03/01/2012

Cwestiwn pellach am e-lyfrau

Rwy'n ddiolchgar i Siôn, Ifan Morgan Jones a libalyson am eu hymateb i fy mhost blaenorol parthed e-lyfrau.

Mae tua ugain o e-lyfrau Cymraeg ar gael o'r Lolfa a chwaneg ar y gweill.

Diolch i'r Lolfa am wneud eu e-lyfrau yn rhatach na'r fersiynau coed meirwon! Sioc i mi oedd canfod bod yn rhatach prynu llyfr yn Tesco a W. H. Smith na lawr lwytho un o'u gwefan ar gyfer fy e-darllenydd. Ond efo pob diolch a pharch i'r Lolfa prin fod ugain o lyfrau yn namyn piso dryw yn y môr o gymharu â'r cannoedd o lyfrau sydd yn ei hol-gatalog ac o dan ei hawlfraint sydd allan o brint bellach! Dyma'r llyfrau hoffwn i weld ar gael ar gyfer fy e-narllenydd!

Nododd libalyson prosiect Llyfrgell o'r Gorffennol casgliad ar-lein o lyfrau o ddiddordeb diwylliannol cenedlaethol sydd allan o brint ers amser maith, ac sy'n annhebygol o gael eu hailargraffu. Syniad gwych sydd wedi ei hariannu gan Llywodraeth Cymru, ond ers wyth mlynedd bellach, hyd y gwelaf, wedi llwyddo i ddigido dim ond deg llyfr Cymraeg a llai byth o rai Eingl-Gymreig!

Yr wyf wedi ceisio rhoi llyfrau Cymraeg a Chymreig sydd allan o brint a hawlfraint ar lein, ond mewn HTML yn hytrach nag ar ffurf e-lyfr:

Cerddi'r Bugail,
Hanes Methodistiaeth Corris
The Autobiography of a Supertramp
A Story of Two Parishes Dolgelley & Llanelltyd

ac ati!

Yr wyf yn berchen ar lyfrau megis nofelau Daniel Owen, Geiriadur Charles, Cofiant John Jones Talsarn a chlasuron eraill sydd, am wn i, ym mhell allan o hawlfraint. Os nad yw ein llyfrgelloedd, y Cyngor Llyfrau a chyrff llywodraethol eraill am dderbyn y cyfrifoldeb o wneud llên Cymru ar gael ar lein, sut mae modd i mi cyfrannu'r llyfrau hoffwn i'w rhannu?

Sut mae creu e-lyfr, sut mae creu argaeledd ar ei chyfer wedi ei chreu?

10 comments:

  1. Sut mae creu e-lyfr, sut mae creu argaeledd ar ei chyfer wedi ei chreu?

    Carl Morris yw'r boi i'w holi, gan ei fod eisoes wedi creu ferswin electoneg (PDF a TXT) o'r Welsh Extremist gan Ned Thomas. Mae ganddo lot o bethau diddorol i'w dweud am e-lyfrau.

    Ymddengys y bydd mwy o lyfrau Cymraeg ar gael ar ffurf e-lyfrau yn y dyfodol, drwy gwales.com, er efallai ddim ar y Kindle yn anffodus oherwydd y fformat sy'n cael ei awgrymu.

    Mae yn Gymraeg am e-lyfrau ar haciaith.com a drwy'r Blogiadur.

    Ffynhonell arall o hen lyfrau Cymraeg yma:
    http://www.gutenberg.org/browse/languages/cy (rhain wedi cael ei sganio yn UDA, a dim modd eu golygu a gwirio y gwallau hyd y gwela i, ond dal reit darllenadwy)
    http://www.testunau.org/testunau/outline.htm

    ReplyDelete
  2. Anonymous2:58 pm

    "Sut mae creu e-lyfr, sut mae creu argaeledd ar ei chyfer wedi ei chreu?"

    Dych chi'n gallu defynddio gwasanaeth fel 'Smashwords' http://www.smashwords.com/ - rhowch testun, clawr, ayyb i'r wefan, wneud pethau, a wedyn mae e-llyfr yn barod mewn sawl formats, yn cynwys rhwybeth addas i Kindle, dw i'n credu. Mae pobl yn gallu prynu e-lyfrau o sawl ffynnon wahanol fel Amazon, Barnes&Noble, ayyb.

    ReplyDelete
  3. Mae'n eithaf hawdd trawsnewid unrhyw ffeil yn ffeil y mae Kindle yn gallu ei ddarllen. A dweud y gwir dw i wedi mynd i'r arfer o drosglwyddo unrhywbeth ydw i'n ei ysgrifennu i'r Kindle i weld sut y mae'n edrych 'ar bapur'. Felly os all rhywun ddarparu ffeil digidol a gampweithiau'r genedl sy mas o hawlfraint, does dim yn fy atal i na neb arall rhag creu gwefan i'w cynnal nhw i gyd... *twiddles moustache*

    Dim ond casgliad bach o lyfrau Cymraeg sydd ar gael ar y Kindle ar hyn o bryd gan fod Amazon wedi bod yn amharod i ddechrau i dderbyn llyfrau Cymraeg. Maen nhw wedi llacio'r polisi hwnnw, jesd cyn y Nadolig. Dros y misoedd/blynyddoedd nesaf dw i'n siwr y daw llawer mwy o lyfrau ar gael.

    ReplyDelete
  4. Fel mae Ifan yn nodi, os ydy'r ffeil gen ti, mater bach iawn ydi ei drosglwyddo i fformat e-lyfr neu dudalen HTML. Gyda'r hen (hen) glasuron, byddai angen sganio tudalennau'r llyfr a defnyddio meddalwedd darllenydd OCR. Mae modd cael amryw o'r rhain am ddim, ond mae'n waith llafurus iawn dychmyga i.

    ReplyDelete
  5. @Rhys Wynne

    Digwydd bod mae gen i ddyfais sy'n effeithiol iawn wrth sganio tudalennau unigol o lyfr, ond fel wyt ti'n dweud fe fyddai yn cymryd oriau maith i sganio llyfr cyfan. Ond gwerth ei wneud yn achos rhai o gampweithiau mawr y genedl amwn i!

    ReplyDelete
  6. O ran OCR dydy sganio llyfrau gweddol hir ddim yn "anodd", mae'n jobyn weddol ddiflas ond gellir sganio llyfr o 500 tudalen mewn awr neu ddwy ar sganiwr eithaf cyffredin. Y gwaith hirfaith yw gwirio’r tudalennau gyda'r gwreiddiol. Fel y nodais uchod y mae'n gwaith yr wyf wedi ei wneud ar sawl achlysur ar gyfer fy ngwefannau hanes lleol / teuluol.

    Nid ydwyf yn chwilio am dal am sicrhau bod hen lyfrau Cymraeg a Chymreig ar gael, dim ond sicrhau eu hargaeledd - rwy’n ddigon bodlon cyflwyno fy sganiau i Prosiect Gutenberg ond rwy'n methu cael hyd i fanylion ar sut i wneud hynny nac ar ba ffurf.

    Y peth arall sydd yn angenrheidiol, wrth gwrs, yw gwybod pwy arall sy'n gwneud be. Mi fyddai'n artaith gweithio am ddeufis i gynhyrchu pdf/ ePub / testun o Enoch Hughes (er enghraifft) dim ond i ganfod bod rhywun arall wedi cyflwyno'r gwaith i'r byd digidol hanner awr cyn imi ddarfod a'r gwaith.

    ReplyDelete
  7. Anonymous3:33 am

    Cyn copio llyfrau ar gyfer y we neu ar gyfer e-lyfrau, mae'n bwysig nodi bod "hawlfraint" yn rhedeg mas 70 mlynedd ar ol i awdur marw – so mae lot o lyfrau hen, hen, hen iawn dal dan hawlfraint.

    Rhaid bod awdyr wedi marw cyn 1941, siawns bod awdyr wedi geni cyn 1861 a dal dan hawlfraint!

    ReplyDelete
  8. Anonymous11:48 pm

    "Ymddengys y bydd mwy o lyfrau Cymraeg ar gael ar ffurf e-lyfrau yn y dyfodol, drwy gwales.com, er efallai ddim ar y Kindle yn anffodus oherwydd y fformat sy'n cael ei awgrymu."

    Bai Amazon ydy hyn. Epub yw'r fformat gorau o bell ffordd. Dim ond y Kindle sy'n gallu darllen llyfrau mewn fformat Amazon (.azw), a dim ond y Kindle sy'n gorfodi ei ddarllenwyr drawsnewid o epub i .azw

    'Sa gwales ond yn cynnig llyfrau yn fformat .azw, mi fydden nhw'n cau allan lot o bobl sy'n defnyddio e-ddarllenwyr eraill (megis Sony, Nook, Kobo, Bebook, iRiver ayyb). Epub yw'r dewis cywir.

    ReplyDelete
  9. Anonymous11:00 am

    Mae Mobi yn fformat da hefyd a gall Kindle a phob darllenydd ei ddefnyddio.

    Mae meddalwedd Calibre - E Book Management - am ddim ac yn hawdd ei ddefnyddio. Gall drawsnewid dogfen Word i PDF - MOBI - Epub ac ati ac ati ac ati

    ReplyDelete
  10. rhai e-lyfrau cymraeg ar gael ar - www.cromen.co.uk

    ReplyDelete