Showing posts with label Lloegr. Show all posts
Showing posts with label Lloegr. Show all posts

24/04/2010

Gŵyl San Siôr hapus

Sori braidd yn hwyr ond Gŵyl San Siôr hapus am ddoe!



Fel chwarter Sais hoffwn weld Lloegr yn wlad rydd, ac annibynol.

There'll always be an England and England will be Free if England means as much to you ag y mae Lloegr, wir yr, yn golygu i mi!

24/01/2009

Dwynwen yn Hwb i Rygbi Cymru!

Syniad da bydd dathlu Gŵyl Dwynwen yfory yn hytrach na Gŵyl Folant ar Chwefror 14eg i'r sawl sydd mewn perthynas ag yn hoff o'r bêl hirgron.

Meddyliwch am y Saeson druan bydd yn gorfod dewis rhwng cefnogi eu gwlad neu dangos serch i'w cariadon ym mhen tair wythnos! Bydd Cymru yn chware Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Ddydd Gŵyl Folant. Bydd rhaid i'r Sais druan dewis rhwng rygbi a phin rowlio neu bryd bach rhamantus tra bydd y gêm ar ei anterth. Druan ohono!

Bydd y Cymro rhamantus eisoes wedi dangos faint ei serch trwy flodau, siocled, pryd a nwyd ar Ionawr y 25ain. Mi fydd yn rhydd i floeddio yn gwbl ddieuog dros ei wlad pan ddaw Gŵyl Folant.

Gwerth o leiaf 5 pwynt i dîm Dwynwen, tybiwn i.

Felly gwnewch yn fawr o'ch cariad i'ch cariad yfory, er mwyn cael y rhyddid i ddangos eich cariad llwyr i dîm ein gwlad ar Chwefror 14!

24/02/2008

Gwna fi'n Sgotyn!

Mae nifer o drefi a phentrefi Seisnig ar y ffin rhwng Lloegr a’r Alban yn cefnogi symud y ffin er mwyn eu gwneud yn Sgotiaid, o ganlyniad i lwyddiannau llywodraeth lleiafrifol yr SNP ers mis Mai diwethaf, yn ôl y Sunday Express

Gwelaf dim bai arnynt, mae llywodraeth Alex Salmond wedi bod mor llwyddiannus fel fy mod i bron a bod am ymgyrchu i symud y ffin gymaint i'r de ag i gynnwys Llansanffraid Glan Conwy!

27/05/2007

Atgyfodi Datganoli i Loegr

Yn ôl cynlluniau ar adrefnu cyfansoddiad llywodraethol gwledydd Prydain y Blaid Lafur pan ddaeth Tony Blair i rym ym 1997 roedd Cymru a'r Alban i gael eu datganoli gyntaf ac yna roedd rhanbarthau Lloegr i'w datganoli. Fe aeth y cynllun yma ar chwâl yn 2004 pan bleidleisiodd etholwyr Gogledd Ddwyrain Lloegr yn gadarn yn erbyn datganoli. Y rhanbarth yma oedd yr un a ystyrid fel y mwyaf tebygol i bleidleisio o blaid, ac o golli'r refferendwm roedd yn amlwg nad oedd modd symud ymlaen a'r cynlluniau mewn unrhyw ranbarth arall.

Yn ôl adroddiad yn y Sunday Herald heddiw bydd Gordon Brown yn ceisio atgyfodi datganoli rhanbarthol i Loegr pan ddaw yn brif weinidog.

Mae datganoli rhanbarthol i Loegr yn bwysig i Brown oherwydd ei ofnau y bydd y ffaith ei fod yn Sgotyn yn cyfrif yn ei erbyn mewn etholiad cyffredinol. Mae nifer o Saeson eisoes yn gofyn pa hawl sydd ganddo i fod yn Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros nifer o agweddau ar lywodraeth Lloegr tra fo'r agweddau yna yn cael eu pennu gan Lywodraeth arall o dan reolaeth plaid arall yn ei gartref ef ei hun.

Wrth gwrs, does dim mymryn mwy o alw am ddatganoli i ranbarthau Lloegr heddiw nag oedd yn ôl yn 2004, a dim gobaith ennill refferendwm o blaid yn unrhyw un ohonynt. Mae yna bosibilrwydd felly bydd Brown yn ceisio osgoi'r angen am refferenda yn llwyr. Mae gan Loegr ei Gynulliadau Rhanbarthol yn barod. Cyrff statudol sydd yn dod a chynghorwyr a chynrychiolwyr cyrff cyhoeddus a gwirfoddol yng nghyd i drafod pethau megis datblygu rhanbarthol. Mae modd i Brown "democrateiddio" y cyrff hyn trwy fynnu bod eu haelodau yn cael eu hethol yn hytrach na'u henwebu.

Mae'n rhaid gwrthwynebu'r fath gynllun.

Yn gyntaf oherwydd bod Cernyw yn rhan o ranbarth De Orllewin Lloegr, sydd yn cynnwys y cyfan o'r penrhyn de gorllewinol. Gwlad yw Cernyw sydd yn haeddu ei senedd / cynulliad ei hun, gwarth ar bobl Cernyw yw eu trin fel rhan fach o ranbarth Seisnig.

Yn ail oherwydd bydd y cynlluniau yn diraddio statws cenedlaethol Cymru a'r Alban - rhanbarthau Prydeinig tebyg i ganolbarth Lloegr byddent ar ôl datganoli Seisnig yn hytrach na Chenhedloedd.

Yn drydydd, ac o bosib yn bwysicach yw oherwydd mae Cenedl ydy Lloegr hefyd, nid cyfres o ranbarthau. Os ydy Lloegr i'w trin yn gyfartal a Chymru a'r Alban yna Senedd i Loegr sydd ei hangen nid naw cynulliad i Loegr.

Saesneg: Resurrection of English Regional Devolution