Showing posts with label Y Gymdeithas Fawr. Show all posts
Showing posts with label Y Gymdeithas Fawr. Show all posts

13/05/2010

Y Gymdeithas Fawr

Un o'r polisïau yr oeddwn yn ei hoffi mewn egwyddor o'r maniffesto Ceidwadol oedd y syniad o'r Gymdeithas Fawr (gwnaf atal farn ar y ffordd y mae'n cael ei gyflwyno yn ymarferol hyd weld ei oblygiadau gweithredol).

Un o broblemau mawr mae Cymru a chenedlaetholdeb Cymreig yn wynebu yw un o gôr ddibyniaeth ar y wladwriaeth Brydeinig. Mae'r broblem yma'n mynd y tu hwnt i ddibyniaeth ar swyddi yn y sector cyhoeddus - a does dim ddwywaith bod economi Cymru yn gôr dibynnol ar y sector cyhoeddus. Hyd yn oed yn y sector preifat y cwestiwn cyntaf sy'n cael ei ofyn gan unrhyw fusnes sydd yn ystyried sefydlu yng Nghymru yw pa grantiau llywodraethol sydd ar gael?

Cyn cynnal gŵyl gerddorol, eisteddfod neu ornest chwaraeon y peth cyntaf mae'r trefnwyr yn ei wneud yw mynd ar ofyn rhyw lefel o lywodraeth, boed y Cyngor Sir, Y Cynulliad, neu Sansteffan (weithiau pob un ohonynt).

Pan nad oes digon i ddifyrru’r plantos yn y llan neu pan fo diffyg darpariaeth gymdeithasol i'r henoed yn y fro, y cwestiwn cyntaf a ofynnir yw Be mae'r Cyngor / Cynulliad / Senedd am wneud? Yn hytrach na be da ni am wneud, fel plwyfolion, i wella'r ddarpariaeth?

Mae pensaernïaeth bron pob tref a phentref yng Nghymru yn dyst i'r hyn yr oeddem yn gallu gwneud trosom ein hunain heb ymyrraeth y llywodraeth yn y gorffennol. Adeiladwyd pob capel a phob neuadd y gweithwyr trwy gyfraniadau aelodau. Adeiladwyd gan Dlodi miloedd o neuaddau pentref. Ceiniogau prin y werin talodd am ein prifysgolion, hyd yn oed!

Yn sicr nid ydwyf am fynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd ddarpariaeth iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac ati yn ddibynnol ar haelioni a chardod ac os ydy'r Cymdeithas Fawr yn troi i fod yn ddim byd mwy na phreifateiddio i elusennau byddwyf yn ei wrthwynebu. Ond yn ddi-os mae Cymru a chymunedau Cymru yn gallu gwneud mwy i sefyll ar eu traed eu hunain ac i ymddwyn mewn modd mwy annibynnol o gyrff llywodraethol nac ydynt ar hyn o bryd. Bydd unrhyw symudiad i ail adfer yr ysbryd o hunangymorth a chydweithrediad cymunedol yn beth i'w chroesawu.