Showing posts with label carchar. Show all posts
Showing posts with label carchar. Show all posts

20/05/2011

Cwestiwn Dyrys am Question Time.

Codwyd cwestiwn ar Question Time heno parthed hawl carcharorion i bleidleisio. Roedd tri o'r pedwar ar y panel yn gwrthwynebu rhoi'r bleidlais i'r sawl sydd dan glo. Safbwynt digon dechau, am wn i!

Ond!

Os nad oes gan garcharorion yr hawl i bleidleisio gan fod eu troseddau yn eu hamddifadu o'r broses wleidyddol, paham eu bod yn cael ymddangos ar raglen wleidyddol fwyaf poblogaidd Prydain Fawr? Yn bwysicach byth paham bod y tri ar y panel sydd am amddifadu carcharorion o'r hawl i chware rhan yn y broses wleidyddol wedi cytuno ymddangos ar raglen wleidyddol a oedd yn cael ei ddarlledu o garchar?

02/02/2011

Pleidlais Dan Glo

Yn ôl y BBC bydd Carcharorion yng Nghymru yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yn bersonol rwy'n cytuno a'r egwyddor o garcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, oni bai eu bod wedi eu carcharu am wyrdroi etholiadau.

Ond mae'r datganiad bod carcharorion YNG Nghymru yn cael pleidleisio yn peri dryswch imi.

A fydd carcharorion Cymreig o ogledd a chanolbarth Cymru sydd yn y carchar ym Manceinion, yr Amwythig, Lerpwl ac ati yn cael pleidleisio? A fydd carcharorion o Loegr sydd heb unrhyw gysylltiad â Chymru mond bod y gyfundrefn wedi eu danfon i Abertawe, Caerdydd neu Ben-y-Bont yn cael pleidleisio?

Gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru a oes achos Swffragét newydd yn codi yng Nghymru? Dynion o garcharorion yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ond merched o garcharorion yn cael eu hamddifadu o'r bleidlais?

Does geni ddim syniad sut mae trefn rhoi pleidlais i garcharor am weithio, ac er Gwglo nid ydwyf dim callach. Os yw carcharorion unigol am gael pleidlais post yn seiliedig ar eu cyfeiriad cartref cyn eu dedfryd, iawn! Ond mae'r syniad bod carchar cyfan yn gallu gwneud gwahaniaeth mewn un etholaeth braidd yn wrthyn; a'r syniad bod carcharorion o'r Gogledd yn cael eu hamddifadu o bleidlais oherwydd ein bod yn cael ein hamddifadu o garchar yn y Gogledd yn fwy gwrthun byth

06/02/2009

Croeso-ish i Garchar C'narfon

Os cofiaf yn iawn roedd yr alwad am garchar i ogledd Cymru yn un o'r pynciau cynharaf i Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas codi ar ôl eu hethol am y tro cyntaf ym 1974. Mae Elfyn Llwyd a Hywel Williams wedi parhau a'r frwydr gydag angerdd.

Yr wyf yn cael fy nghyhuddo gan rai (yn annheg fel arfer) o ladd ar y Blaid ar bob cyfle. Yn ddi-os roedd y cyhoeddiad heddiw bod carchar am gael ei godi yng Nghaernarfon yn enghraifft o werth Plaid Cymru ar ei orau. Mae creu polisi a dal ati, ac ati ac ati am 35 mlynedd hyd nes cael y maen i'r wal yn rhywbeth i'w clodfori. Felly llongyfarchiadau mawr i'r Blaid, i'r ddau Ddafydd i Hywel ac Elfyn ar eu llwyddiant.

Am yr holl resymau y mae'r Blaid wedi eu nodi dros gyfnod hir mae'r newyddion bod carchar newydd am gael ei hadeiladu yng Nghaernarfon yn newyddion da dros ben.

Ond, dydy cael y carchar ddim yn ddiwedd yr ymgyrch. Un o fanteision y carchar yw bydd hi'n dod a hyd at 1,000 o swyddi i'r ardal.

Mae profiad wedi dangos, ysywaeth, bod cynlluniau gwasanaeth cyhoeddus mawr yn aml yn dod a swyddi i ardal mewn modd llythrennol. Y DVLA, Y Bathdy Brenhinol, Y Swyddfa Breinlen a hyd yn oed swyddfeydd y Cynulliad ym Merthyr, Aberystwyth a'r Gyffordd yn mewnforio staff o ardaloedd eraill, yn dod a nhw, yn hytrach na chreu swyddi i'r boblogaeth leol.

Gall hyd at fil o swyddogion carchar yn mewnfudo i Gaernarfon bod yn niweidiol i un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Gall effeithio ar y farchnad tai, troi ysgolion cynhenid Cymraeg yn rhai Saesneg a chreu gelyniaeth gymdeithasol - ymysg pethau eraill.

Bydd llwyddiant y prosiect carchar yn hollol ddibynnol ar sicrhau bod canran uchel o'r swyddi ar gael i bobl leol. I gael y sicrwydd yna bydd rhaid i'r awdurdodau, yr asiantaethau cyflogaeth, gwasanaeth y carchardai a'r colegau lleol cyd weithio yn ystod y cyfnod adeiladu i hyfforddi pobl leol ar gyfer y swyddi bydd ar gael yng Ngharchar Caernarfon. Rwy'n mawr obeithio bydd y Blaid yn ychwanegu at y llwyddiant trwy sicrhau bod hyn yn digwydd.

08/11/2008

Carchar yn Ninbych - dim diolch!

Mae'r BBC yn adrodd bod Chris Ruane AS am ategu hen safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych at y rhestr o safleoedd i'w hystyried fel lle i sefydlu carchar yng Ngogledd Cymru.

Rwy'n ddeall brwdfrydedd yr AS. Mae angen fawr i wneud rhyw ddefnydd o'r safle, ac ers cau'r ysbyty mae tref Dinbych wedi colli ei brif gyflogydd. Bydd cael carchar i gymryd ei lle yn hwb economaidd o bwys i'r dref a'r ardal ehangach.

Ond yr wyf yn bryderus am y syniad. I ormod o bobl o hyd mae yna gysylltiad rhwng salwch meddwl a "drygioni". Er nad oes unrhyw sail i'r gred mae nifer o bobl yn credu bod pobl sydd yn byw gyda salwch meddwl yn beryglus. O droi'r hen ysbyty salwch meddwl yn garchar rwy'n ofni y bydd hynny yn cryfhau'r myth.

Yn sicr mae angen carchar yng Ngogledd Cymru ac yr wyf yn rhoi fy nghefnogaeth lawn i'r ymgyrch i sefydlu un, ond cam dybryd ar yr y rhai sydd wedi derbyn triniaeth yno bydda sefydlu carchar ar safle Ysbyty Gogledd Cymru.