Showing posts with label Mwslemiaid. Show all posts
Showing posts with label Mwslemiaid. Show all posts

14/06/2009

Protestio'n "Heddychlon" yn Iran?

Dwi ddim yn gwybod digon am wleidyddiaeth Iran i wybod pwy sy'n gywir. Pryderon Hilary Clinton bod yr etholiad yn un llwgr, neu farn Cai bod y Gorllewin yn creu ei heip ei hunain ac yn methu coelio pan fo pobl gyffredin wlad tramor yn pleidleisio yn ôl eu hegwyddorion traddodiadol yn hytrach na heip y gorllewin.

Ond newydd wrando ar adroddiad ar newyddion rhyngwladol y BBC, mi gefais fy synnu o glywed yr ymadrodd Peaceful Protest yn cael ei ddefnyddio pedair gwaith mewn adroddiad byr a oedd yn cynnwys lluniau o bobl yn rhedeg yn ffyrnig trwy'r strydoedd, yn taflu cerrig, yn llosgi cerbydau ac yn ymosod yn gorfforol ar heddweision.

Hwyrach bod sail i ddicter protest trigolion Iran, ond does dim modd ei ddisgrifio fel un heddychlon. Pe bai'r fath brotest yn cael ei gynnal yn y gorllewin bydda'r BBC ddim yn ei ddisgrifio fel un heddychlon ar unrhyw gyfrif. Yn wir yr wyf wedi clywed ambell i brotest digon diniwed gan undebwyr CyIG ac ati yn cael eu disgrifio fel vicious, extremist ac ati gan y Gorfforaeth.

Yr hyn sydd yn annerbyniol o hurt yw bod y BBC yn methu gweld bod y ddeuoliaeth amlwg yma o adrodd hanes protestiadau mewn gwahanol ardaloedd y byd yn chware i ddwylo eithafwyr yn yr ynysoedd hyn.

Ychydig wythnosau yn ol roedd llond llaw o Fwslemiaid yn gweiddi ar adeg orymdaith filwrol trwy Luton ac yn cael eu disgrifio fel protestwyr eithafol. Heddiw mae miloedd o bobl yn protestio mewn modd treisiol yn erbyn canlyniad etholiad mewn gwlad Fwslimaidd ac mae eu protest yn cael ei ddisgrifio fel un heddychlon. Ble mae'r cysondeb adrodd?

Ffordd dda i riciwtio pobl ifanc Mwslemaidd sydd yn driw i'w ffydd i rengoedd y rhai sydd yn dweud bod Prydain yn wladwriaeth ddauwynebog wrth-Fwslimaidd, tybiwn i.

English