Showing posts with label Prif Weinidog. Show all posts
Showing posts with label Prif Weinidog. Show all posts

18/05/2017

Rhodri Morgan

Ar ddechrau Gorffennaf 2005, cynhaliwyd cynhadledd G8 yn Glenegles yr Alban. Bu tua 10,000 o heddlu arfog y DU a miloedd o Luoedd Diogelwch tramor yn amddiffyn y gwladweinwyr. 

Pythefnos yn ddiweddarach cynhaliwyd Sesiwn Fawr Dolgellau. Mi fûm yn sgwrsio efo Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, mewn ciw Siop Chips yn Nolgellau. Roeddwn yn teimlo mor falch o fod yn Gymro! Yn gallu trafod ansawdd bwyd a cherddoriaeth Cymraeg, mewn modd mor anffurfiol, gyda fy ngwladweinydd heb heddwas na swyddog diogelwch i’w gweld yn unlle.


Heddwch i lwch Rhodri Morgan, bydd colled fawr ar ei ôl.

17/04/2013

Mrs Thatcher - Angladd Y Fi Fawr



Y peth cyntaf imi gofio ei weld ar deledu erioed oedd cynhebrwng Winston Churchill ym 1965. Yn wir prynwyd y teledu cyntaf gan fy nheulu yn unswydd ar gyfer ei wylio.

Nid Churchill oedd y prif weinidog cyntaf i gael cynhebrwng Seremonïol / Gwladol, cafodd Dug Wellington un a William Gladstone hefyd.

Rhwng marw Mr Churchill a Mrs Thatcher mae 6 o Brif Weinidogion eraill y DU wedi marw Eden, MacMillan, Attlee, Wilson, Callahagn a Heath a phob un wedi ymadael heb sploets gwladol /seremonïol. Sydd yn codi y cwestiwn pam bod marwolaeth Thatcher yn cael ei thrin yn wahanol i farwolaethau ei rhagflaenwyr?

Yr ateb, mae'n debyg, yw dewis personol. Mae pob cyn Brif Weinidog yn cael nodi os ydyw am gael cynhebrwng mawr cenedlaethol. Ers 1965 yr unig un i ddweud ydwyf yw Mrs Thatcher, sydd yn adrodd cyfrolau am natur y ddynes. Nid y wlad sydd wedi penderfynu ei chofio gyda'r fath sploets ond Y Fi Fawr Hunanbwysig sy'n gwbl nodweddiadol o'i chymeriad hunanol. Mae'r ffaith bod y chwech arall wedi dweud na yn profi eu bod yn bobl llawer mwy diymhongar, nes at y bobl, ac yn fwy haeddiannol o barch na'r un sy'n cael ei choffau heddiw.

08/04/2009

Mae gen i dipyn o dŷ bach twt

Mewn post diweddar mae Vaughan yn nodi mae Prif Weinidog Cymru yw'r unig un o brif weinidogion yr ynysoedd hyn heb Gartref Swyddogol. Mae o'n honni bod ambell i was sifil wedi bod yn llygadu Plasty'r Dyffryn ar gyfyl Caerdydd fel lle posib i greu cartref o'r fath. Ond mae'r aelodau etholedig yn oeraidd tuag at y syniad, yn teimlo bydda brynu cartref swyddogol i wleidydd ddim yn boblogaidd iawn yn yr hinsawdd bresennol - yn enwedig efo ail gartrefi ASau ac ACau wedi cael gymaint o sylw negyddol yn ystod y misoedd diwethaf.

Rwy'n weddol gyfarwydd â Gerddi'r Dyffryn. Yn ystod yr 80au roedd NUPE, yr undeb llafur yr oeddwn yn swyddog ynddi, yn cynnal cyrsiau hyfforddi yno yn weddol reolaidd. Os cofiaf yn iawn bydda ryw 60 ohonom yn aros yn y Gerddi ar gyfer y cyrsiau. Trigain - yr un nifer ac sydd o aelodau o'r Cynulliad. Prynwch y lle meddaf fi - nid ar gyfer y PW yn unig ond er mwyn i bob un aelod cael sefyll yno. Wedyn bydda dim rhaid cynnig lwfansau ail gartref, taliad am fath marmor na theledu mawr i'r un aelod byth eto.