Mae eraill wedi bod wrthi'n ceisio proffwydo canlyniadau etholiad mis Mai, yr wyf am ymuno yn yr hwyl.
Yr ymgeiswyr annibynnol. Colli 1 (1)
Rwy'n rhagweld bydd John Mareck yn gadw ei sedd yn Wrecsam ond bydd Trish Law yn colli ym Mlaenau Gwent. Prin bydd obeithion Ron Davies yng Nghaerffili a Llais y Bobl yn Nhorfaen.
Mae pobl sydd yn hanu o Wlad Pwyl yn ddigon newydd i'r cysyniad o ddemocratiaeth i weld pleidleisio fel dyletswydd bwysig. Mae yna gymuned gref o Bwyliaid yn Wrecsam ac mae Mareck wedi bod yn cwrsio’i bleidlais gydag arddeliad. Bydd y bleidlais Bwylaidd yn ddigon i'w achub wrth groen ei din. Mae Trish Law wedi bod yn AC digon dderbyniol i'w hetholaeth, ond bydd dau ffactor yn ei herbyn ym mis Mai. Y cyntaf yw bod Pleidwyr, Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr wedi benthig pleidlais iddi hi a'i diweddar ŵr ar ddau achlysur a byddent yn awyddus i ddychwelyd i'w hen deyrngarwch bellach. Yn ail, ac yn bwysicach, mae'r cyhoeddusrwydd gwael sydd wedi bod i weithgarwch siomedig Dai Davies yn San Steffan yn mynd i yrru rhai o gefnogwyr Mrs Law yn ôl i Lafur.
Y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Ennill 2 (8)
Rwy'n methu gweld y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn ennill unrhyw sedd etholaeth ychwanegol. Wedi helyntion yr AS lleol mae yna berygl y byddant yn colli Maldwyn i'r Ceidwadwyr, ond ar y cyfan rwy'n credu bydd Mick Bates yn crafu ei ffordd yn ôl i'r Senedd o drwch blewyn.
Mae gan y Lib Dems rhywfaint o obaith cynyddu eu nifer o aelodau rhestr o bedwar aelod ychwanegol os ydy'r Ceidwadwyr yn wneud yn dda yn yr etholaethau, ond yr wyf am gyfaddawdu a rhoi dau aelod rhestr ychwanegol iddynt
Y Blaid Geidwadol. Ennill 1 (12)
Dyma'r blaid anoddaf i ddarogan eu canlyniad. Ar hyn o bryd mae 10 o'r 11 sedd Geidwadol yn seddi rhestr. Mae'n ddiamheuaeth bydd llawer mwy na'u un bresennol yn cipio seddi etholaeth ym mis Mai, yr anhawster yw darogan sut effaith bydd hyn yn cael ar y seddi rhestr.
O wneud yn eithriadol dda mae naw sedd etholaeth o fewn eu gafael ac o'u hennill gallasant colli pedwar sedd rhestr, sydd yn rhoi cyfanswm o ddim ond 13 sedd iddynt. Bydd ennill wyth sedd etholaeth ychwanegol i'r Ceidwadwyr yn ganlyniad gwych i'r blaid, ond bydd gwychder y canlyniad ddim yn cael ei hadlewyrchu yn nifer eu seddi.
Rwy'n amau, ta waeth na fydd y Ceidwadwyr yn ennill pob un o'u seddi targed, bydd ambell un yn cael ei golli o drwch blewyn, ond bydd y Ceidwadwyr yn colli o leiaf dwy sedd rhestr i'r Blaid Lafur. Rwy'n darogan noson "academaidd" wych i'r Ceidwadwyr ar noson y cyfrif, ond "ymarferol" gwael efo dim ond un sedd ychwanegol.
Plaid Cymru Ennill 7 (19)
Dwi ddim yn rhagweld y Blaid yn colli sedd etholaethol (er mae cael a chael bydd hi i gadw Môn rhag y Torïaid). Bydd yn bosibl i'r Blaid ennill Aberconwy, ond rwy'n dueddol o gredu mai'r Torïaid bydd yn fuddugol yno; gwobr gysur bydd cael Wigley o'r rhestr yn lle Gareth Jones o'r etholaeth Y Blaid bydd yn curo yn Llanelli, ond fel yn achos 1999 bydd Llafur yn enill sedd rhestr a'r Ceidwadwtr yn colli un. Yn gyffredinol Plaid Cymru ydy'r unig blaid sydd a'r gallu i gynyddu nifer o'i aelodau rhestr a'i haelodau etholaethol, ac rwy'n rhagweld mae dyma fydd yn digwydd. Bydd Cwm Cynnon a Chaerffili yn syrthio i'r Blaid ac o leiaf dwy sedd arall yn y cymoedd diwydiannol, ond bydd y Blaid hefyd yn ennill dwy sedd rhestr ychwanegol. Cynnydd o ddeuddeg i pedwar ar bymtheg i'r Blaid felly.
Y Blaid Lafur Colli 9 (20)
Mi fydd yn noson wael i'r Blaid Lafur ond gan fy mod eisoes wedi darogan pwy fydd yn enill 40 o'r seddi, dim ond swm sydd ei agen ar gyfer y Blaid Lafur 60-40 = 20
Dyma broffwydoliaeth yr HRF:
Llafur 20; Plaid Cymru 19; Ceidwadwyr 12; Rhydd Dem 8; Annibynwyr 1.
English version of this post:Miserable Old Fart: Assembly Election Predictions
Meddwl dy fod yn llawer rhy optimistig am obeithion y Blaid.
ReplyDeleteDydw i methu gweld nhw'n ennill un sedd yn y Cymoedd a does dim arwydd o don tuag at y Blaid chwaith. A dweud y gwir, dwi ddim yn gweld Llafur yn colli mwy nag un neu ddau sedd ar y mwyaf. Yr un peth ag o'r blaen fydd hi gyda clymblaid rhwng Llafur a LibDems.
Un senario arall - Llafur yn colli 3 neu 4 sedd a chlymblaid Enfys gyda Dafydd El yn Brif Weinidog Cymru.
Yn anffodus fydd Wigley ddim yn y Senedd. A dweud y gwir, os nad oedd y Blaid yn barod i ailfeddwl eu polisi hurt of fenywod ar dop y thestr er mwync ael ased mor fawr a Wigley i fewn mae'n codi cwestiwn mawr sut fyda nhw petai nhw'n gorfod bod mewn grym.
Fy narogan i: RhM nol fel PW. Ail opsiwn, DET yn PW - ond ddigwyddith hynny ddim achos fod well gan y Blaid weld y Blaid Lafur yn rheoli Cymru am byth yn hytrach na chydweithio a Cheidwadwyr. Hurt.
dafydd jones