Showing posts with label Tai Fforddiadwy. Show all posts
Showing posts with label Tai Fforddiadwy. Show all posts

07/10/2011

E-deiseb i'r Cynulliad ar Gartrefi Cymdeithasol

Mai Royston Jones (Jac o' the north) wedi cyflwyno’r ddeiseb isod i'r Cynulliad:

E-ddeiseb: Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru


Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r system ddiffygiol a ddefnyddir i ddyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, gall unigolyn nad yw erioed wedi ymweld â Chymru fod yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol, a hynny o flaen rhywun a aned ac a fagwyd yng Nghymru. Mae’r sefyllfa hon yn deillio o system bwyntiau sy’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ddigartref, pobl sy’n byw mewn tai yr ystyrir eu bod yn anaddas a phobl a gafodd eu rhyddhau’n ddiweddar o sefydliadau arbennig, ac ati.

Ar yr olwg gyntaf, mae’r strategaeth hon yn ymddangos yn strategaeth glodwiw; serch hynny, pan gaiff ei chymhwyso ar lefel y Deyrnas Unedig, gwelwn lif diddiwedd o bobl sydd â ‘phroblemau’ ac sy’n hanu o’r tu allan i Gymru yn amddifadu pobl Cymru o’r cyfle i gael tai cymdeithasol. Yn rhy aml, bydd y datblygiadau hyn yn difetha cymunedau.

Er mwyn datrys y broblem hon, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system lle byddai’n rhaid i unigolyn fyw yng Nghymru am gyfnod o bum mlynedd cyn y byddai’n gymwys i gael tŷ cymdeithasol. Yr unig eithriadau fyddai ffoaduriaid gwleidyddol a phobl eraill sy’n ceisio dianc o sefyllfaoedd lle maent yn cael eu herlid.
Gellir arwyddo'r ddeiseb trwy ddilyn y dolen YMA

08/04/2010

Y Torïaid yn rhoi tai haf cyn anghenion yr economi

Fel eglurodd George Monibot mewn erthygl pedair blynedd yn ôl, ac fel mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud am ddegawdau mae Ail Gartrefi yn draen ar gefn gwlad, yn creu diboblogi a digartrefedd, yn difetha cymdeithasau ac yn creu problemau amgylcheddol. Gan hynny roedd Alistair Darling yn iawn i gael gwared ar y gostyngiadau treth sydd ar gael i berchnogion ail gartrefi. Mewn cyfnod o gyni economaidd mae'r cysyniad bod perchenogion tai haf yn cael bendith treth yn gwbl wrthyn.

Pan elwir etholiad Sansteffan mae yna drefn ar gael lle mae'r gwrthbleidiau yn gallu caniatáu i fusnes anorffenedig y llywodraeth cael ei orffen ar frys trwy system a elwir golchi fynnu. I fusnes cael ei gynnwys yn y gyfundrefn y golch mae'n rhaid i'r brif wrthblaid cytuno ar yr eitemau, os nad oes cytundeb mae'r busnes yn syrthio.

Mae llawer o sylw wedi cael ei roi i'r ffaith bod yr eLCO tai fforddiadwy yn un o'r pethau sydd heb dderbyn cydweithrediad y Ceidwadwyr a gan hynny bydd y mesur yma yn syrthio. Eitem arall sydd wedi cael llai o sylw ond a fydd yr un mor andwyol i broblemau tai Cymru yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr am ladd y polisi i gael gwared ar ostyngiad treth i berchnogion tai haf hefyd.

Ond oes rhyfedd fod y Torïaid yn rhoi anghenion perchenogion tai haf o flaen anghenion trigolion cefn gwlad, gan na fyddent am bechu'r rhai maent am eu perswadio i bleidleisio o'u hail gartrefi er mwyn gwyrdroi canlyniadau etholiadol Cymru?

03/07/2009

Tai Fforddiadwy

Mae'r Cynghorydd Dyfrig Jones yn codi pwnc hynod ddiddorol ar ei flog heddiw parthed Tai Fforddiadwy.

Dydy Dyfrig ddim yn hoffi'r ffaith bod Cynghorydd Llais Gwynedd, Aeron Jones, wedi ddatgan mae "Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy", gan wrthwynebu cais i glirio tomen lechi yn Nhalysarn er mwyn codi stad o dai yno.

Mae Dyfrig yn mynd rhagddi i roi ergyd gwleidyddol i Aeron trwy ofyn A yw datganiad Aeron neithiwr yn golygu fod Llais Gwynedd yn gwrthwynebu polisi Plaid Cymru o sicrhau tai fforddiadwy i drigolion Gwynedd?

Rwy'n gwybod dim am hanes y stad tai dan sylw. Gan nad ydwyf yn aelod o'r naill blaid na'r llall, nid ydwyf yn gwybod dim am bolisïau’r pleidiau ar dai fforddiadwy. Ond mae post Dyfrig yn codi cwestiwn pwysig parthed tai fforddiadwy - sef beth yn union ydynt?

Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlid a sylw Aeron. O'r hyn rwy'n gallu gweld does 'na run ddiffiniad cadarn o be ydy tŷ fforddiadwy yn ynysoedd Prydain. Mae swyddogion cynllunio yn creu canllawiau unigol er mwyn diffinio be ydy tŷ fforddiadwy ond mae'r canllawiau hynny yn gwahaniaethu o gyngor i gyngor.

Ond mae 'na ddiffiniad cyffredinol sydd yn awgrymu na ddyla’ deiliad y tŷ talu rhagor na 30% o'i incwm gros ar rent / taliadau morgais a threthi perchentyaeth (treth y cyngor, treth dŵr ac ati).

O edrych ar gyflogau cyffredinol pobl gogledd orllewin Cymru, roedd rhenti tai Cyngor (cyn eu preifateiddio) yn llawer is na'r diffyniad, mae rhenti'r Cymdeithasau Tai yn ymylu ar ffîn y diffiniad, ond does dim modd o gwbl i brynu tŷ fforddiadwy o fewn y ddiffyniad, hyd yn oed os ydy'r tŷ yn cael ei farchnata o dan y fath label.

Mae yna lawer o dystiolaeth anecdotaidd i awgrymu bod y tai fforddiadwy, honedig sydd ar werth, ym mhell o fod yn fforddiadwy i lawer o weithwyr cyffredin Cymru ac mae mewnfudwyr yw'r rhai mwyaf tebygol o allu eu fforddio! Sydd yn mynd croes i'r graen braidd, ac yn cadarnhau'r ddatganiad mae Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy.

Ac, wrth gwrs, pan fo tai fforddiadwy yn cael eu cynnig fel rhan o ddatblygiad, lleiafswm o'r datblygiad ydynt fel arfer. Rhwng 10% ac 20% yn aml. Sydd yn golygu bod 80-90% o'r tai am fod y tu hwnt i'r hyn mae pobl leol yn gallu eu fforddio. Byddwn i ddim am weld ystâd o dai lle mae 80% i 90% o'r tai yn cael eu cynllunio i fod y tu hwnt i allu'r trigolion lleol i'w prynu yn cael eu hadeiladu yn fy mhentref bach i, diolch yn fawr!