Showing posts with label Vaughan Roderick. Show all posts
Showing posts with label Vaughan Roderick. Show all posts

07/09/2009

Tŵ chydig tŵ hwyr!

Onid oes 'na rhywbeth ych a fi parthed Mebyon Kernow yn cael eu gwahardd rhag cael darllediad gwleidyddol ar y Gorfforaeth Darlledu Brydeinig mewn cyfnod etholiadol, ond bod gohebwyr y Gorfforaeth yn cael defnyddio eu darllediad annibynnol, misoedd ar ôl etholiad, fel mater o rialtwch?

26/06/2009

Cysgod y Swastika

Mae Vaughan yn ail agor craith o'r saithdegau, pan wnaeth y Parchedig Dr Tudur Jones ymosodiad ffyrnig ar Fudiad Adfer. Yr oedd arweinydd Mudiad Adfer wedi cyhoeddi llyfr yn amlinellu ei freuddwyd am ddyfodol y Cymry Gymraeg o'r enw Adfer a'r Fro Gymraeg. Ysgrifennodd Dr Tudur "Adolygiad" o'r llyfr o'r enw Cysgod y Swastika a oedd yn honni (yn gwbl di-sail)bod Adfer wedi ei ddylanwadu yn gryf gan athronwyr ac athroniaeth Hitleraidd.

Dr Tudur Jones oedd un o'r bobl fwyaf anghynnes imi gael yr amhleser o'u cyfarfod erioed. Dyn oedd yn credu mewn annibyniaeth barn cyn belled a bod y farn yna yn cyd-fynd a'i farn haearnaidd ef. Dyn a oedd yn credu bod ganddo "hawl" i reoli, ac a oedd yn mynnu rheoli pob dim yn sffêr ei ddylanwad gyda gwialen haearn. Roedd mymryn o'r unben yddo ef i ddweud y gwir plaen. Y gwendid personol yma yn ei gymeriad oedd wrth wraidd Cysgod y Swastika, dim oll i wneud efo amddiffyn Cymru rhag ffasgiaeth.

Yr oedd Tudur a'i glic yn teimlo eu bod yn colli rheolaeth ar y mudiad cenedlaethol - ymgais (aflwyddiannus) i geisio ennill y rheolaeth yn ôl oedd yr ymosodiad ar Adfer. Lol botas oedd unrhyw ymgais i gysylltu'r hyn yr oedd Adfer yn ei wneud ag Hitleriaeth. I'r gwrthwyneb, trwy adfer tai ar gyfer pobl leol, trwy feithrin papurau bro, trwy annog sefydlu gwyliau Cymraeg lleol a thrwy gefnogi busnesau bach cefn gwlad roedd Adfer yn perthyn i'r traddodiad cydweithredol. Y traddodiad a rhoddodd spardyn i sosialaeth, yn hytrach na gwleidyddiaeth y de.

Trwy ymosod mewn ffordd mor giaidd ar Adfer fe wnaeth Tudur niwed mawr i'r achos cenedlaethol yn ei gyfanrwydd. Manion i'r mwyafrif oedd y gwahaniaeth rhwng y gwahanol garfanau yn y mudiad cenedlaethol "nashies" oedd y cyfan. Trwy ddweud bod carfan weithgar a dylanwadol o'r mudiad yn cael eu dylanwadu gan syniadaeth Hitler fe roddodd y doethur mel ar fysedd y gwrth Gymreig. Cofier mai adlais o sylwadau Tudur oedd yn ymosodiad Glenys Kinnock ar Simon Brook a rhan o etifeddiaeth Tudur oedd methiant llwyr y Blaid i amddiffyn y cynghorydd yn erbyn ei hymosodiad.

Fe ddaeth pob un o rybuddion Emyr Llew am dranc y Fro Gymraeg yn wir. Mae'n bosib, yn wir mae'n debyg, bydda hyn wedi digwydd hyd yn oed pe bai Tudur heb geisio llofruddio'r ymgyrch i amddiffyn y Fro. Ond mae'r diolch i Tudur a'i deip bod tranc y Fro wedi digwydd mor rhwydd heb frwydr gref i geisio ei hamddiffyn.

08/04/2009

Mae gen i dipyn o dŷ bach twt

Mewn post diweddar mae Vaughan yn nodi mae Prif Weinidog Cymru yw'r unig un o brif weinidogion yr ynysoedd hyn heb Gartref Swyddogol. Mae o'n honni bod ambell i was sifil wedi bod yn llygadu Plasty'r Dyffryn ar gyfyl Caerdydd fel lle posib i greu cartref o'r fath. Ond mae'r aelodau etholedig yn oeraidd tuag at y syniad, yn teimlo bydda brynu cartref swyddogol i wleidydd ddim yn boblogaidd iawn yn yr hinsawdd bresennol - yn enwedig efo ail gartrefi ASau ac ACau wedi cael gymaint o sylw negyddol yn ystod y misoedd diwethaf.

Rwy'n weddol gyfarwydd â Gerddi'r Dyffryn. Yn ystod yr 80au roedd NUPE, yr undeb llafur yr oeddwn yn swyddog ynddi, yn cynnal cyrsiau hyfforddi yno yn weddol reolaidd. Os cofiaf yn iawn bydda ryw 60 ohonom yn aros yn y Gerddi ar gyfer y cyrsiau. Trigain - yr un nifer ac sydd o aelodau o'r Cynulliad. Prynwch y lle meddaf fi - nid ar gyfer y PW yn unig ond er mwyn i bob un aelod cael sefyll yno. Wedyn bydda dim rhaid cynnig lwfansau ail gartref, taliad am fath marmor na theledu mawr i'r un aelod byth eto.

19/02/2008

Mensh i Ddyfrig

Mae Dyfrig, pen bandit y cylchgrawn Barn yn ymffrostio yn ei bost diweddaraf dwi wedi llwyddo i gael mensh ym mlog Vaughan Roderick.

Twt lol botas, mae Vaughan yn desparet ac yn ddolenni at unrhyw fath o flog.

Dyma anrhydedd go iawn - yr wyt newydd gael mensh ar flog yr Hen Rech Flin!

26/01/2008

Ffobia iaith Murphy

Yn ôl Vaughan Roderick does dim rhaid i ddatganolwyr poeni am y ffaith bod Paul Murphy yn wrthwynebus i ddatganoli. Bydd hynny, yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC, yn amharu dim a'i allu i gyd weithio a Rhodri Morgan a'r Cynulliad er lles Cymru.

Mae unrhyw un sydd yn disgwyl i Mr Murphy luchio ceisiadau am ddeddfwriaeth i'r bin er mwyn amddiffyn sofraniaeth San Steffan yn cam-ddarllen y dyn. Os oes 'na LCO dadleuol (ac mae'n sicr y bydd na rai) ceisio cyfaddawd rhwng y cynulliad a San Steffan fyddai ymateb greddfol yr ysgrifennydd newydd. Yn unswydd oherwydd ei fod sgeptig fe fydd aelodau seneddol yn fwy pario i wrando arno fe nac ar ei ragflaenydd.

Un o'r LCOau dadleuol bwriedir eu cyflwyno i San Steffan cyn bo hir yw un cynhwysfawr ar ddeddfwriaeth ieithyddol gan Rhodri Glyn. Gan fod hyd yn oed cyfeillion gwleidyddol Paul Murphy yn ddweud ei fod yn casáu'r iaith Gymraeg a'i siaradwyr gymaint bod ei agwedd at yr iaith yn ymylu at fod yn ffobia, nid ydwyf yn rhannu hyder Vaughan.

13/09/2007

Dim Darlledu Cymraeg o Gynhadledd y Blaid

Mae Adam Price yn honni yn y rhifyn cyfredol o'r Western Mail mae Cynhadledd y Blaid eleni, sydd yn cychwyn yn Llandudno heddiw, bydd y gynhadledd bwysicaf yn hanes y Blaid erioed. Mae peth cyfiawnhad i froliant yr AS, dyma fydd y gynhadledd gyntaf yn ei hanes i'w cynnal gyda'r Blaid yn rhan o lywodraeth ein gwlad.

Er gwaethaf pwysigrwydd y Gynhadledd ymddengys bydd Golygydd Materion Cymreig y BBC (a blogiwr gwleidyddol Cymraeg y gorfforaeth) yn rhy brysur i'w fynychu. Ac, am y tro cyntaf imi gofio ers i'r sianel cael ei sefydlu, bydd dim un rhaglen o'r gynhadledd yn cael ei ddarlledu ar S4C.