesawyd y newyddion gan Ieuan Wyn Jones a Cheryl Gillan, a gan nifer o flogwyr Cymreig. Mae'n ddrwg gennyf dorri'r consensws o groeso, rwy'n credu bod y newyddion yn newyddion ddrwg i Gymru.
Nid ydwyf yn gyffredinol wrthwynebus i brosiectau fferm gwynt, rwy'n derbyn bod modd i brosiectau o'r fath dod a bendithion mawr i'r amgylchedd, ond yr wyf hefyd yn deall y gwrthwynebiad i'r prosiect. Gall y sŵn a'r effaith ar drem y môr bod yn niweidiol i bobl leol ac i dwristiaeth, sef asgwrn cefn yr economi lleol. Ni wnaed unrhyw ymchwil i effaith tynnu egni allan o'r gwynt cyn iddi gyrraedd y tir ar yr hinsawdd leol.
Wrth gwrs mae'r ddadl bod holl fanteision y prosiect yn curo ei hanfanteision, o gael eu mesur yn y glorian, yn un dechau, ac un rwy'n dueddol o gytuno a hi. Ond megis yn achos dŵr ac achos glo bydd Cymru yn goddef yr holl anfanteision tra bo eraill yn derbyn y bendithion. Bydd Cymru yn derbyn 1% pitw o werth economaidd Gwynt y Môr tra'n ddioddef 100% o agweddau negyddol y prosiect.
Yn hytrach na chroesawu prosiect o'r fath byddwn yn disgwyl i blaid genedlaethol, megis Plaid Cymru, i fod ar dân yn protestio yn erbyn enghraifft arall o adnoddau naturiol ein gwlad yn cael eu hecsploetio er bydd eraill!
Bydd y safle ymhellach o'r tir nag ydy'r safleoedd oddi ar arfordir y Gogledd ar hyn o bryd. Fel rhywun sy'n cerdded ar hyd y traeth yn y Rhyl bron bob dydd pan mae'r traeth yn brysur ac yn dawel gallai'm dweud i mi erioed glywed unrhyw swn dros swn y tonau (a'r traffig) gan y tyrbeini hyn. Yr unig bryder sydd gen i yw'r ffaith nad oes mwy o elw i Gymru - cwmniau oddi ffwrdd sy'n eu creu, cwmni oddi ffwrdd sy'n eu gosod a cwmni oddi ffwrdd bydd yn darparu'r ynni.
ReplyDeleteByswn i'n gwrthwynebu'r peth ar sail y celwydd y tu ôl i'r peth.
ReplyDeleteYn creu digon o egni i bweru 400,000 o dai? Celwydd. Golyga hyn na dim ond 6 Amp o gerrynt sydd i bob dŷ. Ni fydd 6 Amp yn ddigon i bweru tân trydan, popty, gwresogydd troch, tegell etc. Cei di bweru radio a rhai mathau o deledu.
Y gwirionedd yw, os byse'r union yr un faint o bres yn cael ei wario ar gadwraeth egni, byse'r manteision 'gwyrdd' cymaint mwy. Ma hyd yn oed nPower yn cytuno â hyn, fel yr oedd rhai iddynt gan gwestiwn ar y sbot!
Efo'r agwedd o sŵn, tydw i heb glywed dim byd, ond pan yr oeddent yn adeiladu rhai North Hoyle, dwi yn cofio gallu clywed y gweithwyr wrthi'n y nos yn curo etc. a hyd yn oed siarad!
Yr unig bobol sy'n elwa o'r prosiect yw'r Almaenwyr.