15/05/2009

Darogan Pleidlais Ewrop

Mae'r Hogyn o Rachub wedi gwneud cynnig arni. Mae Blog Menai wedi crybwyll y pwnc ond (hyd yn hyn) heb roi ei ben ar y bloc. Dyma fy ymgais i.

Y peth cyntaf i'w ddweud parthed Etholaeth Ewropeaidd Cymru yw bod y nifer o aelodau yr ydym yn eu hethol yn rhy fychan ar gyfer y system pleidleisio sydd yn cael ei ddefnyddio yn y DU. Efo dim ond 4 aelod mae disodli aelod yn anodd. Mae disodli rhagor nag un aelod bron yn amhosibl. Mae gan ambell i etholaeth Seisnig saith, wyth neu ddeg o seddi. Yn yr etholaethau hyn bydd cryn ymgiprys am y 2, 3, 4 sedd olaf.

Yng Nghymru dim ond un sedd o'r pedwar sydd yn y fantol, sef un y bedwerydd safle. Y Blaid Lafur sydd yn dal y sedd honno ar hyn o bryd. Os nad yw'r Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru yn dal eu gafael ar un sedd yr un bydd daeargryn o'r radd uchaf ar Raddfa Richter Gwleidyddol Cymru wedi digwydd.

Bydd angen daeargryn ar raddfa lai, ond daeargryn ta waeth, i Lafur colli eu hail sedd hefyd. Er mwyn i Blaid Cymru neu'r Blaid Geidwadol ennill y sedd bydd rhaid i'r naill Blaid neu'r llall ennill mwy o bleidleisiau na'r Blaid Lafur. Dydy'r Blaid Lafur heb ddod yn ail yng ngwleidyddiaeth Cymru ers darfod dyddiau Lloyd George. Glaslanc oedd LLG y tro diwethaf i'r Ceidwadwyr dod i'r frig mewn etholiad Cymreig!

Yn 2004 Roedd gan y Blaid Lafur 127 mil yn rhagor o bleidleisiau na 'r Blaid Geidwadol a 138 mil o bleidleisiau mwy nag oedd gan Blaid Cymru - bwlch mawr i'w cau heb son am ei oresgyn

Cyn ystyried y posibilrwydd yna rhaid edrych ar obeithion plaid arall i gipio'r bedwaredd sedd.

Yn etholiad 2004, pe bai gan Gymru pumed sedd, byddai UKIP wedi ei gipio (gan Blaid Cymru!). Ond roedd UKIP yn parhau i fod dros 50,000 o bleidleisiau y tu ôl i addasiad pleidlais ail sedd Llafur. 500 pleidlais oedd rhwng UKIP a'r Rhyddfrydwyr ac roedd y Ceidwadwyr a'r Blaid ar eu sodlau am y bumed safle.

Dydy 50 mil ddim yn llawer dros Gymru Gyfan. Ond i UKIP neu'r Rhyddfrydwyr ennill y sedd mae'n rhaid iddynt dwyn y bleidlais yma yn unionsyth oddi wrth Lafur. Bydd dwyn pleidleisiau Ceidwadol neu Genedlaethol dim ond yn cryfhau gafael Llafur ar y bedwaredd sedd.

Mi fydd hi bron yn amhosib i UKIP na'r Rhyddfrydwyr ennill y bedwerydd safle os yw Llafur yn dod i frig y pôl eto.

Ond camarweiniol braidd yw cymharu 2009 hefo 2004. Roedd pleidlais 2004 yng Nghymru yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau cyngor sir, gan hynny gwnaeth llawer fwy o bobl pleidleisio yn 2004 na'r sawl a bleidleisiodd ym 1999. 41% yn 2004 o gymharu â 29% ym 1999. Hyd yn oed efo llawer mwy o bobl yn troi allan collodd y Blaid cryn nifer o Bleidleisiau rhwng 1999 (blwyddyn dda) a 2004 (blwyddyn wael uffernol) tra bod pob un blaid arall wedi cynyddu niferoedd eu pleidleisiau. Teg dweud, felly, bod y 160 mil a bleidleisiodd i'r Blaid yn 2004 yn bleidlais graidd gadarn. Pleidlais gall y Blaid dibynnu arni boed glaw neu hindda eleni.

O ystyried yr hinsawdd wleidyddol bresennol rwy'n disgwyl i lawer llai na 29% i bleidleisio eleni. Y Blaid Lafur bydd yn colli fwyaf yng Nghymru o bobl yn sefyll cartref. Bydd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn dioddef o'r bleidlais dim diddordeb hefyd. Bydd gwerth pleidlais craidd y Blaid yn uwch o lawer nag ydoedd yn 2004. Ond dim yn ddigon uchel i gipio'r bedwaredd sedd. Bydd pleidlais UKIP hefyd yn aros yn ei hunfan o ran niferoedd ond gwerth llawer mwy fel canran.

Dyma'r ddarogan.

1 Plaid Cymru = 1 sedd
2 Llafur = 1 sedd
3 Ceidwadwyr = 1 sedd
4 UKIP = 1 sedd
5 Rhydd Dem = 0 sedd
6 BNP = digon uchel i beri cywilydd
7 Gwyrdd = 0 sedd
Gweddill = di-nod

2 comments:

  1. Er gwaetha'r dadansoddi rwyt ti'n ddyn dewr i ddarogan y bydd UKIP yn ennill pedwaredd sedd Cymru! Welwn ni ymhen dim!

    ReplyDelete
  2. Anonymous8:59 pm

    Credaf y bydd Llafur yn syrthio o'r brig ond dwi'n cael cryn drafferth (er fy mod yn canfasio'n ddyddiol bron bellach) i ddarogan a fydd y Ceidwadwyr neu PC yn symud i'r brig. Yr wyf, serch hynny, o'r farn y gall cipio'r wobr o ail sedd fod yn gofyn gormod i bob un o'r dair prif blaid yng Nghymru ac fe all UKIP wasgu mewn a hynny ar draul y Rhyddfrydwyr. Felly cytuno efo dy ddosbarthiad seddi ond amheus os fydd PC yn llwyddo i fod yn gyntaf.

    ReplyDelete