08/04/2009

Neges Uniaith

Mae Dyfrig wedi ysgrifennu post dwyieithog ar ei flog answyddogol am ei brofiad yn y drafodaeth am flogio yng Nghynhadledd y Blaid. Y rheswm pam ei fod yn ddwyieithog yn hytrach nag yn y Gymraeg yn unig yn ôl ei arfer yw oherwydd

fe ddywedodd Iain Dale ei fod wedi mynd i edrych ar flogiau ei gyd-banelwyr i gyd cyn dydd gwener, ac ei fod yn siomedig nad oedd wedi gallu deall fy negeseuon i. Felly, yn arbennig ar gyfer Iain, dyma neges ddwyieithog."


Yn gyntaf, Dyfrig, be di'r ots os ydy Iain Dale yn ddeall dy gyfraniadau neu ddim? Hyd yn oed pe bai ti wedi ysgrifennu dy holl byst yn Saesneg rwy'n amau na fyddai Mr Dale a'i debyg yn rhan o dy gynulleidfa targed ta waeth.

Pan ddechreues i flogio mi drïais ysgrifennu pyst dwyieithog mewn un lle, ond roedd o'n edrych yn flêr ac yn drwsgl. A dim ond pobl Cymraeg eu hiaith oedd yn eu darllen - roedd y di Gymraeg ddim yn hoffi sgrolio i lawr at y post Saesneg!

Rwy'n cael anhawster efo blogiau dwyieithog fel un Gwilym Euros. Rwy'n ansicr os dylid ymateb yn y Gymraeg, yn y Saesneg neu yn ddwyieithog. Mae'n anodd cael unrhyw fath o drafodaeth ystwyth ar bost dwyieithog.

Mi ymgeisiais am gyfnod i gadw dwy flog lle'r oedd yr un post ar y ddwy flog yn gyfieithiadau o'i gilydd. Ond fuan y rhois i'r gorau i'r arferiad yna hefyd. Rwy’n brin o sgiliau'r cyfieithydd proffesiynol ac yr oeddwn yn teimlo bod fy nghyfieithiadau o'r naill iaith neu'r llall yn brennaidd. Bellach rwy'n cadw dwy flog lled annibynnol o'i gilydd. Er fy mod yn dal i ysgrifennu ar yr un pwnc ar y ddwy yn achlysurol bydd y pyst yn gyfansoddiadau unigol. Y drwg efo'r arferiad yma (yn fy achos i, o leiaf) yw fy mod bellach wedi ysgrifennu llawer mwy o byst yn y Saesneg nag ydwyf yn y Gymraeg. Yn bennaf gan mae'r Saesneg yw fy iaith gyntaf a fy mod yn ei chael hi'n haws i ysgrifennu yn yr iaith honno. Ond mae'n rhannol oherwydd y temtasiwn, yn arbennig pan fo amser yn brin, i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa fwyaf yn unig. (Ac mae fy nghynulleidfa Saesneg bron i 2000% yn uwch na'r un Gymraeg. Mae deud hynny yn gwneud imi deimlo fel aelod o'r CBI yn gwneud esgusodion!)

Ar ddiwedd y dydd rhaid derbyn mae rhywbeth unigol, egotistaidd, hyd yn oed yw blogio. A'r polisi gorau yw gwneud yr hyn yr wyt ti yn bersonol hapus yn ei wneud ar dy flog dy hun a naw wfft i bawb arall!

6 comments:

  1. Alwyn,
    Ti, Dyfrig a Heledd yn codi nifer o bwyntiau diddorol a dilys, nai ddim mynd ar eu hol i gyd.
    Dwi yn derbyn be ti'n ddeud am flog dwyieithog fel un fi serch hynny, fy mhrif rheswm i am flogio ydi cadw mewn cysylltiad efo etholwyr fy Ward.
    Mi oedd cyfeiriad y blog yn ymddangos ar fy nhaflen etholiadol ac bydd yn ymddangos eto ar yr adroddiad blynyddol fyddai yn dosbarthu i bob ty yn y Ward yn ystod y mis nesaf.
    Gwn drwy fy nghymorthfa, negeseuon e-byst a sgyrsiau ar y stryd neu yn y siop, neu dafarn lleol bod amryw o etholwyr o fewn fy Ward yn darllen y blog(Cymru Cymraeg, di-gymraeg a mewn fydwyr).
    Mae fy nghyd aelodau ar Cyngor Gwynedd yn ei ddarllen, y Wasg ac ambell i granc...ond yn y bon ar gyfer yr etholwyr mae fy mlog i.

    ReplyDelete
  2. Gwneud eithriad penodol ar gyfer Iain Dale wnes i, a hynny oherwydd mod i wedi ei gyfarfod yn y gynhadledd. Does gen i ddim bwriad blogio yn ddwy-ieithog. Serch hynny, dwi'n deall yn iawn yr awydd i flogio yn Saesneg, gan bod pawb yn awyddus i'w cyfraniadau gael eu darllen gan y gynulleidfa ehangaf bosib. Ond gan mae dim ond amser i ysgrifennu un blog (a hynny yn bur anaml) sydd gen i, dwi'n teimlo cyfrifoldeb i roi blaenoriaeth i'r Gymraeg.

    ReplyDelete
  3. Anonymous8:51 pm

    Dw'i'n blogio yn amlieithog ar simondyda.com, ond nid fel rheol o fewn yr un blogiad.

    ReplyDelete
  4. Simon,
    Newydd edrych ar dy flog....impressive iawn...dwi'n stryglo mewn dwy iaith!

    ReplyDelete
  5. Mae fy nghyd aelodau ar Cyngor Gwynedd yn ei ddarllen, y Wasg ac ambell i granc...ond yn y bon ar gyfer yr etholwyr mae fy mlog i.

    Siwr fy mod i yn y categori ambell i granc!!!

    ReplyDelete
  6. Dim cweit Alwyn!...hen efallai? (HRF) cranc?...hmmm dwi'm yn siwr? :-))))

    ReplyDelete