Showing posts with label Y we. Show all posts
Showing posts with label Y we. Show all posts

07/04/2010

Yr angen am Seibr-Nats Cymreig

CyberNats yw'r enw a bathwyd gan y Blaid Lafur am y sawl sy'n pleidio achos yr SNP a chenedlaetholdeb Albanaidd ar fforymau'r papurau newyddion Sgotaidd a blogiau megis un Brian Taylor, gohebydd Materion gwleidyddol BBC yr Alban.

Yng Nghymru y rhai pigog ar y blogiau yw'r Unionod Picl, yr hanner dwsin o bobl sydd fel pryfyn ar ôl dom ar safle Wales Online, Blog Betsan, Wales Home ac ati, yn lladd ar ddatganoli, yr iaith a phob dim sy'n ymwneud a Chymreictod, heb fawr o sialens gan neb. Mae eu syniadau mor Mathew Arnold; mor 19eg Ganrif; mor hurt ag i haeddu eu hanwybyddu gan nad oes dadl resymegol o'u plaid.

Yn anffodus dydy'r agwedd o'u hanwybyddu ac aent o 'ma heb weithio, mae'r diawliaid dal wrthi, ac o ddiffyg gwrthwynebiad, yn ymddangos fel petaent ym mhrif ffrwd y barn Gymreig. Rwyf wedi ymatal, hyd yn hyn, rhag ymateb i'w dwli diwerth, ond yr wyf yn dechrau teimlo ei fod yn hen bryd i reng o genedlaetholwyr rhoi'r diawliaid yn eu lle a dangos iddynt nad yw Cymry blaengar am ganiatáu iddynt chwythu eu lol yn ddiwrthwynebiad am fyth bythoedd.

Mewn cyfnod etholiad mae'n bwysig bod hanner dwsin o ffyliaid ddim yn cael rhwydd hynt ar y we - mae'n hen bryd i'r gweddill call dysgu iddynt gwers y persli!

20/02/2010

Dogfen wonci'r Blaid

Mae yna gred gyffredinol mae Plaid Cymru yw'r blaid sydd efo'i bys ar y pỳls parthed defnyddio'r we er mwyn ymgyrch ac er mwyn cysylltu â'i haelodau a'i chefnogwyr. Ond ow! Mae angen i rywun o'r Blaid dysgu sut i osod dogfennau pdf ar y we mewn ffordd ddarllenadwy! Mae'n rhaid bod yn bencampwr gymnasteg i droi dy ben ffordd yma a ffordd arall er mwyn darllen y ddogfen ar gymorth i gyn milwyr.

Efo 10% o'r lluoedd arfog Prydeinig yn hanu o Gymru, dyma ddogfen a all apelio i nifer o bobl sydd ddim yn gefnogwyr naturiol i'r Blaid, ond bydd yr apêl ddim yno os nad yw'r ddogfen wedi ei osod ar y we mewn ffordd ddarllenadwy.