Showing posts with label Rhyngrwyd. Show all posts
Showing posts with label Rhyngrwyd. Show all posts

04/09/2010

Pethau Bychain - hanes mawr!

Diddorol heddiw (ddoe bellach) oedd sylwi ar ymgyrch Pethau Bychain, sef ymgyrch i gael rhagor o Gymry i ddefnyddio'r Gymraeg ar y we.

Rhaid imi ymddiheuro am fethu'r achlysur. Ond o ran cyfiawnhad yr wyf wedi gosod ambell beth Cymraeg ar y we dros y blynyddoedd heb agen achlysur. Er enghraifft Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn, Hanes Methodistiaid Corris ac ati (ie rwy'n gwybod bod y diwyg yn wael bellach, ond roedd yn wych ar y pryd)!

Ond ta waeth yr wyf wedi bod yn defnyddio a chyfrannu at gorpws Cymraeg y we ers yn agos i bymtheng mlynedd. Rwy'n cofio ymchwilio i faint o'r Gymraeg oedd ar y we tua 1997; ar y pryd roedd ystadegau yn dangos mae'r Gymraeg oedd y drydedd iaith ar ddeg mwyaf amlwg ar y we. Ystadegyn sydd wedi ei selio ar fy nghof oherwydd mae'r Gymraeg oedd y drydedd iaith ar ddeg i'r Beibl cael ei gyfieithu iddo hefyd.

Er chwilio a chwalu rwy’n methu cael hyd i ystadegau tebyg cyfredol. Efo mwy o wledydd a mwy o ieithoedd yn defnyddio'r we mae'n debyg bod y Gymraeg wedi llithro i lawr y tabl o'r ieithoedd sy'n cael eu defnyddio ar y we bellach. Yn sicr mae angen fwy o ddefnydd o'r Gymraeg ar y we ac mae ymgyrch Pethau Bychain i gael mwy o Gymraeg ar y we yn beth clodwiw - ond cyn inni fflangellu ein hunain a darogan gormod o wae, da o beth yw cofio bod y Gymraeg wedi bod yn rhan o'r we bron o'r cychwyn cyntaf - peth i'w ddathlu!

O ran diddordeb, a oes unrhyw ymchwil sy'n gallu pennu be oedd y tudalen Cymraeg gyntaf ar y we, pwy ddanfonodd yr e-bost Cymraeg gyntaf ac ati?