Fel mae'r gyfradd pleidleisio yn syrthio mae perfformiad y Blaid yn gwella
Rhan o lwyddiant Plaid Cymru yn etholiadau cyntaf y Cynulliad oedd cael y bleidlais craidd allan mewn etholiad lle na fu llawer yn pleidleisio!
Rhan o fethiant Plaid Cymru yn ail etholiad y Cynulliad, a phob etholiad ers hynny, bu ceisio manteisio ar y ffaith bod Pleidleiswyr Plaid Cymru yn fwy tebygol o bleidleisio gan anwybyddu'r angen i ddwyn pleidleiswyr i'r achos.
Mae'r Blaid wedi gweithredu polisi o "taw bia hi" ers 1999. Yn ystod etholiad Cynulliad 2003, rhoddais hen boster o'r etholiad blaenorol yn fy ffenest i gefnogi Gareth Jones, cefais gŵys gan aelodau'r Blaid i’w dynnu i lawr gan ei fod yn "hybu etholiad" i etholwyr nad oeddynt yn debygol o bleidleisio / yn debygol o bleidleisio i blaid arall
Mae na rywbeth gyffredinol anghynnes mewn ymgyrch etholiadol sy'n bwriadol ceisio crebachu nifer y pleidleiswyr, mae na rhywbeth llawer mwy ffiaidd mewn etholiad sydd ddim yn lledaenu'r achos cenedlaethol er mwyn cynyddu'r gefnogaeth, gan ddiystyru canlyniad!
Cafodd Plaid Cymru ei canlyniadau gorau erioed yn y 1960au ar 70au, pan oedd y Blaid yn un swnllyd ar y diawl, yn styrbio pawb a phopeth efo cyrn pen car, yn cyhoeddi negeseuon nad oedd y cyfryngau prif lif am eu crybwyll!
Os am lwyddo yn etholiad Ewrop, Etholiad San Steffan, Etholiad y Bae, gwell na mud obeithio am dyrnowt isel yw bloeddio, mewn pob modd posibl ein cefnogaeth i achos ryddid ein gwlad a Phlaid Cymru.
Wedi'r cwbl mae'r ACHOS yn BWYSICACH na'r bleidlais! Ac, ar y cyfan mae'r Blaid wedi llwyddo mwy trwy floeddio na chau cêg!