25/10/2008

Enw Go Iawn ac enw ar Flog.

Tua 1974 cefais wahoddiad i wneud sylw 30 eiliad ar raglen cerddoriaeth gyfoes gan HTV.

Gofynnwyd imi be oedd fy enw?

Alwyn Humphreys, meddwn, yn gwbl di niwed!

Na! Medda'r cyfarwyddwr, mewn panic llwyr, mae Alwyn Humphreys yn enw rhy bwysig ym myd cerddoriaeth go iawn - problemau enllib, rhaid i'r hogyn dewis enw arall.

Be di enw dy Dad? Gofynnodd Arfon Haines.

Hugh, meddwn i !

Alwyn ap Huw wyt ti ar y rhaglen medda fo. Ac Alwyn ap Huw yr wyf wedi bod, yn gyhoeddus, ers hynny! Ffug enw - David Alwyn Humphreys ydwyf go iawn, o hyd, wrth gwrs. Mrs Humphreys ydy'r wraig a Humphreys ydy cyfenwau'r plantos.

Ond y ffug enw sydd yn dweud mai fi di fi ac nid myfi yw arweinydd y côr!

Y Peth pwysicaf yw, mae trwy fy "ffug" enw yr wyf yn cael fy adnabod fel y fi go iawn, y ffug enw sydd yn dweud mai fi yw "fi" yn hytrach na dyn y corau.

Dyma paham yr wyf wedi fy nrysu'n llwyr parthed y dadleuon am onestrwydd enwau ar flogiau!

5 comments:

  1. Ti'n meddwl bod boi'r Waun yn cael ei eni gyda enw fel Nic Dafis? Wnes i newid fy enw ar y we oherwydd effaith Google, ac am sbel bach o'n i'n chwarae gyda'r syniad o fod yn "Nic ap Mihangel". Ond gan fod nhad yn ddi-Gymraeg, ac yn Mike nid Mihangel, fyddai hynny yn rhy hurt.

    Ta beth, ble mae'r dadleuon ti'n sôn amdanyn nhw? Ydw i wedi colli rhywbeth?

    ReplyDelete
  2. Huw Dyfroedd ydw i weithie.

    ReplyDelete
  3. Mae'n ddrwg gen i Nic, mi anghofiais i gynnwys y ddolen i'r drafodaeth (wedi ei gywiro bellach). Trafodaeth a godwyd gan Eleanor Burnham mewn dadl ar flogio yn y Senedd ychydig ddyddiau yn ôl ydoedd.

    ReplyDelete
  4. Aha! Gwelais i'r fideos 'ma ar blog Bethan Jenkins ddoe, ond anghofiais i ble o'n nhw, a nawr dw i wedi eu ffeindio 'to, diolch i ti. Blogiwr bach hapus ydw i!

    ReplyDelete
  5. Mae'n od tydi. Nwdls ma llawer o bobol dwi di cwrdd (gan gynnwys rhai cyd-weithwyr!) ers tua adeg coleg yn fy ngalw i, er na roddwyd y llysenw hwnnw i mi tan 1999. Rhywsut mi sticiodd, ac mae pobol wedi

    Mae pawb dwi'n nabod o Ddolgellau yn dal i ngalw i'n Rhodri Llyr ond Rhodri ap Dyfrig dwi'n ei ddefnyddio'n swyddogol rwan. Rhods dwi i'n ffrindiau gosaf (nid Nwdls!) a Rhod ydw i i'n nhad.

    Felly pa un ydw i go iawn?

    ReplyDelete