Hydref 7, 1966Dau Ddeddf Iaith, Mesur Iaith, statws swyddogol, Cynulliad Cenedlaethol, Bwrdd Iaith, Comisiynydd Iaith a 46 o flynyddoedd yn niweddarach, dim ond enw'r ddiffynnydd ac un neu ddau o eiriau eraill sydd rhaid ei newid er mwyn troi erthygl 1966 O. M. i erthygl sy'n ymdrin a charchariad Jamie Bevan Dydd Llun diwethaf. Er gwaethaf yr holl hawliau y mae'r Gymraeg wedi ei hennill dros y blynyddoedd mae'n warthus bod rhai pethau yn ymddangos yr un fath o hyd.
GWARTH — Cymdeithas yr Iaith
Credaf ei bod yn warth y modd y trinnir rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Nid af ati’n awr i restru’r cosbau a ddodwyd ar bawb ohonynt, ond yr enghraifft ddiweddaraf yw gwaith ynadon Pontypridd yn dedfrydu i ddau fis o garchar Neil Jenkins, athro ysgol ym Merthyr Tudful. Mae’n wir fod swm y dirwyon y gwrthyd ef eu talu wedi codi i £22 /10/0. Ond dealler nad gwrthod talu fel y cyfryw y mae ef, canys talai (megis y gwnâi eraill) pe câi ffurflen treth modur yn Gymraeg, a’i wysio yn yr un iaith. Y mae’r gosb yn ffyrnig ac anghyfiawn. Dan yr amgylchiadau ffars yw uniaethu cyfiawnder a chyfraith gwlad. Cofier nad yn erbyn y gyfraith y mae protest y rhai ifainc hyn ond yn erbyn y modd y gweinyddir hi. Aeth heibio bron ganrif ers pan ymgyndynnodd bachgen o Lanuwchllyn rhag y "Welsh Not" yn yr ysgol. Meddai Syr O. M. Edwards: "Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y dôi diwedd yr ysgol." Bellach aeth cansen y Welsh Not o’r ysgolion i’r llysoedd, a dyma’r driniaeth ffyrnig, ffiaidd, ffôl, a roddir i Gymro yn ei wlad ei hun am geisio mynnu parch i’w famiaith. Mae hyn o anghyfiawnder yn ormod i’w oddef, ac mae’r awdurdodau yn gwahodd terfysg a thrwbl.
15/08/2012
Plus ça change, plus c'est la même chose
Mi fûm yn chwilota drwy ysgrifau'r diweddar Parch O. M. Lloyd yn gynharach heno a dod ar draws y cofnod canlynol:
Subscribe to:
Posts (Atom)