04/07/2008

Beicio'n Borcyn a Thyfu Tatws yn Saesneg!

Dwi ddim yn fawr o arddwr, nid oes gennyf fawr o ardd. Ond rwy'n gwylio'r rhaglen Byw yn yr Ardd oherwydd bod Beth Gwanas yn hen ffrind ysgol imi (ie, coeliwch chi byth ond mae hi bron mor hen รข hen rech flin!).

Ond wedi gwylio'r rhaglen neithiwr dwi dal yn methu deall be sydd gan feicio yn noethlymun o amgylch Caerdydd i wneud efo tyfu moron mewn bwthyn yn Rhydymain; na pham bod pob ymgais i cael linc i'r rhaglen Byw yn yr Ardd yn mynd at dudalen Saesneg??

No comments:

Post a Comment