27/12/2008

Cwestiwn o egwyddorion

Cwestiwn:
Aelod o ba Blaid Wleidyddol sydd yn dweud ar ei flog:

Bod y rhai sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru yn snobiaid
Bod y sawl sydd am amddiffyn yr iaith yn ideolegol naïf
Bod y rhai sydd am gefnogi cymunedau Cymreig yn bobl sydd heb unrhyw ddealltwriaeth wleidyddol

A) Aelod eithafol gwrth Gymreig o'r Blaid Geidwadol?
B) Un o ddinosoriaid Plaid Lafur y Cymoedd?
C) Un o gefnogwyr mwyaf triw Plaid Cymru?

Y syndod yw mai C yw'r ateb cywir.

24/12/2008

Cwestiwn Dyrys Nadoligaidd

Pam fod Bethlehem yn Ddinas yn y carol Cymraeg a dim ond yn little town yn y carol Saesneg?

I'r credinwyr ymysg fy narllenwyr dymunaf bob bendith wrth i chi ddathlu dyfodiad ein gwaredwr i'r byd. I'r rhai sydd eto i brofi grym gwaredigaeth yr Arglwydd Iesu Grist ddymunaf bob llawenydd wrth i chi dathlu'r hyn sydd yn bwysig i chi ar ŵyl gyhoeddus.

Nadolig Llawen iawn i bawb.

17/12/2008

Anabl i Fwynhau Sioe'r Nadolig

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi bodoli ers 1995! Mae busnesau a chyrff wedi cael amser maith i gydymffurfio a'r ddeddf. Rhoddwyd hyd at 2004 i adeiladau cyhoeddus sicrhau mynediad cyfartal i holl aelodau'r cyhoedd. Pedwar blynedd yn ddiweddarach mae nifer o adeiladau cyhoeddus dal heb ddarparu'r mynediad angenrheidiol, ac mae hyn yn warthus.

Mae mynediad yn fwy na sicrhau bod modd i ddefnyddiwr cadair olwyn cael mynd trwy ddrws. I mi, fel person trwm ei glyw, mae mynediad yn cynnwys darparu system lŵp, system sydd yn ddarlledu sain yn uniongyrchol i declynnau clywed. Mae y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddol sydd yn rhedeg adeiladau cyhoeddus megis Eglwysi, capeli a neuaddau coffa yn darparu'r fath system bellach, fel sydd yn ofynnol a'r ddeddf - diolch iddynt.

Mae ysgolion, yn amlwg, yn adeiladau cyhoeddus. Ar yr adeg yma o'r flwyddyn bydd miliynau o aelodau'r cyhoedd yn ymweld ag ysgolion i wylio'r Sioe Nadolig. Ond o'm mhrofiad i, prin ar y naw yw neuaddau ysgol sydd yn cynnig gwasanaeth lŵp. Wedi holi pobl eraill trwm eu clyw mae'n ymddangos nad yw'r gwasanaeth, gweddol rad, yma ar gael o gwbl yn ysgolion siroedd Conwy na Gwynedd.

Mae fy mab yn perfformio mewn sioe ysgol nos yfory. Af yno i wylio'r sioe. Piti na fydd modd imi glywed y sioe hefyd, gan bod y cyngor sir wedi dewis peidio â chydymffurfio a deddf sydd i fod i ganiatáu imi gael mwynhau'r sioe cystal â phawb arall yn y gynulleidfa.

21/11/2008

Ciwdos i'r Hen Rech a'r Iaith Gymraeg

Y mae'r blogiwr bach hwn wedi cael ciwdos mawr heddiw! Yr wyf wedi derbyn Datganiad i'r Wasg, yn gofyn imi roi cyhoeddusrwydd ar fy mlog i ddatganiad y mae'r datgeinydd am gael cyhoeddusrwydd amdani!

Ew! Rwyf wedi fy mhlesio! Nid rant bach hen ddyn blin mo'r safle hwn bellach, ond ffynhonnell newyddion o bwys. Un sydd werth danfon datganiadau i'r wasg iddo! Y mae fy mhwysigrwydd wedi ei chwyddo gymaint, hwyrach bydd angen ichi ail osod faint eich sgrin er mwyn darllen fy mhyst bellach.

Nid ydwyf am ail adrodd y datganiad yn ei gyfanrwydd; bydd o i'w gweld yn y Mule a'r Dail a Golwg a'r Cymro. Yr unig sylw yr wyf am wneud yw llongyfarch Alun Ffred am ddefnyddio'r Gymraeg am y tro cyntaf mewn pwyllgor y Gymuned Ewropeaidd a diolch i Jill Evans ASE am ei ddycnwch dros y blynyddoedd i sicrhau bod y Gymraeg yn cael cydnabyddiaeth deilwng ar lefel Ewropeaidd.

Fel y dywedodd Ffred ar newyddion y BBC yn gynharach, bydd y ffaith ei fod ef wedi siarad Cymraeg mewn pwyllgor ddim yn cynyddu'r niferoedd o siaradwyr Cymraeg erbyn y bore. Ond yr wyf yn credu bod yna werth symbolaidd pwysig i'r achlysur.

Rwy'n ddigon hen i gofio cynghorydd blaenllaw o Fôn yn gofyn ar raglen newyddion yn y 1960au Be di iws y Gymraeg yr ochor arall i Bont y Borth? Mae Ffred wedi dangos bod iws i'r Gymraeg ym mhell du hwnt i Borthaethwy, a thrwy hynny wedi gwneud gweithred fach symbolaidd i hybu gwerth yr iaith ym meddyliau holl drigolion ein gwlad.

Rhaid nodi nad ydwyf yn un o ffans mwyaf y Gymuned Ewropeaidd. Bonws bach iawn yw cael y Gymraeg yn un o ieithoedd y Gymuned o gymharu â'i swyddogaeth bydysawl fel Iaith y Nefoedd, wrth gwrs!

18/11/2008

Emyn neu Gân?

Mae Paul Flynn AS yn codi hanesyn byddwn wedi ei ddisgwyl i'w gweld ar dudalen flaen y Daily Mail, yn hytrach nag ar flog AS Hen Lafur.

Mae Mr Flynn yn honni bod cofrestrydd rhywle yn Ne Cymru wedi gwrthod priodi pobl os oeddent yn cynnwys emynau ymysg eu caneuon mewn priodasau sifil.

The story is that a registrar officiating at a south Wales wedding warned that hymns were not permitted. A choir had been hired to sing some suitable songs at a wedding in a hotel. They were warned that if the hymns were religious containing the words Jesus or Halleluiah they must not be sung. Non-religious songs were allowed.
It is said that the registrar threatened to end the ceremony if religious songs were sung

Lol botas maip, os caf ddweud, Paul!

Mae'r gyfraith yn eithaf rhyddfrydol parthed defodau priodas. Mae yna ambell i addewid (y geiriau coch) sydd yn gyffredin i briodas gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r union un geiriau yn rhan o ddefodau pob crefydd a phob defod sifil.

Cyn belled a bod y geiriau coch ddim yn cael eu gwrthwynebu mewn rhan arall o'r ddefod mae rhwydd hynt i ddeuddyn gwneud fel y mynnont yng ngweddill y seremoni!

Os oedd cofrestrydd yn bygwth diddymu seremoni am ganu haleliwia neu enwi'r Iesu, byddai'r cofrestrydd, heb os, yn torri'r gyfraith, ac yn wynebu dirwy drom ac / neu gyfnod o garchar.

Hwyrach bod hanesyn Paul yn un gac, ond mae'n codi pwnc difyr, sef beth yw Emyn?

Rhyw ddeng mis yn ôl mi fûm yng nghynhebrwng fy nghyfyrdra, Brian. Roedd Brian yn anghrediniwr rhonc. Coffa da am y dadleuon tanllyd a cholled ingol sydd ar ei ôl.

Cafodd Brian gynhebrwng sifil a weinyddwyd gan aelod o'r Humanist Society.

Wrth ddechrau'r cwrdd dywedodd yr arweinydd:
During this memorial we are going to sing songs that some consider to be hymns! To Brian they were songs sung on important occasions, songs he liked, songs he asociated with memorial gatherings such as this!

Pwynt digon teg. Does dim rhaid i ddyn credu cân er mwyn ei wneud yn gân bwysig yn ei fywyd.

Pe bawn yn ffonio rhaglen radio i wneud cais ar gyfer cân pen-blwydd y wraig 'cw. neu cân penblwydd ein priodas mae'n debyg mae cân y Shoop Shoop byddai'r un i gofio ein cyfnod o ddywediad:

If you wanna know
If he loves you so
It's in his kiss!
(That's where it is!)
yeah!! Its in his kiss!

Twt lol botas o ran perthynas go iawn! Y gwir arwydd o berthynas cariadus clud, yn hytrach nag un nwydus dros dro, yw teimlo yn gyffyrddus yn rhechan yng nghwmni eich gilydd!
Os ti moen cael dweud
Ei fod e o dy blaid
Mae yn ei rech -
(Dyna chi be'ch) -
Ie!! Mae yn ei rech!

A dyna'r pwynt mae cân da yn eich atgoffa am ddigwyddiad, diwrnod neu achlysur. Mae canu Arglwydd Dyma Fi, fel cân mewn cynhebrwng yr un fath a chanu'r shoop shoop i'r rhan fwyaf o bobl.

I'r Cristion mae Emyn i fod yn weddi ar gân. Gwastraff i grediniwr yw canu Nid wy'n gofyn bywyd moethus a gwneud y loteri!!

Mae'n bwysig bod pob Cristion yn ddeall yr hyn yr ydym yn gweddïo amdani mewn Emyn wrth ei ganu, yn arbennig ar achlysuron sifil neu led-sifil, megis priodas neu gynhebrwng cyfaill o anghrediniwr!

10/11/2008

Rheilffordd drwy Gymru?

Rwy'n ddiolchgar i'r Cynghorydd Gwilym Euros am geisio gwella cyswllt rheilffordd Dyffryn Conwy. Dyma bwnc o ddiddordeb i drigolion Conwy yn ogystal â thrigolion Gwynedd!

O'r herwydd fy mod yn dioddef o glyw’r digwydd (epilepsi) rwy'n methu dal trwydded gyrru. Mae'r wraig yn gyrru ac, fel arfer, yr wyf yn ddibynnol ar ei thacsi hi i fynd a dŵad.

Yn ystod y dyddiau nesaf rwyf am fynychu cynhebrwng yn Nolgellau. Yr unig ffordd imi fynd yno a dychwelyd adre mewn diwrnod yw trwy ddefnyddio car, does dim modd gwneud y daith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os yw Mrs HRF yn mynd a fi i'r gwasanaeth ac yn aros i ddod a fi adref bydd rhaid i'r plant colli diwrnod o ysgol yn ddiangen. Nid ydwyf am weld fy mhlant yn colli Ysgol yn ddiangen.

Mae polisïau'r Cynulliad, gan bob plaid, i'w gweld fel rhai sydd am gysylltu "Gogledd" a "De". Gwych i'r rhai sydd am fynd o un pwynt yn y Gogledd i bwynt arall yn y de. Fy mhroblem i yw fy mod am fynd o Lansanffraid Glan Conwy i Ddolgellau. Bydd rhai am fynd o Harlech i Lanelwedd, eraill o Flaenau i Ferthyr, neu o'r Drenewydd i Lambed.

Nid y daith hir o'r Gogledd eithaf i'r De eithaf yw problem trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru, ond y daith fer. Sut mae modd teithio o Gorwen i Gorris ac yn ôl yn hwylus?

Mae'r Cynulliad wedi gwario miliynau o bunnoedd ar adeiladu ambell i gysylltiad rheilffordd yn y deheudir.

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn rhedeg hyd at Drawsfynydd ar gyfer trafnidiaeth niwclear, er ei fod yn stopio yn y Blaenau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Be am ddefnyddio'r cledrau i Draws a'u hagor am ddeng milltir arall i Ddolgellau?

Be am bum milltir arall wedyn, i gysylltu â rheilffordd Bermo - Machynlleth? Cynllun bydd yn agor llawer mwy o gymunedau Cymru i daith rheilffordd fewnol na fydd thrydaneiddio linc o'r gogledd eithaf i'r de eithaf trwy ganolbarth Lloegr!

08/11/2008

Hen Rech Ryngwladol!

Mae'r mwyafrif (86%) o'r bobl alluog a deallus sydd yn picio draw i'r blog 'ma i ddarllen fy mherlau o ddoethineb yn dod o'r DU. Ond o wirio fy ystadegau cefais fy syfrdanu o weld bod pobl o bob parth o'r byd yn pigo draw yn achlysurol.

Yn ystod y mis diwethaf daeth ymwelwyr o'r UDA, Sbaen, Canada (diolch Linda), Ffrainc, Macedonia, Sweden, Yr India, Colombia, Yr Almaen, Mecsico, Brasil, Awstralia, Seland Newydd, Twrci, Yr Iwerddon, Gwlad Belg, Yr Ariannin, Gwlad Thai, Saudi Arabia, De'r Affrig, Malasia, Gwlad Pwyl, Latfia, Portiwgal, Yr Eidal, Gwlad Groeg, Hwngari, Awstria, Cyprys, Norwy, Yr Aifft, Japan, Israel, Rwsia a'r Swistir.

Gorau Cymro, Cymro oddi cartref. Diwcs, mae'n ymddangos bod blog yr Hen Rech yn gwneud mwy i hybu cytgord rhyngwladol na'r Cenhedloedd Unedig!

Carchar yn Ninbych - dim diolch!

Mae'r BBC yn adrodd bod Chris Ruane AS am ategu hen safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych at y rhestr o safleoedd i'w hystyried fel lle i sefydlu carchar yng Ngogledd Cymru.

Rwy'n ddeall brwdfrydedd yr AS. Mae angen fawr i wneud rhyw ddefnydd o'r safle, ac ers cau'r ysbyty mae tref Dinbych wedi colli ei brif gyflogydd. Bydd cael carchar i gymryd ei lle yn hwb economaidd o bwys i'r dref a'r ardal ehangach.

Ond yr wyf yn bryderus am y syniad. I ormod o bobl o hyd mae yna gysylltiad rhwng salwch meddwl a "drygioni". Er nad oes unrhyw sail i'r gred mae nifer o bobl yn credu bod pobl sydd yn byw gyda salwch meddwl yn beryglus. O droi'r hen ysbyty salwch meddwl yn garchar rwy'n ofni y bydd hynny yn cryfhau'r myth.

Yn sicr mae angen carchar yng Ngogledd Cymru ac yr wyf yn rhoi fy nghefnogaeth lawn i'r ymgyrch i sefydlu un, ond cam dybryd ar yr y rhai sydd wedi derbyn triniaeth yno bydda sefydlu carchar ar safle Ysbyty Gogledd Cymru.

06/11/2008

Twpsyn

Am ddyn mor addysgedig mae Peter Hain yn gallu dweud pethau gwirion.

Yn ôl rhifyn heddiw o'r Cylchgrawn Golwg fyddai Peter Hain ddim yn ymuno ag ymgyrch i gael hawliau deddfu llawn ar hyn o bryd. Mae o yn erbyn y syniad o gael refferendwm yn awr.

"Fyddwn i ddim yn ymuno ag ymgyrch Ie nawr, meddai, Rhaid bod yn siŵr o gefnogaeth yn gyntaf. Byddai'n hurt lansio ymgyrch mewn gwacter"

Twpsyn! Pwrpas ymgyrch yw gwneud yn siŵr o gefnogaeth, heb ymgyrch does dim modd cael y fath sicrwydd. Bydda greu ymgyrch "ie" i berswadio pobl am rinweddau hawliau deddfwriaethol ar ôl cael sicrwydd eu bod yn cefnogi hawliau deddfwriaethol braidd yn di bwrpas.

05/11/2008

Y Nawfed Cymro

Llongyfarchiadau i Barack Obama ar ei ethol fel y nawfed unigolyn o dras Gymreig i ddyfod yn Arlywydd yr UDA (ar gyntaf o dras yr Affrig) A chlod i Gymru yw bod un o'n hogiau ni yw'r person du gynaf i'w hethol i'r fath arswydus swydd. Yr wyf mewn dagrau o lawenydd. Llongyfarchiadau Barack, Llongyfarchiadau Affricanwyr yr Amerig, a Llongyfarchiadau Barack o Fôn.

Mae'n rhaid imi ymddiheuro am bob camgymeriad, rwy'n fethu gweld y sgrin i wirio fy sillafu trwy ddagrau o lawenydd.

Gwin sbar am Lenrothes?

Roeddwn wedi disgwyl aros ar ddihun hyd o leiaf 6 y bore i ddisgwyl y canlyniad terfynol o'r UDA!

Mae cyfaill o'r UDA, sydd yn gefnogwr brwd i McCain, newydd e-bostio'r awgrym bydd McCain yn ildio o fewn yr awr a chwarter nesaf!

Gwely'n gynt na'r disgwyl?

Gwin ar ôl i ddathlu canlyniad Glenrothes nos Iau? - Hwyrach!

Diweddariad:
Y gwin wedi troi'n sur, ysywaeth :-(

Y Bleidlais Gymreig

Y ddwy dalaith "Cymreiciaf" yn yr UDA yw Pensylfania a Wisconsin, da gweld bod ill dwy wedi pleidleisio i'r Cymro yn hytrach na'r Sgotyn!

Mae'n debyg bod Fflorida am droi at Obama, er gwaethaf pob pleidlais "pili pala" a thric dan din hanesyddol arall.

Cymon McCain

Newydd sylweddoli os bydd Obama yn ennill, am y tro cyntaf yn fy mywyd byddwyf yn hun nag Arlywydd yr UDA! Dyna wir arwydd o henaint.

Rwyf am newid fy ochor - Cymon McCain!

Drosodd?

Wel, dyma fi'n penderfynu blogio rhywfaint o'r etholiad ac eisoes yn sylweddoli fy mod yn rhy hwyr!. Oni bai am drychineb anhygoel mae Obama eisoes wedi ennill. Rwy'n amcangyfrif bydd ganddo ymhell dros 350 o bleidleisiau colegol.

Wedi disgwyl noson o ganlyniadau agos mae'n edrych yn debyg bod tirlithriad am ysgubo'r GOP oddi ar y map yn y cystadlaethau arlywyddol a seneddol.

04/11/2008

Blogio'r Etholiad Arlywyddol

Ers amser cinio pnawn yma mae Cylchgrawn Golwg wedi bod yn blogio yr Etholiad Arlywyddol. Mae Ifan Morgan Jones (Dirprwy-olygydd cylchgrawn Golwg) yn bwriadu dal ati hyd yr oriau man! Mae o hefyd yn cynig doleni i eraill sydd am ymuno yn yr hwyl.
Galwch draw!

03/11/2008

Cymraeg-athon

Rwy'n gwybod bod tiwtor iaith neu ddau ac ambell i gyfaill i ddysgwr yn darllen y blog yma weithiau. Hwyrach bydd diddordeb yma, gan hynny, i’r ymgyrch Cymraeg-athon, sydd yn rhoi sialens i bobl dysgu'r Gymraeg i safon rugl erbyn cyfrifiad 2011 ac i ymofyn nawdd at achos da trwy wneud hynny.

Mae'r syniad yn ymddangos imi fel ffordd dda o annog pobl i ddysgu'r iaith ac fel ffordd o roi nod a gwobr i'r rhai sydd eisoes wedi cychwyn dysgu'r iaith yn ystod y tymor academaidd newydd. Ond oes yma berygl o roi pwysau ychwanegol ar efrydwyr? Ydy dysgu iaith yn ddigon o sialens ynddo'i hun heb ychwanegu'r pwysau o gyrraedd nod gwleidyddol ac elusennol hefyd?

Gan fod yr unig fanylion sydd gennyf am y Cymraeg-athon yn uniaith Saesneg yr wyf wedi eu gosod ar fy mlog Saesneg

31/10/2008

Gwobr Hen Rech Flin

Pe bai'r Hen Rech Flin am wobrwyo, idiotrwydd llwyr a chyfan gwbl, fel y mae Blog Menai yn awgrymu dylwn wneud byddwn yn enwebu'r post yma gan Flog Menai am urdd uchaf yr anrhydedd.

Oes yna unrhyw beth mwy idiotaidd nag aralleirio barn yr wyt yn anghytuno ag hi er mwyn ei bardduo, yn hytrach nag ymateb i'r ddadl graidd? A wnes i roi'r bai ar y cyfryngau am achosi ffliw'r adar neu am greu'r pwysau ariannol, fel mae Cai yn awgrymu? Naddo, yr hyn a ddywedais oedd bod y BBC ac eraill yn gyfrifol am greu panig gormodol parthed y pynciau. Mae nifer o arweinwyr busnes ac eglwysig wedi gwneud yr un sylw. Ond mae'n siŵr mae idiotiaid yw'r rhain hefyd gan nad ydynt yn cytuno a barn unllygeidiog Cai a'i blaid.

A ydy Madrwyddygryf yn idiot am wneud y sylw bod rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion yn gyfrifol am anfon Mark Williams AS i San Steffan, fel mae Cai yn honni? Wrth gwrs nad ydyw, mae o'n ddweud y gwir. Fe arhosodd rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion adref yn hytrach na phleidleisio i Blaid Cymru oherwydd ffrae'r maer, fe bleidleisiodd nifer o Gymry Cymraeg Ceredigion i bleidiau eraill yn hytrach na chefnogi'r Blaid, ac mae yna graig o draddodiad o gefnogi rhyddfrydiaeth ymysg rhai o ffermwyr Cymraeg Ceredigion. Idiot bydda'r dyn sydd yn credu bod modd adennill y sedd i'r Blaid heb geisio cael y Cymry Cymraeg hyn i bleidleisio i Blaid Cymru eto neu am y tro cyntaf.

Mae ceisio cysylltu barn Still a Liberal a fy marn i yn gwbl chwerthinllyd o idiotaidd. Mae hyn mor hurt â phe bawn i yn ceisio cysylltu barn Cai a sylwadau diweddaraf David Davies AS.

Ond y prif reswm am gynnig gwobr am idiotrwydd i Flog Menai yw oherwydd ei fod yn rhy idiotaidd i sylweddoli pa mor idiotaidd yw ei ddiffiniad o idiotrwydd, sef barn nad yw'n cytuno a hi, ond nad yw'r gallu ganddo i gynnig ateb rhesymol iddi.

28/10/2008

Y Gwir am Dr Tudur

Mae'r cyfaill Rhys Llwyd wrthi'n sgwennu hagiograffi o'r Dr Tudur Jones. Oherwydd ei oedran, cafodd Rhys mo'r cyfle o gyfarfod a thestun ei ymchwil. Yn anffodus ac, yn anffodus iawn, mi gefais i'r profiad trist o ddod ar draws y ffieiddyn.

Mae Rhys yn disgrifio Dr Tudur fel Efengylwr - twt lol botas - Enwadwr Cul Annibynia oedd Tudur.

Trwy driciau dan din fe orfododd Tudur ar i Gordon MacDonald, un o fawrion Wesleaeth Cymru, i ymadael a'i enwad er mwyn ffurfio eglwys efengylaidd annibynnol yn Aberystwyth, eglwys a ymosodwyd arni yn rheolaidd gan Tudur wedyn gan mae hen wesla oedd y gweinidog!

Enwad Seisnig fu'r Wesleaid yn draddodiadol. I ddod yn weinidog Wesla rhaid oedd cael hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yn Lloegr mewn colegau megis Hansworth, ym Myrmigham.

Fel Cymro o genedlaetholwr am ddyfod yn weinidog Wesla cefais fy nanfon i Brifysgol Bangor ar gyfer fy hyfforddiant. Prawf bod modd dysgu gweinidog Wesla trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, yn ôl yr enwad.

Barn Tudur oedd bod caniatáu addysg Gymraeg i Wesla ym Mangor yr un fath a chanatau i Undodwr cael addysg grefyddol yn Aber, rhywbeth nad oedd ef am ganiatau. Cefais gwybod gan Tudur o'r ddiwrnod cyntaf nad oedd modd imi lwyddo. Cefais yr un sicrwydd o fethiant gan y Parch John o Goleg y Bedyddwyr. Pan adroddais yr enwadaeth ffiaidd yma yn ôl i fy mentor yn yr Eglwys Fethodistaidd y Parch Owie Evans, roedd o'n methu credu bod ei gyfeillion a'i frodyr yn gallu bod mor dan din, ei ddyfarniad oedd mai'n rhaid fy mod wedi cam ddeall eu sylwadau...!

Mi gefais fy niarddel o Brifysgol Bangor am fod yn anymwybodol trwy ddiod cyn codi ar gyfer ambell i ddarlith, am syrthio drosodd mewn ffwlbri meddwol yn ystod darlithoedd a mynychais, am fethu canolbwyntio ac am fod yn drafferthus.

Wedi fy niarddel cefais fy nghofrestru fel nyrs o dan hyfforddiant yn Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Gwynedd. O fewn mis cefais fy nanfon i'r meddyg gan y tiwtoriaid am yr un symptomau a chofnodwyd yn y Brifysgol. Canfuwyd fy mod yn dioddef o glyw’r digwydd - Epilepsi. Cefais bob cymorth gan Ysgol Nyrsio Gwynedd i ddod i ben fy nghyfnod hyfforddiant, er gwaethaf fy anhwylustod. Cymorth nad oedd i'w dygymod yn adran Ysgol Duwinyddiaeth y Dr Tudur ym Mangor.

Mi gyfarfyddais a'r Dr Tudur ymhen y rhawg a son mae salwch, nid medd-dod oedd y broblem. Ei ymateb - Epilepsi - esgus Satan!

Coc oen, Rhys, nid Sant oedd Tudur!

25/10/2008

Harri Potter a'r Athro Poti

Mae The Half Blood Welshman yn tynnu sylw at gyhoeddiad diweddaraf Archesgob y Ffwndamentalwyr Seciwlar, Yr Athro Richard Dawkins. Mae'r athro am wneud ymchwil, yn ôl y Daily Telegraph, ar yr effaith andwyol mae llyfrau megis rhai Harry Potter yn cael ar blant. Gan nad yw'r hanesion am ddewiniaeth a hudoliaeth a adroddir yn llyfrau Harry Potter yn ffeithiol gywir mae'r hurtyn yn credu eu bod yn gallu bod yn beryglus i ddatblygiad plant.

Pe bai agweddau anoddefgar Dawkins i unrhyw farn ond ei farn gyfyng ei hun ddim mor beryglus, bydda ei ddatganiad diweddar yn hollol chwerthinllyd. Nid yn unig yn chwerthinllyd ond yn rhagrithiol hefyd.

Mae'r gyfres Dr Who yr un mor anwyddonol ag ydy cyfres Harry Potter, os ydy ei wylio yn andwyol i blant mae'r sawl sydd yn actio yn y gyfres yn euog o greu niwed i blant. Pobl megis yr actores Lalla Ward a chwaraeodd rhan Roana, Arglwyddes Amser mewn sawl rifyn o'r gyfres beryglus anwyddonol. Enw arall Lalla Ward yw Yr Anrhydeddus Mrs Richard Dawkins.

Enw Go Iawn ac enw ar Flog.

Tua 1974 cefais wahoddiad i wneud sylw 30 eiliad ar raglen cerddoriaeth gyfoes gan HTV.

Gofynnwyd imi be oedd fy enw?

Alwyn Humphreys, meddwn, yn gwbl di niwed!

Na! Medda'r cyfarwyddwr, mewn panic llwyr, mae Alwyn Humphreys yn enw rhy bwysig ym myd cerddoriaeth go iawn - problemau enllib, rhaid i'r hogyn dewis enw arall.

Be di enw dy Dad? Gofynnodd Arfon Haines.

Hugh, meddwn i !

Alwyn ap Huw wyt ti ar y rhaglen medda fo. Ac Alwyn ap Huw yr wyf wedi bod, yn gyhoeddus, ers hynny! Ffug enw - David Alwyn Humphreys ydwyf go iawn, o hyd, wrth gwrs. Mrs Humphreys ydy'r wraig a Humphreys ydy cyfenwau'r plantos.

Ond y ffug enw sydd yn dweud mai fi di fi ac nid myfi yw arweinydd y côr!

Y Peth pwysicaf yw, mae trwy fy "ffug" enw yr wyf yn cael fy adnabod fel y fi go iawn, y ffug enw sydd yn dweud mai fi yw "fi" yn hytrach na dyn y corau.

Dyma paham yr wyf wedi fy nrysu'n llwyr parthed y dadleuon am onestrwydd enwau ar flogiau!