Showing posts with label Senedd. Show all posts
Showing posts with label Senedd. Show all posts

04/07/2012

Carwyn Jones yn chware Jeopardy

Pan oeddwn tua naw oed daeth fy Hen Fodryb Doli ar ymweliad i'r hen wlad yn ôl o'r America gyda'i siwtcesys yn llawn o anrhegion i holl aelodau'r teulu. Yng ngŵydd Anti Doli, yr oeddem ni'r plant yn cael ein hannog i ddangos ein diolchgarwch didwyll iddi am ei rhoddion; ond yn y sgyrsiau, nad oedd y plant i fod i glywed, roedd yr oedolion yn cyhuddo Anti Doli o fod yn hen witch (efo treigliad amheus) am floeddio ei chyfoeth a cheisio dangos bod hi'n byw mewn gwell byd na ni! Roeddwn yn gytûn a'r oedolion - fy mhresant i oedd gêm bwrdd wedi ei selio ar raglen Teledu Americanaidd. Heb deledu yn y tŷ ac efo fawr o amgyffred o ble oedd yr Amerig (ar wahân i'r ffaith ei fod dros y môr o'r Bermo), prin fod gêm o'r fath am fy nghyffroi.

Roedd o'n gêm wirion hefyd!

Byrdwn y gêm oedd dyma'r ateb: be di'r cwestiwn? A dim ots os oedd eich cwestiwn yn un ddilys ar gyfer yr ateb - oni bai mae'r ateb ar y cerdyn ydoedd, nid oedd yn ddigon dda! Twt lol botas maip! Yn groes i ddymuniad Anti Doli yr oeddwn yn falch o gredu; bod y fath lol ddim ar gael y Mhrydain. Ond yr oeddwn yn anghywir!

Rhyw pum mlynedd ar ôl ymweliad Anti Doli dechreuwyd darlledu trafodion Senedd San Steffan ar y Radio. Am gyfnod bûm yn wrandäwr brwd, ond yn fuan cefais fy nadrithio, yn bennaf gan fod sesiwn "Cwestiynau i'r Prif Weinidog" yn fy atgoffa o gêm bwrdd Anti Doli – yr oedd yn amhosibl cysylltu'r cwestiwn o'r ateb a roddwyd!

Un o'r rhesymau imi ddyfod yn Genedlaetholwr oedd gwrando ar y darllediadau radio cyntaf yna o San Steffan. Cefais fy magu i gredu mai system seneddol Prydain oedd y gorau yn y byd; ond o glywed y trafodion yr oeddwn yn sicr bod modd i Gymru gwneud yn well na hynny!

Cefais fy siomi o'r ochor orau o gychwyn y Cynulliad Genedlaethol o glywed Rhodri Morgan yn ateb cwestiynau yn onest. Hwyrach nad oedd y theatr wleidyddol yno ond roedd y chwa o onestrwydd yn well. Yn aml iawn roedd Rhodri Morgan yn ateb cwestiynau nad oedd o'n gwybod yr atebion iddynt trwy ddweud "smoi'n gwybod - na'i 'mofyn ateb" Gonestrwydd gwych!

Yn anffodus mae'n well gan Carwyn Jones chware gêm Anti Doli.

Dyma un o'i atebion o'r Cofnod Cyfarfod Llawn (sydd eto i'w gyfieithu ar lein):

There are issues that the leader of Plaid Cymru needs to clarify for the people of Wales. First, does she agree with her colleague Bethan Jenkins that Martin McGuinness, the Deputy First Minister of Northern Ireland, is naive in shaking the Queen’s hand? Secondly, she knows that the leader of her parliamentary party, Elfyn Llwyd, met Argentinian diplomats. I accept Elfyn Llwyd’s explanation for why he met them, but does she support the right of the people of the Falkland islands to self-determination? She raises issues of defence; I am sure that there are issues in Plaid Cymru that would be very interesting for the people of Wales to have clarified.

Be oedd y Cwestiwn?

A ddylid lleoli arfau niwclear yng Nghymru? Coeliwch neu beidio!

Callia Carwyn! - Mae'r bobl sy'n cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru yn haeddu gwell na lol San Steffan a gêm wirion Anti Doli!



08/06/2011

Ymddygiad Amharchus gan Aelodau Cynulliad

Fe wnaeth nifer o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru dangos diffyg parch arswydus yn ystod ymweliad Brenhines Lloegr i'r Senedd ddoe.

Cafodd y mwyafrif helaeth o'r aelodau eu hethol wedi sefyll etholiad fel Sosialwyr, Cenedlaetholwyr neu Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Sosialwyr i fod i gredu bod pawb yn gyfartal, nad oes bonedd a gwrêng, nad yw un unigolyn yn well nag un arall oherwydd damwain genedigaeth. Mae Cenedlaetholwyr i fod i gredu bod Cymru yn genedl, bod sofraniaeth yn dod o bobl Cymru yn hytrach nag oddi wrth Teyrn gwlad arall. Mae democratiaid i fod i gredu bod pennaeth gwlad yn cael ei ethol gan y bobl yn hytrach na chael ei roi inni "Trwy Ras Duw" ac etifeddfraint. Trwy sefyll etholiad ar y fath tocynnau does dim byd sydd yn rhesymol sy’n awgrymu dylai'r buddugol yn yr etholiadau cow-towio i Frenhines wedi eu hethol, ond dewisodd 38 o'r 45 ohonynt wneud hynny ddoe.

Roedd ymddygiad 38 o Aelodau'r Cynulliad a benderfynodd mynychu Agoriad Brenhinol y Senedd ddoe yn hynod amharchus; yn amharchu'r etholwyr a'u hetholasant fel Sosialwyr, Cenedlaetholwyr a Democratiaid, yn amharchu egwyddorion Sosialaeth, Cenedlaetholdeb a Democratiaeth ond yn waeth byth yn dangos diffyg hunan barch, trwy wneud rhywbeth nad oeddent yn dymuno gwneud er mwyn y drefn!

Diolch byth am y pump a ddangosodd dipyn bach o barch i'w etholwyr, eu hegwyddorion a'u hunain.

23/09/2010

Plîs Ieuan, paid a bwrw'r pwlpud!

Neges fach i Ieuan Wyn Jones:

Annwyl Ieuan,

Rwy'n gwybod bod yna hen draddodiad o'r pregethwyr mawr yn dyrnu'r pwlpud er mwyn pwysleisio pwynt pwysig. Mae'n gweithio mewn capel, ond dydy o ddim yn gweithio ar y teledu!

Rwy'n ceisio gwrando ar dy ymatebion i gwestiynau yn y Senedd ar S4C ar hyn o bryd, ond pob tro yr wyt yn bwrw'r pwlpud plastig yna yr wyt yn ei ddefnyddio mae'r meic yn ei godi ac yn boddi gair, sydd yn ei wneud o'n anodd ar y diawl i ddilyn dy ymatebion.

Plîs Ieuan, rho'r gorau i'r arfer, os wyt yn teimlo'n flin bwra gwrthwynebydd gwleidyddol, bwra dy ben yn erbyn y wal, bwra dy had fel stalwyn (Eseciel 23:20), ond paid a bwrw dy fysedd ar y blydi pwlpud na!

Yn gywir

HRF