08/11/2008

Hen Rech Ryngwladol!

Mae'r mwyafrif (86%) o'r bobl alluog a deallus sydd yn picio draw i'r blog 'ma i ddarllen fy mherlau o ddoethineb yn dod o'r DU. Ond o wirio fy ystadegau cefais fy syfrdanu o weld bod pobl o bob parth o'r byd yn pigo draw yn achlysurol.

Yn ystod y mis diwethaf daeth ymwelwyr o'r UDA, Sbaen, Canada (diolch Linda), Ffrainc, Macedonia, Sweden, Yr India, Colombia, Yr Almaen, Mecsico, Brasil, Awstralia, Seland Newydd, Twrci, Yr Iwerddon, Gwlad Belg, Yr Ariannin, Gwlad Thai, Saudi Arabia, De'r Affrig, Malasia, Gwlad Pwyl, Latfia, Portiwgal, Yr Eidal, Gwlad Groeg, Hwngari, Awstria, Cyprys, Norwy, Yr Aifft, Japan, Israel, Rwsia a'r Swistir.

Gorau Cymro, Cymro oddi cartref. Diwcs, mae'n ymddangos bod blog yr Hen Rech yn gwneud mwy i hybu cytgord rhyngwladol na'r Cenhedloedd Unedig!

2 comments:

  1. Anonymous3:32 pm

    Cofion cynnes o Wisconsin unwaith eto, Alwyn! Y mae eich blog wastad yn un diddorol iawn.

    ReplyDelete
  2. Mi ges i sioc o weld rhywbeth tebyg yn ystadegau i - ond tra fod rhai yn ymwelwyr go-iawn a rhai wedi stymblo draw wrth chwilio am rywbeth fel Obama neu Carla Brunei mi oedd un neu ddau ohonynt yn ddim mwy na cyfrifiaduron yn chwilio trwy'r we yn awtomatig.

    ReplyDelete