Showing posts with label pleidleisio. Show all posts
Showing posts with label pleidleisio. Show all posts

13/05/2014

Sori Mr/Mrs/Ms Canfasiwr – ti'n rhy hwyr o lawer!

Rwy'n hen, rwy'n fusgrell; mae'r bwth pleidleisio agosaf yn daith gerdded milltir a hanner yno ac yn ôl - ew rwy'n sgut ar fy mhleidlais post!

Ond - mi bleidleisiais ddydd Iau diwethaf, cyn derbyn anerchiadau gwleidyddol y rhan fwyaf o'r pleidiau, cyn i Griw Plaid Cymru, na Stepen Ddrws Llafur na'r unigolyn hoffus o'r Rhyddfrydwyr Democrataidd canu cloch y tŷ 'cw i ganfasio.

Rwy'n teimlo'n chwithig (hy yn "pissed off" nid yn "left wing") fy mod wedi pleidleisio cyn i hwyl yr etholiad cychwn go iawn; ac yn teimlo bod yna rhywbeth creiddiol annemocrataidd yn y ffaith fy mod yn gallu bwrw pleidlais pythefnos cyn diwrnod yr etholiad a chyn i'r holl ymgeiswyr cael cyfle dechau i geisio dwyn fy mherswâd.

Mewn etholiad lle bydd llai na thraean trwy’r DdU yn debygol o droi allan i bleidleisio, bydd niferoedd fy nghyd pleidleiswyr post yn dyngedfennol i'r canlyniad terfynol, ac fel fi, wedi pleidleisio cyn yr ymgyrch. Dydy hynny ddim yn iawn, dim yn deg a dim yn ddemocrataidd.

Rwy'n ddiolchgar am y drefn sy'n caniatáu pleidlais post imi, hebddi byddwn yn annhebygol o allu bleidleisio; ond mae'n rhaid i'r Pleidiau, Y Comisiwn Etholiadau, ERS Cymru a'r Swyddogion Etholiadol ail feddwl sut mae cynnal ymgyrch etholiadol er mwyn cyd gynnwys ni "bostwyr" fel rhan o brif lif y cyfnod ymgyrchu!

02/02/2011

Pleidlais Dan Glo

Yn ôl y BBC bydd Carcharorion yng Nghymru yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yn bersonol rwy'n cytuno a'r egwyddor o garcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, oni bai eu bod wedi eu carcharu am wyrdroi etholiadau.

Ond mae'r datganiad bod carcharorion YNG Nghymru yn cael pleidleisio yn peri dryswch imi.

A fydd carcharorion Cymreig o ogledd a chanolbarth Cymru sydd yn y carchar ym Manceinion, yr Amwythig, Lerpwl ac ati yn cael pleidleisio? A fydd carcharorion o Loegr sydd heb unrhyw gysylltiad â Chymru mond bod y gyfundrefn wedi eu danfon i Abertawe, Caerdydd neu Ben-y-Bont yn cael pleidleisio?

Gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru a oes achos Swffragét newydd yn codi yng Nghymru? Dynion o garcharorion yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ond merched o garcharorion yn cael eu hamddifadu o'r bleidlais?

Does geni ddim syniad sut mae trefn rhoi pleidlais i garcharor am weithio, ac er Gwglo nid ydwyf dim callach. Os yw carcharorion unigol am gael pleidlais post yn seiliedig ar eu cyfeiriad cartref cyn eu dedfryd, iawn! Ond mae'r syniad bod carchar cyfan yn gallu gwneud gwahaniaeth mewn un etholaeth braidd yn wrthyn; a'r syniad bod carcharorion o'r Gogledd yn cael eu hamddifadu o bleidlais oherwydd ein bod yn cael ein hamddifadu o garchar yn y Gogledd yn fwy gwrthun byth

27/09/2010

Wesleaid, Annibynwyr a Llafurwyr!

Yr wyf yn Wesla hyd at fer fy esgyrn. Pe bawn am roi proc i fy "ngelynion" enwadol, yr Annibynwyr, trwy nodi bod aelodaeth eu henwad wedi mynd i lawr yn ofnadwy yn ystod y gan mlynedd diwethaf, bydda bawb yn gweld gwendid fy nadl. Mae'n wir bod llai o Annibyns rŵan nag oedd cynt OND roedd llawer llai o Wesleaid nag Annibynwyr can mlynedd yn ôl ac mae yna lawer, llawer llai ohonynt rŵan hefyd.

Mae nifer o byst ar y blogiau gwleidyddol yn ymarfer yr un fath o broc yn erbyn y Blaid Lafur heddiw, maent yn edrych ar sawl papur pleidlais a danfonwyd i bob etholaeth ac yn dwt twtian am gyn lleied a danfonwyd i ambell le. Gweler enghreifftiau o'r fath bost gan Better Nation am faint Llafur yn yr Alban a physt gan Syniadau, BlogMenai a Phlaid Wrecsam am gyn lleied o bobl sydd yn aelodau o'r Blaid Lafur yng Nghymru.

O ran fy mharth i o'r byd rwy'n gweld mae dim ond 168 o aelodau sydd gan Lafur yn Aberconwy. O gofio bod yr ardal yn cael ei gynrychioli gan AS Llafur dim ond 4 mis yn ôl mae hynny'n edrych yn andros o isel. Ond heb wybod sawl aelod sydd o'r pleidiau eraill mae'r wybodaeth yn ddiwerth. A lwyddodd y Ceidwadwyr i gipio'r sedd trwy ddenu mwy o aelodau newydd? Be di'r neges os oes gan Plaid Cymru deng waith mwy o aelodau yn Aberconwy, ond eto wedi ei drechu gan Lafur?

Yn y bôn mae'r pyst am faint aelodaeth y Blaid Lafur yn ddiwerth, oni bai bod rhifau aelodaeth y pleidiau eraill hefyd ar gael er mwyn cymharu cryfder aelodaeth ac er mwyn cymharu effaith cryfder aelodaeth ar y canlyniad terfynol.

Nid bod rhifau'n bwysig. Mae un Wesla yn werth mwy na chan Annibyn, wedi'r cwbl!

05/09/2010

Rhyddfrydwyr, Diawliaid diegwyddor?

Yn ystod yr wythnos nesaf bydd ail ddarlleniad o'r Mesur Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau, sef y mesur seneddol sydd yn rhagarwain at y bwriad i gynnal refferendwm ar y system Pleidlais Amgen.

Mae Caroline Lucas ar ran y Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r SNP am gynnig gwelliant i'r ddeddf bydd yn cynnig opsiynau amgen i bleidleiswyr yn y refferendwm; megis y system rhestrau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau Ewrop, neu'r Bleidlais Sengl Trosglwyddadwy, sef y system y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn ei gefnogi ers sawl degawd.

O dan y fath amgylchiadau be fydd y Rhyddfrydwyr yn gwneud?

Mae modd iddynt gefnogi gwelliant y Gwyrddion yn yr obaith bydd Llafur a'r Ceidwadwyr yn lladd y cynnig rhyngddynt; ond mae yna berygl byddai Llafur yn cefnogi'r cynnig - jest er mwyn rhoi trwyn gwaedlyn i'r glymblaid!

Mae modd iddynt ymatal eu pleidlais, bydd yn sicrhau bod y bleidlais yn cael ei golli; neu bydd modd iddynt bleidleisio yn erbyn y gwelliant, sef pleidleisio yn erbyn eu polisi eu hunain.

Dewis anodd! Gwrthwynebu gwelliant y Gwyrddion a'r Cenedlaetholwyr, gan droelli rhesymau am wneud hynny, yw'r ymateb tebygol. Gwrthwynebu peth fu'n graidd i'r Rhyddfrydwyr ers cenedlaethau!

Diawliaid diegwyddor? Cawn weld dydd Mawrth

01/05/2010

Mae'r Bleidlais yn y Post.

Gan nad ydwyf yn gallu gyrru bellach, a gan fy mod yn byw tri chwarter milltir i ffwrdd o fy ngorsaf pleidleisio leol, mi ofynnais am bleidlais post eleni. Henaint ni ddaw ei hunan!

Profiad rhyfedd oedd pleidleisio y tu allan i'r blwch pleidleisio arferol.

Rhwng etholiadau San Steffan, Ewrop, Y Cynulliad, Y Cynghorau Sir a'r Cynghorau Plwyf a sawl refferendwm rwy'n amcangyfrif fy mod wedi pleidleisio tua 27 o weithiau mewn blwch pleidleisio, roedd 'na rywbeth anghynnes braidd parthed rhoi'r groes yn y gegin yn hytrach na'r bwth eleni. Doedd o ddim yn teimlo'n iawn!

Dydd Iau nesaf pan fydd pawb arall yn pleidleisio go iawn mi fyddwyf yn teimlo'r golled o beidio bod yn rhan o'r ddefod. Ac o hyn i Ddydd Iau yn teimlo fel clystfeiniwr ar bob sylw sy'n ymwneud a'r etholiad, ac yn dwyllwr wrth geisio perswadio eraill i newid eu teyrngarwch.

Ond dyna fo yr wyf wedi pleidleisio ar gyfer fy nethol ymgeisydd. Mae'r fôt yn y post ac fe gaiff ei gyfrif. Ni fydd modd newid fy meddwl, gan fod fy meddwl a chroes ar ei chyfer yn barod, ond rwy'n teimlo'n drist braidd fy mod i allan o'r gêm bellach!

21/09/2009

Pleidleisio gydag LL

Diolch i'r ymatebion i fy mhost am Un Tryweryn cefais wybod bod cofnodion hanesyddol Hansard (cofnodion trafodaethau San Steffan) ar gael ar y we bellach yn mynd yn ôl cyn belled a 1803.

Mae tipyn o hwyl i gael o'u darllen hefyd.

Mae'r cofnod cyntaf sydd yn cynnwys y term Plaid Cymru yn perthyn i David Llywellyn (sef Un Tryweryn), dyn a oedd i’w gweld fel un ag obsesiwn efo gwrthwynebu cenedlaetholdeb . Dyma fo ar Ionawr 30 1956:


"I make the direct charge in this House of Commons that there is a distinct bias on the Welsh Region of the B.B.C, in favour of Welsh Nationalism and Plaid Cymru*, in favour of the Parliament of Wales Campaign and in favour of the individuals who support those movements."

A sail ei gwyn oedd bod rhaglen am etholiad 1955 wedi cynnwys sylw am "a pensioner who complained of having to use the English letter "X" for voting-this, Mr. Speaker is how the Election went in Wales".

Eitha’ reit hefyd. Hoffwn erfyn ar fy narllenwyr selog i uno gyda fi mewn ymgyrch i newid y marc yr ydym yn ei ddefnyddio i bleidleisio o'r X estron - i LL er cof am David Llywellyn.


*Nodyn. Mae yna gyfeiriadau cynharach at y Blaid ond dyma'r defnydd cynharaf imi gael hyd iddo yn defnyddio 'r union eiriad Plaid Cymru.

28/11/2007

Pleidleisiau y Loteri

Yr wyf wedi pleidleisio dwywaith heddiw. Yn gyntaf mi fwriais bleidlais i brosiect sy'n ceisio adfer parc cyhoeddus Dolgellau, i ennill nawdd o Gronfa'r Loteri Fawr; yn ail mi roddais gefnogaeth i brosiect Sustrans Connect2 i dderbyn arian o Gronfa £50 Miliwn y Bobl.

Rhaid cyfaddef fy mod i heb bleidleisio mewn modd gwrthrychol, trwy edrych ar yr holl brosiectau dan sylw a chefnogi'r un mwyaf haeddiannol. Mi fwriais fy mhleidlais am resymau plwyfol a hunanol. Bydd aelodau o fy nheulu sy'n byw yn y dre yn cael bendith o barc Dolgellau, a phrosiect Sustrans yw'r unig un o'r pedwar dan sylw sydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru. Mae'n siŵr bod mwyafrif o'r rai sydd wedi bwrw pleidlais wedi gwneud hynny am resymau unigoliaeth yn hytrach na rhai gwrthrychol.

Os nad yw'r arian yn cael ei rannu ar sail wrthrychol mae'n rhaid amau cyfiawnder rhannu grantiau'r Loteri trwy bleidlais boblogaidd. Mae Dolgellau yn cystadlu am grant yn erbyn prosiect yn Nhreffynnon. Poblogaeth y naill dref yw 2,700 tra bod y llall a phoblogaeth o 8,700, mae'r rhifyddeg yn rhoi mantais glir ac annheg i Dreffynnon. Nos yfory bydd pentref bach Penarlâg yn cystadlu yn erbyn dinas fawr Abertawe am arian!

Mae yna ambell i achos da sydd ag apêl fwy poblogaidd nag eraill. Bydda brosiect i helpu plant bach sâl yn sicr o ddenu llawer mwy o gefnogaeth na phrosiect i helpu oedolion sy'n gaeth i gyffuriau er enghraifft. Mae'n haws i brosiectau poblogaidd denu arian o ffynonellau eraill nag ydyw i'r achosion llai poblogaidd. Gan hynny yr achosion llai poblogaidd sydd a'r angen fwyaf am grant.

Mae yna rywbeth ffiaidd yn y syniad o drin achosion da fel cystadleuwyr mewn sioe cwis câs, lle mae'r enillydd yn ennill popeth a'r collwr yn cael ei drin fel y ddolen gwanaf, sy'n cerdded i ffwrdd efo dim.

Rwy'n credu'n gryf dylid rhoi'r gorau i ddosbarthu arian elusennol mewn ffordd mor annheg a chael hyd i ffordd sydd yn ymdrin â phob cais mewn modd cytbwys a gwrthrychol.